Eitem Agenda

Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru - Arolygu'r Gwasanaethau Plant

Derbyn yr Adroddiad Archwilio ar Wasanaethau Plant Caerdydd ar ôl yr archwiliad yn Ionawr 2016.

 

(a)  Bydd yr Arolygydd Pam Clutton yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb cwestiynau;

 

(b)  Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

(c)   Bydd y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet dros y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a Dirprwy Arweinydd), ynghyd â Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) yn ymateb i'r Adroddiad Archwilio; 

 

(d)  Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Pam Clutton, sef yr Arolygydd Arweiniol ar gyfer yr AGGCC, y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet a gyfer Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a’r Dirprwy Arweinydd) a Tony Young (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol) i'r cyfarfod.  

 

Cyflwynodd Pam Clutton, ar ran Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGCC), yr adroddiad, y cyhoeddwyd copi ohono (tudalennau 13-39) gyda’r agenda.

 

Cynhaliwyd yr arolygiad gan AGGCC ym mis Ionawr 2016, a’i ddiben oedd edrych ar y trefniadau mynediad ar gyfer plant a phobl ifanc a’u teuluoedd a naill ai cafodd eu cyfeirio ar gyfer gofal a chymorth neu derbyniwyd gwybodaeth am les plant.  

 

Canolbwyntiodd yr arolygiad ar bum thema:

 

  • Darparu cyfarwyddyd;
  • Darparu Gwasanaethau Cymdeithasol;
  • Ffurfio Gwasanaethau;
  • Trefniadau Mynediad; a
  • Rheoli Gofal Asesu.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor, o ganlyniad i’r arolygiad, ei fod yn glir fod nifer o bethau cadarnhaol, er bod, fel y disgrifiodd yr adroddiad, nifer o feysydd i'w gwella.  Câi gweithrediad yr argymhellion eu monitro, ac oni bai y câi unrhyw faterion thematig eu hadnabod, ni fyddai angen ail-arolygu.

 

Cafodd y Pwyllgor gyfle i wneud sylwadau, ceisio eglurder neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd.  Ceir crynodebau o’r trafodaethau hynny isod:

 

  • Teimlodd y Pwyllgor fod thema gadarnhaol yr adroddiad yn galonogol a dylid ei chyfleu i’r staff.

 

  • Gofynnodd yr Aelodau a oedd gan Weithwyr Cymdeithasol a’r Heddlu ddigon o wybodaeth am lefel uchel o ddigwyddiadau o drais ddomestig a chamdriniaeth a bod Gweithwyr Cymdeithasol yn ddigon ymwybodol o’r grwpiau gwirfoddol a’r asiantaethau cymorth uchod i gefnogi teuluoedd yn nyddiad cynnar eu perthnasoedd.  

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod rhai gwasanaethau a oedd ar gael o'r blaen ddim ar gael bellach - mae bwlch, nid yn unig yn yr ardal hon ond yn genedlaethol.

 

  • Dywedwyd wrth yr Aelodau ei fod yn ymddangos bod yr anawsterau o ran recriwtio gweithwyr cymdeithasol yn lleihau.

Mae awdurdodau lleol wedi mynd yn llai cystadleuol.  Mae'r staff yn teimlo bod y gefnogaeth gywir yn bwysig, er enghraifft, rheolwyr sy'n deall pwysau llwythau gwaith, sy'n gallu rhoi arweiniad ac ymateb pan godir pryderon.  Mae’n glir mai'r cwbl mae'r staff eisiau ei wneud yw gwneud gwaith da.  

 

  • Nododd yr aelodau bryderon fod ailfodelu’r gwasanaethau ‘drws blaen’ yn peri risg i berfformiad y bydd angen ei fonitro.

Roedd gan y staff deimladau cymysg o ran sut y câi blaenoriaethau eu penderfynu ac y byddai throthwyon cyffredin yn ddefnyddiol. Mae angen ymgysylltu'n well gyda theuluoedd; mae ymgysylltu’n allweddol.

 

  • Dywedwyd wrth aelodau, er ei fod yn glir bod lefel uchel o hyder yn arweinyddiaeth Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd staff yn teimlo y gallai rhywfaint o’u gwybodaeth a’u harbenigedd fod wedi’u defnyddio ar gyfer gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r strategaeth ataliol.  

 

  • Ceisiodd yr Aelodau eglurhad yngl?n ag a oedd yr Arolygwyr neu’r staff yn ansicr o ran sut roedd y galw am wasanaethau cymorth hanfodol yn cael ei fodloni, gan gyfeirio'n benodol at deuluoedd sy'n cael profiad o drais ddomestig a gofal iechyd meddwl sylfaenol.  

Dywedwyd wrth yr aelodau bod gofal iechyd meddwl sylfaenol yn fater cenedlaethol; mae staff yn ymwybodol o'r galw ac yn credu, os ydynt am fod yn gallu lleihau'r risg ac ymyrryd ar gam cynnar, mae angen gwaith cryf mewn partneriaeth ac mae angen adnabod rhagor o adnoddau.

 

  • Gofynnodd yr Aelodau ym mha ffordd y gafwyd yr adborth a dywedwyd wrthynt yr eglurwyd nad oedd gofyn am wybodaeth am amgylchiadau personol ac na fydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn dylanwadu ar unrhyw ddeilliant.  

 

  • Mynegodd yr Aelodau bryder bod tystiolaeth bod teuluoedd a gafodd eu cyfeirio at wasanaethau cymorth gan y cawsant eu hasesu fel rhai nad oeddent yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaeth statudol yn aml yn cael eu hailgyfeirio at wasanaethau plant a bod hyn yn dyblygu gwaith ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol yr oedd ganddynt lwyth gwaith trwm eisoes.  

Dywedodd Swyddogion, gyda chyflwyniad y Strategaeth Cymorth Cynnar, cyflwyniad MASH a Theuluoedd yn Gyntaf, y nod yw cyflawni pontio di-dor rhwng cymorth cynnar ac ymyrraeth.

 

  • Trafododd yr Aelodau weithio hyblyg a symudol; nododd y swyddogion bod staff yn frwdfrydig yngl?n â gweithio’n hyblyg a symud i Neuadd y Sir ble cafodd llawer o waith ei wneud er mwyn creu amgylchedd gwaith dymunol, er y cafodd pryderon eu mynegi yngl?n â rheoliadau parcio ceir presennol yn Neuadd y Sir. 

 

CYTUNWYD:  Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet ac at AGGCC er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.

 

Dogfennau ategol: