Eitem Agenda

Y Ffordd Ymlaen

  • Y Cadeirydd i geisio cael barn y Pwyllgor yngl?n â pha un a ddylid cyfeirio'r mater at y Cabinet neu beidio.
  • Y Cadeirydd i geisio cael barn y Pwyllgor yngl?n ag unrhyw sylwadau, arsylwadau neu argymhellion y mae’r Pwyllgor am anfon at y Cabinet.

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau sut yr oeddent yn dymuno symud ymlaen â'r mater hwn ac ar ôl peth trafodaeth, penderfynwyd pleidleisio ar p'un ai i gadarnhau penderfyniad y Cabinet ai peidio. Cynhaliwyd pleidlais, ac enillwyd trwy fwyafrif.

PENDERFYNWYD:

  1. cadarnhau penderfyniad y Cabinet CAB/15/84.
  2. i ysgrifennu at yr Aelod Cabinet gyda nifer o sylwadau ac argymhellion ar gyfer penderfyniadau tebyg yn y dyfodol yn cynnwys

·         Ymgynghori gyda Phlant

·         Hysbysiad amserol ymlaen llaw o ymgynghoriadau a gynlluniwyd

 

Dylai pob ysgol yr effeithir arni gael ei chynnwys yn yr ymgynghoriad.