Ystyried Adroddiad Drafft y Cabinet
(a) Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) yn bresennol ac mae’n bosibl y bydd hi am wneud datganiad;
(b) Bydd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Jennie Hughes (Arweinydd Cyrhaeddiad Uwch – Cynhwysiant) yn cyflwyno’r adroddiad a byddant ar gael i ateb cwestiynau’r Aelodau; a
(c) Chwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Jennie Hughes (Uwch Arweinydd Cyflawniad ar gyfer Cynhwysiant) i’r cyfarfod.
Gwnaeth y Cynghorydd Merry ddatganiad i’r Pwyllgor a dywedodd, er, fel canlyniad i’r ymgynghoriad cychwynnol y cynigwyd cau Ysgol Meadowbank, argymhellir bellach y dylid cynnal adolygiad arall o gymorth iaith a lleferydd yng Nghaerdydd gyda’r nod o ddod â chynnig diwygiedig ymlaen a sicrhau bod y caiff anghenion plant sydd ag anghenion iaith a lleferydd a leolir yn Meadowbank ac Allensbank eu hystyried.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr y cydnabyddir bod angen parhaus am ddarpariaeth arbenigol ar gyfer plant sydd â’r anghenion iaith a lleferydd mwyaf cymhleth ac y bydd yr angen parhaus hwnnw yn parhau yn flaenoriaeth p’un ai a yw’n seiliedig ar adnoddau neu mewn ysgol arbenigol. Cafodd y Pwyllgor gyfle i wneud sylwadau, ceisio eglurder neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Ceir crynodebau o’r trafodaethau hynny fel a ganlyn:
Dywedodd y Swyddogion bod angen gwneud rhagor o waith i ddeall y materion a dod o hyd i’r ffordd orau ymlaen.
Y gobaith yw y caiff arfarniad cychwynnol o'r gwasanaeth iaith a lleferydd yn y prif ffrwd ei gwblhau erbyn y Nadolig.
Mae tystiolaeth glir mai’r ffactor cryfaf yn y rhai sy’n mynd yn NEET yw ansawdd yr addysg.
Roedd 12 o blant ysgol gynradd yn elwa ar y cymorth arbennig hwnnw yn rhywle arall ar yr adeg hon. Dywedodd y Swyddogion na chaiff y plant hynny eu lleoli y tu allan i'r sir oherwydd darpariaeth annigonol yn y sir. Mae 6 ohonynt yn derbyn gofal, wedi’u lleoli mewn gofal maeth y tu allan i Gaerdydd mewn ysgolion a gynhelir mewn Awdurdodau Lleol eraill. Cafodd 6 ohonynt eu lleoli oherwydd tribiwnlys neu gyngor cyfreithiol. Gall yr Awdurdod ddarparu am eu holl anghenion.
Gofynnir i’r rhieni nodi eu hysgol ddewisol.
Ceir pryderon y byddai plant a phobl ifanc yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu a fyddai'n arwain atynt yn teimlo'n ynysig mewn ysgol prif ffrwd. Cytunodd y Swyddogion fod galw am leoedd mewn ysgolion arbennig ond gwnaethant fynegi’r barn nad yw hyn yn briodol ar gyfer angen penodol lle nad oes anabledd dysgu.
Dywedodd y Swyddogion y caiff yr anawsterau a wynebir ar hyn o bryd eu gwaethygu gan yr oedi; bydd ansicrwydd ond mae'r Swyddogion yn gweithio gyda'r ysgol i’w chefnogi i symud ymlaen a gwnaethant y sylw fod angen gwerthfawrogi arbenigedd yn yr ysgol, yn hytrach na’i golli.
Dros y 5 mlynedd diwethaf, bu perthynas gydweithredol gyda’r gwasanaeth therapi ac mae cefnogaeth prif ffrwd y gryf.
PENDERFYNWYD: Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.
Dogfennau ategol: