Rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd i ddweud eu barn ar y cynigion wrth y Pwyllgor.
(a) Bydd Martyn Hutchings – y Prif Swyddog Craffu, yn cyflwyno’r adroddiad yn fras;
(b) Gwahodd Cynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd i annerch y Pwyllgor;
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Cofnodion:
Rhoddwyd cyfle i’r Pwyllgor glywed barn nifer o ddinasyddion a Chynghorydd sydd wedi mynegi ru sylwadau a’u pryderon yngl?n â'r bwriad i gau Ysgol Meadowbank.
Croesawodd y Cadeirydd Janette Carr, Faye Dale (Rhiant Disgybl), Diana James (Athrawes), Susanne Grover (cyn Bennaeth Ysgol Meadowbank) a’r Cynghorydd Jane Cowan i’r cyfarfod, a gwnaethant i gyd annerch y Pwyllgor.
Rhoddodd Janette Carr y wybodaeth ganlynol i’r Aelodau:
· Amlinelliad byr o’r strategaeth ADY
· Manylion o holiadur Afasic Cymru a anfonwyd at bob ysgol gynradd, i geisio gwybodaeth am nifer o faterion:
o Nododd 75% o’r rhieni, fel rhieni sy'n ceisio cefnogaeth am anghenion iaith a lleferydd, ni chynigiwyd lleoliad iddynt mewn darpariaeth iaith a lleferydd fel opsiwn i’w ystyried ac ar gyfer y rhieni hynny sy’n ceisio darpariaeth arbenigol, dywedwyd wrthynt nad oes lle.
o Nododd 95% nad yw athrawon yn yr ysgol yn teimlo bod ganddynt yr adnoddau i addysgu plant sydd ag anghenion iaith a lleferydd difrifol yn effeithiol.
· Mae lle yn ysgol Meadowbank yn costio tua £25,000 y flwyddyn, ac mae lle yn yr ysgol gynradd leol yn costio tua £3,600. Mae'n bosibl y gallai costio'n sylweddol fwy ar gyfer lleoliad y tu allan i'r sir.
· Mae plant sydd ag Anghenion Iaith a Chyfathrebu Difrifol (SLCN) mewn mwy o berygl o gael eu gwahardd o'r ysgol ac mae gan 60-90% o bobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid SLCN, ac ni chafodd llawer ohonynt eu hadnabod yn flaenorol cyn troseddu.
· Mynegwyd pryderon y bydd y Cyngor yn colli'r holl arbenigedd, gwybodaeth a staff arbenigol wrth i Meadowbank gau.
Rhoddodd Diana James y wybodaeth ganlynol i’r Aelodau:
Mae plant sydd â nam iaith penodol (SLI) ar ben pellaf y sbectrwm ac mae gofyn am wybodaeth, dealltwriaeth a strategaethau hynod o arbenigol er mwyn cefnogi eu hanghenion dwys a chymhleth.
Efallai eu bod yn gwneud synau, ond mae’n rhaid iddynt gael eu haddysgu i wneud hynny; ceir plant sydd wedi dysgu dweud nifer o synau gwahanol ond mae’r synau hyn wedi’u cymysgu felly mae’n ymddangos eu bod yn siarad iaith dramor; a hefyd ceir plant a all ddweud llawer o eiriau'n glir ond wrth iddynt roi'r geiriau hyn at ei gilydd mewn brawddeg, mae'r geiriau allan o drefn ac yn gymysglyd sy'n arwain at neges nad yw'n gwneud synnwyr. Esboniwyd bod mwyafrif y plant hyn sydd ag SLI pur o ddeallusrwydd cyfartalog.
· Defnyddir strategaethau ymddygiadol cadarn ond teg yn gyson. Wrth i’r plentyn ymateb i raglen ymyrraeth a gynllunnir yn ofalus, sy’n gweddu i'w hanghenion ymddygiadol a chyfathrebu, gallant lwyddo yn y ddau faes.
Rhoddodd Faye Dale y wybodaeth ganlynol i’r Aelodau:
· Gall y broses rhoi datganiad gymryd rhwng 6 a 12 mis. Dywedir wrth rhieni nad yw’n bosibl cael datganiad ar gyfer problemau iaith a lleferydd oherwydd y gall ysgolion prif ffrwd gynnig cefnogaeth, a heb ddatganiad, nid yw'n bosibl cael lle yn Meadowbank
· Ceir oedi o ran aros i glywed a gaiff datganiad ei dderbyn, ac wedyn bydd y plentyn yn ynysig ac yn cael ei adael i straffaglu mewn ysgol prif ffrwd lle y bydd yn agored i niwed ac yn methu cyfathrebu
· Mae rhai rhieni wedi cael asesiadau preifat sy’n costio tua £12,000.
· Nid yw’n ymddangos fod yr awdurdod yn dweud wrth rieni am Meadowbank, neu dywedir wrthynt nad oes lleoedd yn Meadowbank.
· Nid oes gan gynorthwywyr addysgu mewn ysgolion prif ffrwd ddigon o brofiad.
Yn aml, ni all plant ddilyn gwersi oherwydd anawsterau iaith – maent yn syrthio fwyfwy ar ei hôl hi o gymharu â'u cyfoedion ac yn mynd yn darged i gael eu bwlio.
Dywedodd y Cynghorydd Cowan, er eu bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau ariannol, eu bod yn credu y dylai’r ysgol aros ar agor, ac mewn gwirion, dylai gael ei hehangu.
Cafodd y Pwyllgor gyfle i wneud sylwadau, ceisio eglurder neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Ceir crynodebau o’r trafodaethau hynny isod:
Pe bai’r ysgol yn cau, byddai’r plant yn dioddef, byddent yn straffaglu mewn addysg prif ffrwd ac ni chaiff y strategaeth sy’n ofynnol ar gyfer y plant hyn eu rhoi ar waith, ac felly bydd cynnydd o ran lleoliadau amhriodol. Ni fydd ysgolion prif ffrwd yn gallu ymdopi a phan fydd hynny wedi dod yn amlwg, bydd Meadowbank wedi cael ei chai ac wedi'i cholli i'r plant hynny sy'n elwa arni.
Yn ogystal roedd bloc preswyl yn yr ysgol.
CYTUNWYD: Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.
Dogfennau ategol: