Mae’r adroddiad hwn yn galluogi'r Pwyllgor i adolygu ac asesu perfformiad Gwasanaethau Plant mewn nifer o ddangosyddion perfformiad allweddol.
(a) Bydd Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) yn cyflwyno’r brîff ac ar gael i ateb cwestiynau;
(b) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd, a’r Dirprwy Arweinydd) a Kim Brown (Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Pherfformiad) i’r cyfarfod.
Darparwyd trosolwg i'r Aelodau o berfformiad Chwartel 4 a dywedwyd wrthynt, er y bu rhywfaint o gynnydd parhaus, bu llithriad mewn rhai meysydd yn nghyd-destun cynyddu cyfeiriadau a niferoedd llwyth achosion cyffredinol.
Cafodd y Pwyllgor gyfle i wneud sylwadau, ceisio eglurder neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Ceir crynodebau o’r trafodaethau hynny isod:
Dywedwyd wrth yr aelodau nad yw'r ffigyrau bob amser yn cipio neu'n adlewyrchu pa mor dda mae'r gwasanaeth yn perfformio. Bydd dangosyddion perfformiad newydd o fis Ebrill a byddant yn cynnwys rhai o’r hen ddangosyddion ac felly bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn llinell sylfaen.
Dywedodd yr Swyddogion y bu cynnydd o ran cyfran y plant sy'n ymddangos gyda heriau eithriadol o gymhleth. Dywedodd y Swyddogion bod y duedd hon yn debygol o barhau.
CYTUNWYD: Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.
Dogfennau ategol: