Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r diweddaraf i’r Pwyllgor ar ddangosyddion perfformiad corfforaethol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes.
(a) Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) yn bresennol ac efallai y bydd hi am wneud datganiad;
(b) Bydd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan Aelodau;
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) a Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) ac Angela Kent (Pennaeth Cyflawniad a Chynhwysiant) i’r cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad gan Nivk Batchelar. Tynnwyd sylw penodol yr Aelodau at y ffigyrau absenoldeb oherwydd salwch, y data PPDR a’r data NEET.
Cafodd y Pwyllgor gyfle i wneud sylwadau, ceisio eglurder neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Ceir crynodebau o’r trafodaethau hynny isod:
· Holodd yr Aelodau am y broses derbyniadau i'r ysgol oherwydd bod nifer o geisiadau gan rieni sy'n byw yn y dalgylch yn cael eu gwrthod.
Dywedodd swyddogion bod angen ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig i'r polisi derbyniadau, gan gofio'r bwriad i fod â phroses dderbyniadau gydwedd.
· Gofynnodd yr Aelodau a ellid darparu gwybodaeth am y rhesymau pam mae cymaint o bobl ifanc ar draws Caerdydd mewn perygl o fod yn NEET.
Nododd y Swyddogion fod rhesymau gwahanol am hynny, fodd bynnag, cafodd y proffil asesu agoredrwydd i niwed ei ddefnyddio, sydd wedi adnabod lle mae gofyn am gymorth ychwanegol.
· Holodd yr Aelodau am ddarpariaeth mewn ysgolion prif ffrwd ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd ag anawsterau iaith a lleferydd a dywedodd y Swyddogion wrthynt y bu gwell ymyrraeth mewn ysgolion prif ffrwd o ganlyniad i gydweithio mwy effeithiol.
· Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith nad yw sgrinio ar gyfer anghenion iaith a lleferydd mewn ysgolion yn gyson.
Nododd y Swyddogion ei fod ond wedi’i gyflwyno mewn ysgolion uwchradd, a'r nod yw ei wneud yn gyson gyda'r bwriad o wella sgiliau cyfathrebu a chael mynediad at gymorth i addasu ymddygiad.
· Holodd yr Aelodau am y effaith y mae’n bosibl y bydd y gwrandawiad diweddar sy’n ymwneud â rhiant yn cymryd plentyn allan o’r ysgol yn ei chael.
Dywedodd y Swyddogion y gellid gosod cynsail, fodd bynnag, ar hyn o bryd maent yn aros am arweiniad cyfreithiol.
· Holodd yr Aelodau am y cynnydd o ran ffigyrau NEET yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain a’r sylw gan y Pennaeth na ddylai rhai o'r plant hynny fod mewn addysg prif ffrwd.
Dywedodd y Swyddogion bod y Bwrdd Gwelliannai Carlam yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd, a bellach mae'r darlun yn amlwg o wahanol. Mae’n rhaid i ysgolion wneud trefniadau i asesiadau gael eu cynnal os byddant yn teimlo bod person ifanc wedi’i leoli’n amhriodol mewn addysg prif ffrwd.
· Bu newidiadau i'r ffigyrau mewn ysgolion eraill; maent yn cael eu herio o ran pam y bu cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n mynd yn NEET.
· Mae ysgolion yn dod o hyd i ddewisiadau gwahanol i wahardd; mewn ysgolion cynradd, rheolir ymddygiad yn unigol, fodd bynnag mae pobl yn cael eu datgyweddu ar ôl pontio i’r ysgol uwchradd.
· Dywedodd y Swyddogion fod dibyniaeth ar ddatganiadau i gefnogi plant yn cael ei leihau a bydd PEP yn cymryd eu lle.
Bydd cyfnod pontio ac ar hyn o bryd mae datganiadau yn cael eu prosesu o hyd.
CYTUNWYD: Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.
Dogfennau ategol: