Eitem Agenda

Rhoi Deddf Llesiant a'r Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 ar waith

Briff ar y Gwasanaeth Atal yn ogystal â’r Strategaeth Cymorth Cynnar.

 

(a)   Bydd y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet, Dirprwy Arweinydd y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd) yn bresennol ac efallai y bydd am wneud datganiad;

(b)  Bydd Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol), Cheryl Chapman (Rheolwr Gweithredol ar gyfer Ymyrraeth Gynnar) ac Angela Bourge (Rheolwr Gweithredol Adnoddau) yn cyflwyno’r adroddiad a byddant ar gael i ateb cwestiynau’r Aelodau; a  

(c)   Chwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet, Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a'r Dirprwy Arweinydd), Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol), Cheryl Chapman (Rheolwr Gweithredol Ymyrraeth Gynnar) ac Angela Bourge (Rheolwr Gweithredol Adnoddau) i’r cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad ar y cynnydd a wneir i sicrhau bod y Cyngor yn barod i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ynghylch Gwasanaethau Atal.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig a chawsant eu gwahodd i wneud sylwadau, ceisio eglurder neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd.  Ceir crynodebau o’r trafodaethau hynny isod:

 

  • Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw ddata ar gael sy'n dangos defnydd cyfeiriadur gwasanaethau Dewis Cymru ac a yw’r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd neu gan sefydliadau neu beidio. 

Dywedodd y Swyddogion y gallai’r wybodaeth gael ei darparu maes o law.

 

  • Gofynnwyd i'r aelodau am y meini prawf cymhwyster newydd ar gyfer anghenion unigol a dywedwyd wrthynt, yn y dyfodol bydd ymagwedd fwy hyblyg; caiff ystod o wasanaethau a gynigir eu hystyried, yn hytrach na chynllun gofal a chymorth penodol. 

 

  • Gofynnwyd i'r Swyddogion a yw’r Ddeddf yn rhoi cyfle i’r awdurdod gomisiynu gwasanaethau a chyfraddau gostyngedig a dywedwyd nad oes unrhyw beth i atal hynny, er y byddai'n rhaid bod ag achos busnes ar ei gyfer. 

Ffocws y Ddeddf yw symud o ddarpariaeth i ataliaeth er mwyn annog gwasanaethau i ymestyn y ffiniau.  Mae yngl?n â chyd-gynhyrchu gwasanaethau.  

 

  • Holodd yr Aelodau am y dystiolaeth y mae lleihad yn nifer y Plant sy’n derbyn Gofal yn seiliedig arni a dywedwyd wrthynt ei fod yn rhagweld y bydd 5% o ostyngiad yn y ffigwr, er ar hyn o bryd mae'r ffigwr yn uwch nag erioed o'r blaen.  

 

  • Mynegodd y Pwyllgor bryder am ddyfodol Teuluoedd yn Gyntaf pan fydd y cyllid yn dod i ben a dywedwyd wrthynt bod yr awdurdod eisoes wedi dechrau deialog gyda'r darparwyr arweiniol.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau alinio mentra gwrth-dlodi, er enghraifft Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg, er eu bod yn aros am gadarnhad gan y Prif Weinidog o hyd.

 

  • Dywedodd y Swyddogion na ellir dechrau’r broses ail-gomisiynu eto.  

Bydd y cyllid presennol yn dod i ben fis Mawrth 2017, fodd bynnag mae darpariaeth i’w ymestyn 2 flynedd ond mae rhai risgiau ariannol wrth ymestyn contractau.

 

  • Dywedwyd wrth yr Aelodau bod unrhyw danwariant o gyllid Teuluoedd yn Gyntaf wedi'i ddychwelyd o'r blaen i Lywodraeth Cymru. 

Mynegodd yr Aelodau bryder nad oeddent wedi cael gwybod am y tanwariant a holi am y rheswm dros ei ddychwelyd.

 

  • Holodd yr Aelodau a oedd y protocolau rhannu gwybodaeth yn gweithredu’n llwyddiannus ac er cael gwybod bod rhannu gwybodaeth yn fater cymhleth, yn sicr gyda lansiad MASH, a leolir yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd, mae rhannu gwybodaeth ar y lefel sylfaenol yn gweithio a hefyd mae'r protocolau yn gweithio. 

Mae’n cael ei yrru ymlaen gan Reolwr y Project. Yn ogystal, mae’r MHub yn cysylltu amrywiaeth o gronfeydd data.

 

  • Gofynnodd yr Aelodau a fydd ymagwedd Llwybr Cymorth Cynnar yn darparu pwynt cysylltiad unigol. 

Dywedodd y Swyddogion ei fod yn dibynnu ar asiantaethau yn gweithio gyda’i gilydd a gall gefnogi gweithwyr proffesiynol eraill, er enghraifft cynnig cyngor ac arweiniad i athro sy’n mynegi pryder am blentyn neu berson ifanc yn yr ysgol.  

 

  • Dywedwyd wrth yr Aelodau y defnyddir offeryn y Fframwaith Cyd-asesu Teuluoedd (JAFF) i helpu i adnabod teuluoedd sydd angen cymorth cynnar. 

Gall hyd yn oed ymgysylltu â'r asesiad helpu'r teulu i oresgyn yr anhawster.  

 

  • Croesawodd yr Aelodau y Llwybr Cynllunio ac Asesu ar gyfer Cymorth Cynnar, ond roeddent yn teimlo fod angen i rywfaint o'r geiriad fod yn gliriach ac yn fwy manwl gywir, er enghraifft dylai 'dylai rhywun weithredu fel y gweithiwr arweiniol sefydlu'n gliriach beth sydd angen ei wneud a chan bwy.

 

  • Roedd y Pwyllgor yn awyddus i wybod beth oedd y sefyllfa mewn perthynas â gofalwyr ifanc a dywedwyd wrthynt y bu strategaeth ar gyfer gofalwyr ifanc yn hanesyddol, fodd bynnag, bellach mae'r Strategaeth Cymorth Cynnar yn cynnwys gofalwyr ifanc.   

Bydd JAFF yn helpu adnabod gofalwyr ifanc. 

Nid yw gofalwyr ifanc bob amser eisiau angen cymorth Gweithiwr Cymdeithasol.

 

 

Dogfennau ategol: