Eitem Agenda

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion oed ysgol gynradd sydd ag Anawsterau Iaith a Lleferydd ac Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol

Penderfyniad:

RESOLVED; that the Director of Education and Lifelong Learning, in consultation with the Cabinet Member for Education be authorised to;

 

1.            Carry out a further review of speech and language support in Cardiff with the aim of bringing forward revised proposals;

 

2.            Undertake further engagement with schools and other stakeholders in relation to early intervention for children with behavioural emotional and social needs;

 

3.            Work with the governing bodies of Meadowbank and Allensbank Schools to ensure the needs of children with speech and language needs placed at the schools can continue to be met effectively, pending any revised proposals.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad sy’n amlinellu ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion cynradd ag anawsterau lleferydd ac Iaith, a disgyblion ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.

 

Nodwyd bod canlyniadau’r ymgynghoriad yn nodi pryderon sylweddol ar gyfer rhanddeiliaid a bod angen gwaith ychwanegol er mwyn ymgysylltu â rhanddeiliad yn well.

 

PENDERFYNWYD; y caiff Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Addysg ei awdurdodi i; 

 

1.            Gynnal adolygiad arall o gymorth iaith a lleferydd yng Nghaerdydd, gyda’r nod o ddod â chynigion diwygiedig gerbron;

 

2.            Ymgysylltu mwy ag ysgolion a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas ag ymyrraeth gynnar ar gyfer plant sydd ag anghenion ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol;

 

3.            Gweithio gyda chyrff llywodraethu Ysgolion Meadowbank ac Allensbank i sicrhau y gall anghenion plant sydd ag anghenion iaith a lleferydd a gafodd eu rhoi yn yr ysgolion barhau i gael eu bodloni'n effeithiol, hyd nes daw unrhyw gynigion diwygiedig.

 

Dogfennau ategol: