Eitem Agenda

Crynhoi

(a)   Rhoddir y cyfle i’r Cynghorydd Sarah Merry a Swyddogion o’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes i annerch y Pwyllgor eto ar faterion a godwyd gan dystion ac a gyflwynwyd mewn unrhyw o ddatganiadau’r tystion;

 

(b)  Sesiwn cwestiynau ac atebion yr aelodau;

 

(c)   Rhoddir y cyfle i’r Cynghorwyr Dianne Rees, Paul Mitchell a Neil McEvoy grynhoi; 

 

(d)  Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry a swyddogion i grynhoi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Merry mai un dyfyniad a ddefnyddiwyd oedd bod yr ysgolion yno i wasanaethu’r holl blant; roedd yn ystyried bod hyn yn sail i holl bolisïau’r Cabinet; maent yn awyddus i gau'r bwlch amddifadedd; gall y newid prydau ysgol am ddim ddigwydd, ond bydd y bwlch yn cau yn gyffredinol.  O ran yr agwedd tymor byr; dywedodd y Cynghorydd Merry y byddai cynlluniau ar gyfer 2019 yn cael eu dwyn ymlaen, ond nad oedd hynny’n eu rhyddhau rhag edrych ar y mater pwysig hwn.

 

Nododd Nick Batchelar ei fod yn llwyr gydnabod bod angen iddynt gael y penderfyniad hwn yn iawn; arfer barn ac ystyried y ffactorau perthnasol.  Roedd yn parchu barn y Penaethiaid ac yn deall y gwahanol faterion y maent yn eu hwynebu.  O ran y cynllun strategol addysg cyfrwng Cymraeg, mae hyn yn bwysig ac roedd yn cael ei weithredu, roedd ystyriaethau tymor hwy yn cael eu hystyried.  O ran prydau ysgol am ddim, dywedodd Mr Batchelar mai ei sylw cyffredinol oedd bod ysgolion yn dda oherwydd y ddarpariaeth a wnânt ar gyfer eu disgyblion, yn hytrach na'r disgyblion eu hunain; mae ysgolion da a rhai ddim yn dda mewn ardaloedd breintiedig a difreintiedig; fodd bynnag, ar ôl 16 mae trefniadau derbyn gwahanol a all effeithio ar yr ysgolion a'r darlun ehangach.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am sylwadau ar y ffaith bod Plasmawr wedi dweud y gallent gynyddu i 210 o ddisgyblion a defnyddio ystafelloedd dosbarth cyfredol. O ran y posibilrwydd o drosglwyddo canolfan Waterhall, dywedodd y swyddogion y byddai angen buddsoddiad; mae gan Glan Taf ystafell yn barod; ni allai Plasmawr gynnal 7 dosbarth y flwyddyn yn ôl yr asesiad capasiti; mewn perthynas â chyllid, mae arian eisoes yn mynd i mewn i Lan Taf a byddai'r cynnig hwn yn defnyddio'r arian hwnnw.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch nifer o ddosbarthiadau’r flwyddyn a Phwll Coch a Threganna; dywedodd y swyddogion bod gan rieni yr hawl i fynegi eu hysgolion dewisol ar adeg y cais; mae rhai yn cyflwyno ceisiadau hwyr; bu angen cynyddu adnoddau i hyn eleni; mae ‘yn y dalgylch’ wedi cael ei ddisodli gan y ‘tu allan i'r dalgylch’, bu’r nifer a oedd yn manteisio wedi bod yn arafach a byddai’n gostwng dros amser wrth i waith gael ei wneud i dargedu derbyniadau plant.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Rees a Mitchell i grynhoi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mitchell ei bod yn sefyllfa ofnadwy o anodd; roedd wedi nodi diffygion Pwll Coch a'r newidiadau i ardaloedd dalgylch dros y blynyddoedd diweddar; ychwanegodd fod ei bryderon â'r broses a'r effaith ar yr ysgolion yn ei Ward; nid oedd yn deall nad oedd yr ymgynghoriad wedi edrych heibio 2017/18 ac ystyriai y gellid bod wedi ymgynghori ar rai trefniadau.

Dywedodd y Cynghorydd Mitchell nad oedd ei ofnau a phryderon wedi cael eu cyfleu, roedd yn dal i bryderu am y graddfeydd amser a risg ac Adolygiad Barnwrol ac apeliadau posibl.  Nid oedd yn ystyried bod y cap Derbyniadau yn rhesymol, gan nodi y gallai Plasmawr ymestyn i 210 o ddisgyblion yn rhwydd. Roedd yn ystyried bod y cyfnod hysbysu ar gyfer disgyblion ym Mhencae yn rhy fyr; roedd o'r farn bod angen strategaeth tymor hwy.

 

Roedd y Cynghorydd Rees yn ystyried bod y cyfarfod wedi bod yn werthfawr iawn a'i bod yn bwysig bod wedi clywed tystiolaeth uniongyrchol.  Dywedodd y Cynghorydd Rees ei bod yn gofidio nad oedd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc wedi cael y cyfle i graffu cyn penderfynu ar y mater ym mis Mawrth.  Ychwanegodd y Cynghorydd Rees ei bod yn bryderus nad oedd y Penaethiaid wedi bod yn rhan o ffurfio’r cynigion, ac nad oedd rhanddeiliaid wedi eu cynnwys yn llawn; roedd yn ystyried bod ymgynghori ar ddalgylchoedd yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn aflonyddgar ac wedi achosi rhwyg i staff a disgyblion; roedd hi o'r farn bod yr awdurdod lleol yn ymateb i newid yn y tymor byr yn hytrach na chymryd golwg tymor hwy.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rees i'r Pwyllgor wneud penderfyniad yn unig ar yr hyn oedd o'u blaenau ac nid ar yr Adolygiad Barnwrol posibl ac apeliadau posibl; i gloi, gofynnodd i'r Cabinet dynnu ei benderfyniad yn ôl a chynnal adolygiad tymor hir ac ymgynghori ar raddfa lawer ehangach.