Dylid datgan buddiannau ar ddechrau'r eitem berthnasol ar yr agenda, yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau.
Cofnodion:
Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau o’u cyfrifoldeb o dan Rhan 3 o God Ymarfer yr Aelodau. Datganodd y Cynghorydd Boyle ddiddordeb personol yn eitemau 3 a 5. Mae ei blentyn wedi derbyn help allgymorth gan Ysgol Meadowbank ac mae'n ymddiriedolwr yr Elusen Halcyon y cyfeiriwyd ati yn y cwestiwn a ofynnwyd. Datganodd Mrs Hayley Smith ddiddordeb personol yn eitemau 3 a 4 ar y sail ei bod yn gyflogai i Barnardo’s a gomisiynir o fewn Teuluoedd yn Gyntaf.