Rhoi cyfle i'r Pwyllgor drafod a chytuno ar nifer o ddewisiadau posibl i’w cynnwys yn rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn nesaf.
(a) Bydd y Swyddog Craffu yn cyflwyno’r adroddiad yn gryno;
(b) Trafod eitemau drafft; a
(c) Chytuno ar raglen waith ar gyfer y dyfodol.
Cofnodion:
Cyflwynodd Martyn Hutchings (Prif Swyddog Craffu) yr adroddiad a’r rhaglen waith ddrafft ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol 2016-17.
CYTUNWYD: Nodi’r materion i’w hystyried ar gyfer rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2016-17 er mwyn galluogi i fersiwn derfynol gael ei pharatoi i’w cymeradwyo yng nghyfarfod mis Medi.
Dogfennau ategol: