Penderfyniad:
RESOLVED: that the 2016/17 Corporate Asset Management Plan be approved.
Cofnodion:
Datganodd yr Arweinydd ddiddordeb personol ond heb fod yn niweidiol yn y mater hwn gan fod yn Aelod o Gyfeillion yr Hen Lyfrgell.
Datganodd y Cynghorydd Bradbury ddiddordeb personol ond heb fod yn niweidiol yn y mater hwn gan ei fod yn Aelod o ymddiriedolaeth Chwaraeon Caerau a Threlái sy’n ymwneud â throsglwyddo asedau cymunedol (CAT); mae hefyd yn ymddiriedolwr yn Amgueddfa Stori Caerdydd y cyfeirir ati yn yr adroddiad.
Datganodd Y Cynghorydd Hinchey ddiddordeb personol ond heb fod yn niweidiol yn y mater hwn gan ei fod yn Aelod o Gyfeillion Gerddi Llwynfedw sy’n ymwneud â CAT.
Ystyriodd y Cabinet adroddiad sy'n rhestru'r strategaeth ar gyfer rheoli 441 o eiddo gweithredol y Cyngor o fewn ei ystâd. Mae’r cynllun yn rhestru egwyddorion allweddol rhesymoli, moderneiddio a chydweithio i weithio tuag ag ystâd fodern sy’n llai, yn fwy effeithlon ac yn addas at y diben. Mae’r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol yn gosod targedau sy’n cynnwys lleihau ôl-groniad cynnal a chadw, lleihau costau rhedeg, a chynhyrchu derbynebau cyfalaf wrth sicrhau y bodlonir anghenion gweithredol y Cyngor.
PENDERFYNWYD: y caiff Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2016/17 ei gymeradwyo.
Dogfennau ategol: