Mae’r adroddiad hwn yn galluogi’r Pwyllgor i weld y llythyr canlyniadau o ymweliad monitro'r archwiliad terfynol.
(a) Bydd Clive Phillips, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn cyflwyno llythyr yr Ymweliad Monitro ac ar gael i ateb cwestiynau;
(b) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;
(c) Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) ynghyd â Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) yn ymateb i lythyr yr ymweliad monitro;
(d) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Clive Phillips, Cyfarwydd Cynorthwyol Estyn, y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) a Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) ac Angela Kent (Pennaeth Cyflawniad a Chynhwysiant) i’r cyfarfod.
Cyflwynodd Clive Phillips ddarganfyddiadau ymweliad Monitro terfynol Estyn a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2016 i’r Pwyllgor. O ganlyniad i’r ymweliad hwnnw, mae Estyn wedi dweud nad oes angen gwelliant sylweddol ar yr awdurdod bellach a chafodd ei dynnu o weithgarwch dilynol, er bod rhai meysydd sydd angen sylw o hyd.
Cafodd y Pwyllgor gyfle i wneud sylwadau, ceisio eglurder neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Ceir crynodebau o’r trafodaethau hynny isod:
Fe’u hysbyswyd bod Estyn wedi cynnal arolygiadau ar 3 allan o 4 o’r ysgolion hyn a’u bod yn monitro'r sefyllfa.
Dywedwyd wrth yr Aelodau bod amrywiadau eang ledled Cymru. Mae perfformiad y merched yn is na chyfartaledd Cymru. Nid yw’r dyhead yr un fath mewn ysgolion sy’n perfformio’n is ac mae angen i’r awdurdod edrych ar ysgolion unigol.
Nid yw ymddygiad yn gymaint o broblem, ond y ffaith nad yw darpariaeth/dyheadau yn cael eu bodloni, a dangosir hyn drwy ymddygiad a phresenoldeb gwael. Fodd bynnag, mae’n glir bod strategaethau ar waith erbyn hyn er mwyn mynd i’r afael â’r problemau.
Cyflwynodd y Cynghorydd Merry ddatganiad byr yn diolch i dîm a swyddogion Estyn ond datganodd fod gwelliannau i’w gwneud o hyd, a dywedodd y swyddogion yr un peth.
CYTUNWYD: Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet ac at AGGCC er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.
Dogfennau ategol: