Eitem Agenda

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Ymgynghoriad Dalgylchoedd Ysgolion - Ystyried Penderfyniad y Cabinet a alwyd i mewn CAB/15/84 - Adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes

(a)  Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Craffu i esbonio’r broses galw i mewn i Aelodau;

 

(b)  Y Cynghorwyr Dianne Rees, Paul Mitchell a Neil McEvoy i esbonio’r rhesymau dros alw’r penderfyniad hwn i mewn;

 

(c)   Sesiwn cwestiynau ac atebion yr aelodau;

 

(d)  Y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, i roi datganiad a chyflwyniad mewn ymateb i’r rhesymau dros alw’r penderfyniad hwnnw i mewn.  Caiff ei chefnogi gan Swyddogion o’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes;

 

(e)  Sesiwn cwestiynau ac atebion yr aelodau;

 

(f)    Gwahodd tystion sydd wedi mynegi buddiant mewn gwneud datganiad ar y cynigion i wneud datganiad i’r Pwyllgor;

 

(g)  Sesiwn cwestiynau ac atebion yr aelodau.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Dianne Rees a'r Cynghorydd Paul Mitchell i'r cyfarfod fel tystion Cynghorwyr Galw i Mewn, a hefyd gwahoddodd y Cynghorydd Sarah Merry, Penderfynwr; Nick Batchelar Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes; Rheolwr Tîm y Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion Michelle Duddridge-Hussein; Mr John Hayes Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr; Mrs Sara Williams Aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr; Gruff McVeigh Aelod o Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr; Mr Alun Davies Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf; Mrs Elinor Patchell Aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, a Chadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern i'r cyfarfod.

Gofynnodd y Cadeirydd os oedd y Cynghorydd Neil McEvoy, y trydydd Cynghorydd Galw i Mewn, yn mynychu; dywedodd y swyddogion Craffu nad oeddynt wedi derbyn unrhyw gyfathrebiad gan y Cynghorydd McEvoy ar wahân i'r cais Galw i Mewn. 

 

Oherwydd ei bod wedi galw i mewn y penderfyniad, dywedodd y Cynghorydd Rees na fyddai hi yn cymryd unrhyw ran yn nhrafodaethau'r pwyllgor, er ei bod yn Aelod o’r Pwyllgor Craffu.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai opsiwn am gyfieithu ar y pryd yn y cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Paul Keeping i esbonio'r broses Galw i Mewn i'r cyfarfod.  Dywedodd Paul Keeping y byddai'r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y Cynghorwyr Galw i Mewn i esbonio eu rhesymau dros Alw i Mewn; byddai cyfle i ofyn cwestiynau; byddai'r Aelod Cabinet a'r swyddogion yn ymateb ac yna byddai cyfle i ofyn cwestiynau pellach; yna byddai Tystion yn cael cyfle i wneud datganiadau; yna byddai Datganiadau ysgrifenedig yn cael eu hystyried cyn crynhoi.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Dianne Rees i roi ei chyflwyniad yn egluro ei rhesymau dros alw'r penderfyniad hwn i mewn:

 

Dywedodd y Cynghorydd Rees y byddai'n hoffi galw’r penderfyniad i mewn am y rhesymau canlynol:

 

1) Nid oes sail dda i’r newid. Mae'n ateb tymor byr i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg yn nalgylchoedd Ysgol Plasmawr ac Ysgol Glantaf.

 

·         Mae'r galw cyfunol a ragwelir am leoedd o fewn dalgylchoedd Ysgol Glantaf ac Ysgol Plasmawr yn fwy na'r nifer cyfunol o leoedd sydd ar gael ar fynediad ym mis Medi 2019, ond eto nid oedd ffigyrau ôl-2017 wedi cael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad.  Mae hyn er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cael eu hystyried yn y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen ar hyn o bryd gyda newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg yn Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Uwchradd Cantonian, a dalgylchoedd cysylltiedig cyfrwng Saesneg mewn ysgolion cynradd.

·         Dim ond ar y galw a ragwelir ar gyfer 2017 yn Ysgol Glantaf ac Ysgol Plasmawr yr ymgynghorwyd, hynny yw byddai 201 o ddisgyblion yn chwilio am leoedd yn Ysgol Glantaf sydd â 240 o leoedd ar gael ar hyn o bryd a 210 o ddisgyblion yn chwilio am leoedd yn Ysgol Plasmawr sydd â 180 o leoedd ar gael ar hyn o bryd.

·         Mae'r penderfyniad i symud dalgylch Ysgol Pencae o Ysgol Plasmawr yn fesur tymor byr i ddelio â mwy o alw am leoedd yn Ysgol Plasmawr a llai o alw am leoedd yn Ysgol Glantaf yn 2017.  Nid yw'n ystyried y galw a ragwelir ar gyfer 2019 pan fyddai Glantaf yn llawn gyda 240 o ddisgyblion yn ceisio lleoedd yng Nglantaf.

·         Hyd yn oed os yw dalgylch Ysgol Pencae yn cael ei symud i mewn i ddalgylch Ysgol Glantaf, byddai Ysgol Plasmawr yn llawn erbyn 2020/2021.

2) Mae nifer o randdeiliaid allweddol wedi mynegi eu pryderon y gallai'r newid arwain at ganlyniadau annymunol ar gyfer llesiant cymdeithasol ac academaidd y disgyblion.

 

·         Byddai'r cynnig i ddileu Ysgol Gynradd Pencae o ddalgylch Plasmawr yn golygu y byddai Ysgol Glantaf wedyn yn derbyn pob un o'r tair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sy’n perfformio orau, gan adael Plasmawr gyda phoblogaeth gymysg salach. Byddai'r newid yn effeithio'n andwyol ar gydbwysedd economaidd-gymdeithasol Plasmawr, ac mae’n peri risg o ran canfyddiad rhieni uchelgeisiol bod Ysgol Glantaf yn ysgol ‘elît’. Ystyria llawer o bobl y data Prydau Ysgol am Ddim fel dull amrwd o farnu cymysgedd economaidd-gymdeithasol ac nid yw'n rhoi cynrychiolaeth gywir o ardaloedd Caerdydd.

·         Gallai dileu Ysgol Pencae o ddalgylch Plasmawr gael effaith negyddol ar allu disgyblion i gymryd rhan yn gymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.

·         Gallai dileu Ysgol Pencae o ddalgylch Plasmawr gael effaith negyddol ar y ddarpariaeth chweched dosbarth.

3) Mae’r ymarfer ymgynghori yn anwybyddu barn mwyafrif mawr o bobl.

 

·         Mae nifer y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn debyg i'r rhai a gafwyd yn yr ymgynghoriad ar newidiadau i ddalgylchoedd yr ysgolion cyfrwng Saesneg, ond tra’r argymhellwyd i’r Cabinet nad oedd yn symud ymlaen ar hyn o bryd gyda newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion cyfrwng Saesneg, cymeradwyodd y Cabinet y newidiadau i'r dalgylchoedd cyfrwng Cymraeg.

Hefyd anwybyddwyd nifer fawr o wrthwynebiadau gan ddisgyblion.

·         Eisoes bu dalgylchoedd yn destun i newid sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae newidiadau pellach tymor byr yn ddiangen o aflonyddgar, yn niweidiol i hyder mewn darpariaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg uwchradd ac yn bwysicaf oll, ni fydd yn ymdrin â'r mater o ddigonolrwydd tymor canolig i hir o leoedd mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn nalgylchoedd y ddwy ysgol ac ar draws y Ddinas.

4) Dylai'r penderfyniad gael ei alw i mewn a chynghori swyddogion i gynnal adolygiad o opsiynau ar gyfer darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg yn nalgylchoedd presennol y ddwy ysgol ac ar draws y Ddinas.

 

·         Dylai rhanddeiliaid allweddol gael cynnig y cyfle i leisio eu barn ar y newidiadau dalgylch yn y broses Galw i Mewn.

·         Dylai'r penderfyniad gael ei dynnu'n ôl ac, fel gyda newidiadau dalgylchoedd ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg yn y rhan hon o'r ddinas, ni ddylid bwrw ymlaen â’r newidiadau hyd nes y cynhelir adolygiad buan.

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Paul Mitchell i roi ei gyflwyniad yn egluro ei resymau dros alw'r penderfyniad hwn i mewn:

 

Dywedodd y Cynghorydd Mitchell y byddai'n hoffi galw’r penderfyniad i mewn am y rhesymau canlynol:

 

Mae'r canlynol yn ffurfio sail i'r cais galw i mewn. Yr wyf yn ymwybodol y gallai hyn oedi gweithredu tan Medi 2018, os yw'r penderfyniad gwreiddiol yn cael ei gadarnhau, gan fod y flwyddyn benderfynu fel arfer yn cael ei rhaglennu i dorri i ffwrdd ar Ebrill 15fed. Dywedir wrthyf na all hyn gael ei ymestyn ond byddwn yn gofyn am ollyngiad er mwyn ymestyn y terfyn amser hwn o ystyried yr amgylchiadau, e.e. purdah etholiad.

 

Rwyf yn arbennig o ymwybodol o leoliad Ysgol Glantaf gyda dwy ysgol gynradd mynediad sengl gyfagos (Ysgol Pencae ac Ysgol Glan Ceubal) yn ogystal â dwy ysgol CS mynediad sengl gyfagos. Nodaf o edrych ar y map ac adroddiadau bod y Cyngor yn cynnal PEDAIR o ysgolion mynediad sengl ar bedwar safle mewn ardal ddaearyddol gymharol fach: ni fyddwn yn synnu os fydd rhaid ystyried cyfuno dwy ysgol cofnod mynediad dwbl wrth i gyllid y Llywodraeth barhau i gael ei dorri yn y dyfodol rhagweladwy. 

 

CEFNDIR

 

Fel y gwyddoch, yr wyf wedi cael sylwadau gan rieni, Cadeirydd, llywodraethwyr ac athrawon, a gyflëwyd i mi yn bennaf drwy athro uwch yn Ysgol Plasmawr. Rwyf wedi cael gwybod hefyd fod y nifer o ymatebwyr yn gwrthwynebu'r newid oddeutu 300 gyda deiseb â thros 400 o lofnodion wedi ei nodi yn yr adroddiad. Er bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn deall NAD yw ymgynghoriad yn refferendwm, ac er fy mod yn gwerthfawrogi bod y rhai o blaid yn llai tebygol o ymateb, yr wyf yn teimlo bod nifer sylweddol o bryderon a godwyd gan randdeiliaid i'r pwynt hwn yn haeddu ystyriaethau pellach yn ystod galw i mewn.

 

Mae Ysgol Plasmawr wedi gweithio ar yr agenda 14-19 ers nifer o flynyddoedd mewn partneriaeth ag Ysgol Glantaf ac rwy'n sicr bod pawb yn cefnogi angen yr Awdurdod i fod â strategaeth glir ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Hefyd cydnabyddir yn eang bod y galw cynyddol yn awgrymu efallai fod angen 4ydd ysgol uwchradd ond bydd hyn angen cynllunio tymor hwy ac ymgynghori helaeth. Ar ben hynny, bydd amseriad a maint y datblygiadau Plasmawr ar hyd Llantrisant Road hefyd yn ei gwneud yn anodd rhagweld beth fydd y galw a'r pwysau yn y dyfodol ar yr ysgolion dan sylw yn y tymor canolig i'r tymor hir. 

 

Maent yn cydnabod y pryderon gorgyflenwad a grynhoir yn Nhabl 8 yr adroddiad (gweler isod), ond yn dadlau bod symud dalgylch ysgolion er mwyn 30 o ddisgyblion am 2 flynedd, pan ragwelir y bydd y niferoedd yn gostwng yn Ysgol Plasmawr yn 2018, yn ymddangos fel petai’n benderfyniad adweithiol a thymor byr, a gall greu problemau pellach yn enwedig oherwydd y gall llawer o deuluoedd ddewis dilyn brodyr a chwiorydd i Blasmawr yn 2017 a 2018.

 

Cydnabyddir ymhellach gan lawer fod gan y cyngor ddyletswydd i weithredu ar sail cyngor cyfan gyda'r anhawster o ddelio â thair haen o ddyraniadau lleoliad sydd weithiau'n gwrthdaro, yn cynnwys dau gyfrwng addysg ac ysgolion seiliedig ar ffydd. Gwerthfawrogir bod canllawiau'r Llywodraeth yn rhagnodi camau gweithredu penodol, ond mae materion allweddol y maent yn dymuno i mi eu codi yn y galw i mewn ar eu rhan, sydd fel a ganlyn.

 

      1. YSTYRIAETH O DDATA ÔL-2017:  

 

Gellir dadlau bod y cynnig yn seiliedig ar gydbwyso’r galw a'r cyflenwad o leoedd mewn ysgolion, ond eto ymddangosai fel petai ond yn ystyried data ar gyfer 2017/18 er gwaethaf yr amcanestyniadau a oedd yn dangos yn glir y byddai’r galw a'r cyflenwad am leoedd yn Ysgol Glantaf yn cydbwyso’n naturiol heb unrhyw newidiadau mewn dalgylchoedd erbyn 2019/20.

 

Byddwn yn sicr yn croesawu eglurhad ynghylch pam y dywed yr adroddiad ym mharagraff 118'na ellir ymgynghori â'r trefniadau derbyn a allai fod yn ofynnol y tu hwnt i 2017/18 ar yr adeg hon'. Mae hyn yn ymddangos i fod yn wrthgyferbyniad llwyr i'r dadleuon Niferoedd Derbyn Cyhoeddedig neu PANs a ddefnyddir wrth drafod dalgylchoedd Fitzalan a Cantonian (paragraff 35 o'r adroddiad) lle mae amcanestyniadau ar gyfer 2019/20 yn cael eu defnyddio.

 

Maent yn dod i'r casgliad, fel yr wyf i yn ei wneud, bod trefniadau derbyn yn amodol ar ddata PAN yn y dyfodol ac maent wedi fy nghyfeirio at y cynsail ar gyfer y defnydd o amcanestyniadau tymor hwy a osodwyd ym mis Gorffennaf 2014, gydag adroddiad ar y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Llanisien a oedd yn defnyddio amcanestyniadau ar gyfer darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg (sydd yn anodd ei rhagweld) hyd at 2019/20 - bum mlynedd llawn ar ôl yr adroddiad.

 

Maent hefyd yn nodi gwerth 3 blynedd o amcanestyniadau y dyfodol a ddefnyddiwyd yn yr ymgynghoriad cyn sefydlu Ysgol Glan Ceubal yn 2014 lle y nodwyd: ‘Disgwylir i sefydliad parhaol Ysgol Glan Ceubal ar 1 dosbarth derbyn y flwyddyn gyd-fynd yn agos â'r galw yn y dyfodol am leoedd yn yr ysgol ac o fewn ei dalgylch.’

 

Nodaf fod y galw am leoedd yn cael ei werthuso yn adroddiad y Cabinet, tudalennau 16 i 19; nodir yr amcanestyniadau yn glir ar gyfer mis Medi 2015 tan 2021 (h.y. saith mlynedd ar ôl cymeriant Derbyn 2015) ac felly dyma'r cyfnod amcanestyniad hiraf sydd ar gael gan ddefnyddio data cyfrifiad ysgolion wedi’u gwirio). Nodaf hefyd y byddai'r galw cyfunol o fewn y ddau ddalgylch yn fwy na'r lleoedd sydd ar gael ar fynediad i Flwyddyn 7 yn 2019, felly byddwn yn disgwyl y byddai data cadarn i holi a chwestiynu’r trefniadau derbyn gan fod y rhain yn ddibynnol ar niferoedd.

 

Yr wyf yn gwerthfawrogi fod gan Ysgol Glantaf leoedd gwag ar draws yr ysgol ar hyn o bryd ar ôl gweithredu ar 6FE yn y blynyddoedd diwethaf ac y gallai, os byddai angen, gymryd dros 8FE ar y pwynt hwnnw yn 2021. Fodd bynnag, mae hefyd leoedd gwag yn Ysgol Bro Edern (i'r dwyrain o Lantaf) ac erbyn 2019 bydd gan y Cyngor fwy o sicrwydd mewn perthynas â datblygiadau CDLl a niferoedd, a dylai, yn fy marn i, adolygu'r potensial i ychwanegu dosbarthiadau ychwanegol at Blasmawr a Glantaf o 2021 ymlaen. Byddwn yn dadlau ymhellach y gallai Ysgol Glantaf yna ehangu mewn ffordd fwy hylaw i fynediad derbyn 8+ yn 2011 a thu hwnt, wrth i’r datblygiadau safle strategol symud ymlaen.

 

Gall y Cyngor ddadlau yn y fan hon y gall deddfwriaeth Llywodraeth Cymru atal ymgynghori ar drefniadau derbyn y gellid eu gweithredu i sicrhau cydbwysedd rhwng dalgylchoedd Glantaf/ Bro Edern yn 2019 e.e. megis trosglwyddo dalgylch Ysgol Glan Morfa i Ysgol Bro Edern.

 

Nodaf hefyd y ddadl efallai nad yw’n fuddiol gwneud hynny ar hyn o bryd, pan fyddai poblogaeth dalgylch yn nalgylch cyfredol Glantaf yn cael ei lleihau.

 

Fodd bynnag, bydd fy mhrif awgrym o osod capiau derbyn cyfartal o 210 ar ddwy ysgol yn y tymor byr yn caniatáu adolygiad mwy realistig a llawer mwy helaeth yn 2019 unwaith y bydd yr amserlenni a gofynion o’r anheddau ychwanegol a gynlluniwyd yng Ngorllewin Caerdydd yn dod yn amlwg, yn enwedig y rhai fydd yn dod i mewn i ddalgylch Ysgol Plasmawr.

 

Yr wyf yn cytuno hefyd ei bod yn annhebygol iawn y byddai nifer y disgyblion oedran ysgol statudol ar gofrestr Ysgol Plasmawr yn gostwng yn sylweddol iawn, ac felly rwy'n credu y bydd ateb mwy cydlynol - o bosibl yn cynnwys cynlluniau ar gyfer pedwaredd ysgol uwchradd – wedi datblygu’n sylweddol fwy erbyn hynny, yn seiliedig ar amcanestyniadau data PAN mwy cadarn. 


Felly rhaid i mi unwaith eto fynegi cydymdeimlad gyda'r ddadl a gyflwynir gan ymatebwyr ei bod yn ymddangos yn afresymegol defnyddio rhagolygon tymor hir yn y rhan fwyaf o achosion hyd yma, ond eto dim ond amcanestyniadau tymor byr yn yr un achos penodol hwn, hyd yn oed o gofio’r ystyriaethau uchod.

 

Ar ben hynny, gall effeithiau'r ddwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a drafodwyd yng Nghanol Caerdydd fod yn ffactor yn y dyfodol -  ffactor sy’n amhenodol hyd yma - yn yr adolygiadau ffiniau dalgylch a PANs ar ôl 2019 ac efallai y bydd y nifer disgyblion hynny angen rhywfaint o eglurhad yn ystod y galw i mewn, ac unwaith eto mae’n rhoi hwb i’r ddadl bod polisi derbyniadau cyfartal tymor byr yn briodol.

 

2. CAPASITI YSGOL PLASMAWR:


Derbynnir bod y galw am leoedd yn Ysgol Plasmawr yn dangos cynnydd i 210 yn 2017, tra bod y capasiti cymeriant wedi ei osod ar 180 fel ysgol mynediad chweched dosbarth. Arhosodd hyn yn ddigyfnewid ers 1998, er gwaethaf cynnal tri phroject adeiladu mawr ar y safle gan gynyddu’r capasiti posibl yn sylweddol. Ychwanegwyd estyniad 4 llawr gydag 8 ystafell ddosbarth ychwanegol ers sefydlu’r terfyn hwn a bydd Canolfan Ieuenctid Waterhall yn cael ei chymryd drosodd gan yr ysgol yr haf hwn gan ychwanegu 2 ystafell ychwanegol arall at y safle. 

 

Cydnabyddir na fyddai Llywodraeth y Cynulliad yn fodlon iawn ystyried bod un ysgol wedi gordanysgrifio oherwydd diffyg gweithredu, tra bod ysgol gyfagos wedi tan-danysgrifio, felly’r cwestiwn syml sy'n codi o hyn yw hwn: pam cynnal adolygiad dalgylch tymor byr o gwbl, pan fyddai ailosod capasiti terfyn y ddwy ysgol i 210 yn negyddu’r adolygiad hwnnw? Byddai hefyd yn caniatáu llawer mwy o amser arweiniol i baratoi ysgolion a rhieni ar gyfer newidiadau a ddaw yn sgil pwysau datblygu, a hefyd yn caniatáu ar gyfer cyfuno ysgolion mynediad dosbarth sengl petai fyth fod angen hynny yn y dyfodol.

 

Dadleua Ysgol Plasmawr bod y rhif cymeriant capasiti wedi dyddio, ac y dylai'r cabinet a'r pwyllgorau fod wedi cael gwybod eu bod yn credu y gall yr ysgol dderbyn 210 o ddisgyblion yn rhwydd, ac felly dadleuir bod rhagdybiaethau’r adroddiad yn agored i'w herio.

 

Petai’r materion capasiti yn cael eu cydnabod ac yn cael sylw, yna dadleuir y byddai hyn yn negyddu’r pryderon tymor byr bod Ysgol Plasmawr sydd wedi gordanysgrifio â goblygiadau cost cludo disgyblion Trelái a Chaerau sy’n methu mynd i mewn i Ysgol Plasmawr, a bod ganddynt amseroedd teithio a theithiau hirach (a mwy o gostau i’r cyngor) er mwyn mynychu Ysgol Glantaf. 

 

Maent yn dyfynnu Canllawiau Capasiti Ysgol CC y dylid penderfynu ar gapasiti 'tra'n aros am drafodaethau helaeth gyda’r Pennaeth a'r Llywodraethwyr i gytuno ar ffordd briodol ymlaen yng nghyd-destun y galw am leoedd a chapasiti'r safle' ac roeddent yn pryderu nad oedd hyn wedi digwydd wrth adolygu’r capasiti cymeriant cyn yr adolygiad dalgylch.

Maent yn cyfeirio at yr adroddiad sy'n datgan mai ei nod yw ymdrin â'r cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw a dadleuir mai’r canlyniad tymor hir mwyaf cynaliadwy yw creu 3 ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd o faint tebyg i greu gwell cydbwysedd daearyddol ac addysgol yn y cyflenwad o addysg cyfrwng Cymraeg yn y tymor hwy, yn enwedig gan eu bod yn teimlo fod yr asesiadau effaith ar yr amgylchedd yn annigonol h.y. y datganiad anfesuredig "I grynhoi, byddai gweithredu'r cynnig yn fwyaf tebygol o gael effaith gadarnhaol o ganlyniad net i'r disgyblion ddefnyddio dulliau teithio sy'n llygru.

 

YMGYNGHORI AC YSGOL PENCAE

 

Nodaf y dadleuon o ran trosglwyddo Ysgol Pencae a'i charfan unigryw a gefnogir gan rieni a PYDd isel, ac nid wyf yn credu bod hwn yn ffactor pwysig yn y penderfyniad oherwydd dengys y data, yn fy marn i, mai budd/diffyg budd bach iawn a ddangosir yn y data PYDd. Nododd pennaeth Ysgol Gyfun Glantaf y thema hon (CA16/WM/47) ymhlith eraill, gan dynnu sylw at y ddadl PYDd, felly yr wyf yn gofyn i’r rhai ohonoch sy'n gwneud y penderfyniad i beidio â dadlau o ran senario syml dwy ysgol gyfatebol yn anghytuno dros ysgolion cynradd bwydo 'perfformiad uchel' pan fo’r materion yn llawer mwy cymhleth na hynny.

 

Nodaf hefyd yr ymatebion manwl a gwrthwynebol gan benaethiaid a chadeiryddion y ddwy ysgol uwchradd yr effeithir arnynt, ond tynnaf eich sylw yn benodol at y neges e-bost oddi wrth Bennaeth Ysgol Pencae (CA16/WM/372) fel un allweddol, gan ei fod yn arwain yr ysgol gynradd yng nghanol yr adolygiad. Er bod y broses briodol wedi ei dilyn yn dechnegol, mae'n ymddangos o’i sylwadau na chafodd ei friffio ond dau ddiwrnod cyn dechrau’r ymgynghoriad. Yn anffodus gallai hyn gael effaith anfwriadol o danseilio enw da'r Pennaeth a’r llywodraethwyr gan na fyddent wedi cael cyfnod rhesymol o amser, yn fy marn i fel llywodraethwr fy hun, i drafod mater mor bwysig cyn i'r ymgynghoriad gael ei lansio.

 

Gwneir y ddadl o chwith nad oes eisiau gwneud Ysgol Glantaf yn 'ysgol elît' - unwaith eto, byddwn yn gofyn am iddi gael ei nodi, ond nid ei gwneud yn ffactor hollbwysig yn y penderfyniad. Yn bwysicach fyth yw'r diffyg briffio ynghylch y cynigion tymor hwy i'r corff llywodraethu, a'r effaith ar rieni blynyddoedd 3-5 nad yw'r byr rybudd yn caniatáu iddynt gynllunio ar gyfer yr effaith ar eu plant o grwpiau'n cael eu gwahanu gan newidiadau mewn dewisiadau rhieni, ac apeliadau dros gydlyniad brodyr a chwiorydd y soniwyd amdano eisoes.

 

Dadleuaf felly y bydd galw i mewn a’m hawgrymiadau i yn caniatáu amser arweiniol hirach i lywodraethwyr Pencae ystyried ac addasu i newidiadau a phwysau mawr yn 2019.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r tystion am eu cyflwyniadau a gwahoddodd swyddogion i wneud eu cyflwyniad.  Cafodd yr aelodau gyflwyniad ar y newidiadau arfaethedig i'r dalgylchoedd cyfrwng Cymraeg a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol: Materion a godwyd; Cefndir; Digonolrwydd  tymor hir o leoedd - dalgylchoedd presennol; Digonolrwydd tymor hir o leoedd - dalgylchoedd arfaethedig; Crynodeb o ddata ac amcanestyniadau; Effaith ar gymysgedd cymdeithasol-economaidd; Effaith ar safonau a chanlyniadau; y broses Asesiad Capasiti ac Ymgynghori

.


Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry fel y Penderfynwr i wneud datganiad, ac fe’i darllenodd fel a ganlyn:

 

Diolch i chi Gadeirydd am roi'r cyfle i mi annerch y Pwyllgor.

Fel y gwyddoch, aeth yr adroddiad yn crynhoi canlyniad yr ymgynghoriad penodol sy’n cynnig newidiadau i ddalgylchoedd Ysgol Glan Taf ac Ysgol Plasmawr, ynghyd â newidiadau arfaethedig i Fitzalan a Cantonian, i'r Cabinet ym mis Mawrth.  Derbyniwyd ymatebion gan amrywiaeth o aelodau etholedig i'r ddau ymgynghoriad. Roedd hyn yn cynnwys y rheiny a gyflwynwyd gan y Cynghorydd McEvoy a ddywedodd bod y cynnig 'yn ymddangos yn synhwyrol'. Yn ddiweddarach dilynodd y Cynghorydd McEvoy ei gefnogaeth wreiddiol gyda'r cafeat bod y gefnogaeth hon yn amodol ar i’r 'cyswllt brawd neu chwaer gael ei warchod' sy'n dal yn wir. 

Fel yr ydych wedi clywed, mynegodd tri aelod bryderon ynghylch y penderfyniad hwn gan y Cabinet.  Mae'r rhain ynghylch nifer o faterion;

·         potensial o effaith andwyol ar gymysgedd cymdeithasol-economaidd Ysgol Plasmawr

·         nid yw’r newidiadau arfaethedig yn ystyried a oes digon o leoedd cyfrwng Cymraeg yn y tymor canolig i hir;

·         effaith andwyol bosibl ar safonau a darpariaeth chweched dosbarth yn Ysgol Plasmawr

·         effaith bosibl ar y defnydd o'r Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol

·         capasiti/ Nifer Derbyn yn Ysgol Plasmawr

·         y broses ymgynghori ac ystyriaeth briodol o’r ymatebion a gafwyd

Nid yw’r tri Aelod sydd wedi galw y cynnig i mewn yn cytuno ar bob sail fel y gellir gweld yn sylwadau’r Cynghorydd Mitchell nad yw, er yn nodi'r dadleuon o amgylch PYDd, yn credu bod hyn yn ffactor pwysig yn y penderfyniad. Yn ei farn ef, mae’r data PYDd yn dangos budd/diffyg budd bach iawn ac ymhellach gofynnodd i’r rhai sy'n gwneud y penderfyniad i beidio â dadlau o ran senario syml dwy ysgol gyfatebol yn anghytuno dros ysgolion cynradd bwydo 'perfformiad uchel' pan fo’r materion yn llawer mwy cymhleth na hynny.

Mae wyneb addysg cyfrwng Cymraeg yn newid, gyda sbectrwm ehangach o deuluoedd yn awr yn dewis manteisio ar y cyfle i addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg: i Brifddinas Cymru mae hwn yn rhywbeth i'w ddathlu a'i groesawu.  Mae'n hanfodol bod pob ysgol yng Nghaerdydd yn parhau â'u hymrwymiad amlwg i gynhwysiant ac i sicrhau bod pob un o'u disgyblion yn cyrraedd eu llawn botensial, waeth ble maent yn byw neu'n mynd i'r ysgol.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i ddarparu addysg briodol a chynhwysfawr ar gyfer oedran a chyfnod datblygiad pob un o'i ddisgyblion.  O ran y ganran debygol o PYDd yn y naill ysgol neu’r llall, dylid nodi eu bod yn sylweddol is na'r cyfartaledd yng Nghymru (17.5%) a chyfartaledd Caerdydd (20.5%).  Er bod angen canmol y safonau a gyflawnwyd yn y ddwy ysgol, ac mae hyn i’w briodoli i raddau helaeth i ansawdd y staff a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym mhob un, mae'n parhau i fod yn rhesymol disgwyl i hyn barhau gyda'r adnoddau sydd ar gael i bob un, ac nid yw'r un ohonynt yn gweithio gyda'r un canrannau o PYDd â’u hysgol gyfatebol ym Mro Edern.

 

Yn awr hoffwn ymdrin â bob sail ar gyfer y galw i mewn:

 

Yn gyntaf, y pryder ynghylch y cymysgedd economaidd-gymdeithasol a'r awgrym y bydd symud dalgylch cynradd Ysgol Pencae o ddalgylch Ysgol Plasmawr i mewn i Ysgol Glantaf yn 'niweidiol i Blasmawr'.  

 

Hoffwn ddod â'r Pwyllgor yn ôl at adroddiad y Cabinet lle bydd aelodau yn gweld bod y mater hwn wedi cael ei ystyried yn llawn a'i werthuso yn adroddiad y Cabinet, tudalennau 20 i 23, sy'n nodi nad oes unrhyw ledu o ran y bwlch.

 

Mae'r mesur safonol o amddifadedd a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ganran y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim.  Yn y cyfrifiad diweddaraf, mesur Ysgol Glantaf oedd 9.8% ac Ysgol Plasmawr 6.9% - bwlch o 2.9%.

 

Felly gosodir Ysgol Glantaf mewn categori meincnod uwch (gr?p 2; o gymharu ag Ysgol Plasmawr sydd yn y gr?p categori lleiaf amddifad o 1).

 

Nid yw’r dadansoddiad a wnaed yn dangos tystiolaeth o unrhyw effaith 'niweidiol' sylweddol – mae’r amcanestyniadau yn awgrymu yn sgil y newid demograffig ym mhoblogaeth disgyblion leol Ysgol Plasmawr y byddai canran y disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, yn cynyddu i oddeutu 10.6% pe na wnaed y newid. Byddai gweithredu'r newid arfaethedig yn cynyddu'r ganran fymryn i oddeutu 11.6% (a byddai hyn yn digwydd yn raddol, dros gyfnod estynedig o amser).

 

Drwy weithredu'r newid arfaethedig, byddai'r ganran yn Ysgol Glantaf hefyd yn newid o swm ymylol – gan ostwng o oddeutu 10.2 i 9.4%. Mae'r bwlch cymharol o 2.4% (11.6% ym Mhlasmawr a 9.4% yn Glantaf) mewn gwirionedd yn cael ei leihau.

 

Ymhellach, byddwn yn gofyn i'r Pwyllgor nodi bod darpariaeth oed cynradd o fewn dalgylch Ysgol Glantaf yn cael ei ymestyn yn yr ardaloedd lle mae'r nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim yn sylweddol uwch; yn Ystum Taf (Ysgol Glan Ceubal), Grangetown/Butetown (Ysgol Hamadryad newydd) ac Adamsdown/Sblot (ehangu Ysgol Glan Morfa).

 

Y pwynt nesaf a godir yw nad yw’r newidiadau arfaethedig yn ystyried a oes digon o leoedd cyfrwng Cymraeg yn y tymor canolig i'r tymor hir.

 

Wrth ystyried yr amcanestyniadau a data sy’n benodol i'r cynnig hwn a’r rhai’n gysylltiedig â'r ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg, hoffwn dynnu sylw’r Pwyllgor i'r tablau ar dudalennau 16-19 o'r adroddiad y Cabinet.   Fel y gallwch weld, mae’r amcanestyniadau ar gyfer y ddau wedi eu gosod allan ar gyfer y cyfnod Medi 2015 i Medi 2021. Mae hyn yn cwmpasu cyfnod o saith mlynedd sy'n cymryd i ystyriaeth y data cyfrifiad ysgolion sydd wedi’i wirio fwyaf (CYBLD 2015) a'r cymeriant Derbyn mwyaf diweddar o fewn hynny.  Mae fformat y data a gyflwynir yn gyson â'r hyn a gyflwynwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyfrwng Saesneg, yn cynnwys yr un graddfeydd amser, ac yn defnyddio yr un graddfeydd amser a methodoleg.

 

Ymhellach, cydnabyddir y bydd y galw cyfunol o fewn y ddau ddalgylch yn fwy na'r lleoedd sydd ar gael ar fynediad i Flwyddyn 7 yn 2019, a bod y sector cyfrwng Cymraeg yn tyfu. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae gan Ysgol Glantaf leoedd gwag ar draws yr ysgol, wedi gweithredu ar 6FE yn y blynyddoedd diwethaf ac a allai, petai angen, dderbyn dros 8FE tu hwnt i 2019. Mae hefyd leoedd gwag yn Ysgol Bro Edern (i'r dwyrain o Lantaf).  Dylid nodi y cynllunnir oddeutu 7,000 o anheddau ychwanegol yng Ngorllewin Caerdydd sy’n dod o fewn dalgylch Ysgol Plasmawr ac mae'n hynod annhebygol y byddai nifer y disgyblion oedran ysgol statudol ar y gofrestr yn Ysgol Plasmawr yn gostwng yn sylweddol, os o gwbl, o ganlyniad i'r newid dalgylch arfaethedig.

 

Hyd yn oed wrth ystyried trosglwyddo Ysgol Pencae allan o'i dalgylch, nid yw’r galw a ragwelir o dai presennol a disgyblion ysgolion cynradd ar hyn o bryd ond fymryn yn is na chapasiti, a byddai'n dal i fod yn fwy na'r nifer derbyn a gyhoeddir erbyn Medi 2019. Byddai’r galw lleol gormodol hwn yn cael ei waethygu gan y tai safleoedd strategol CDLl Gogledd-orllewin Caerdydd.

Ymhellach, nid yw trosglwyddo dalgylch yn atal rhieni rhag parhau i fynegi eu dewis o ysgol; dim ond newid y flaenoriaeth a roddir i ymgeiswyr sy'n cael ei ystyried mae, a ystyrir dim ond pan fo ysgol â thanysgrifiad llawn, h.y. ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, petai Ysgol Plasmawr yn gweld llai o alw o ardaloedd eraill o'i dalgylch, yna mae disgyblion yn nalgylch Pencae, sef yn agos iawn, yn elwa o hyn.

Erbyn 2019 bydd y Cyngor â mwy o sicrwydd mewn perthynas â datblygiadau tai CDLl a chyllid Ysgol Band B 21ain Ganrif LlC.  Heb fwy o sicrwydd am y wybodaeth hon, rydym yn anwybyddu dwy ffrwd incwm cyfalaf mawr ac yn esgeuluso ystyried y datblygiadau mawr ar draws y ddinas, yn enwedig safle strategol y Gogledd-orllewin sy'n ffinio â safle Ysgol Plasmawr.

 

Mae’r opsiwn a gyflwynwyd ymhell o fod yn ateb tymor byr, mae'n cymryd i ystyriaeth y cynnydd tebygol a'r dewisiadau tir sydd ar gael i ddarparu ar gyfer y galw ychwanegol posibl wrth iddo dyfu.

 

Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, ni all y Cyngor ar hyn o bryd ymgynghori ar drefniadau derbyn y gellid eu rhoi ar waith i sicrhau cydbwysedd rhwng dalgylchoedd Glantaf, Plasmawr a Bro Edern yn 2019, ac ni fyddai'n fuddiol i rieni i’r Cyngor wneud hynny ar hyn o bryd.

 

Wrth ystyried y pryder a fynegwyd ynghylch effaith andwyol posibl ar safonau a darpariaeth chweched dosbarth yn Ysgol Plasmawr fel y nodwyd yn flaenorol, cydnabyddir y safonau a gyflawnwyd yn y ddwy ysgol ac mae'n rhesymol disgwyl i hyn barhau â'r adnoddau sydd ar gael i bob un. O ran yr awgrym y gallai niferoedd y chweched dosbarth ostwng os oes canran uwch o deuluoedd incwm isel yn manteisio ar ddarpariaeth, mae angen nodi bod y mynediad i'r cam chweched dosbarth yn broses ar wahân.  Eisoes gweithir ar draws y safleoedd i ddarparu'r ystod lawn o bynciau fel rhan o'r cynnig 14-19 a gellid ei ehangu ymhellach.  Yr agwedd allweddol i'w hystyried yw bod myfyrwyr yn teimlo bod cynnig ystyrlon iddynt gymryd ar ôl 16 yn yr iaith o’u dewis petaent yn dymuno manteisio arno.  Hefyd mae symudedd a theithio annibynnol yn fwy yn yr oedran hwn, a dylid ei annog fel rhan o daith y myfyrwyr tuag at fod yn oedolion.

 

Awgrymwyd bod y cynnig yn cael effaith bosibl ar y defnydd o'r Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol.  Ni ragwelir y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar allu disgyblion i gymryd rhan yn gymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae gan y mwyafrif o ddisgyblion sy’n trosglwyddo i Ysgol Plasmawr o'u hysgolion cynradd partner lefelau rhuglder iaith Gymraeg sy'n eu galluogi i gael mynediad at y cwricwlwm llawn a chyfleoedd cymdeithasol i mewn ac allan o'r ysgol. 

 

Pe na byddai’r cynnig yn cael ei weithredu, ni fyddai rhai plant sy'n byw ar hyn o bryd o fewn ardal dalgylch Ysgol Plasmawr yn gallu mynychu eu hysgol dalgylch uwchradd cyfrwng Cymraeg. Y risg clir o beidio â darparu cydbwysedd yn y cyflenwad a'r galw am leoedd cyfrwng Cymraeg yw y gallai’r gyfran o ddisgyblion nad ydynt yn symud o CA2 i CA3 gynyddu a phetai hynny’n digwydd, gallai o bosibl gael effaith negyddol ar y defnydd ehangach o'r iaith.

 

Er bod rhai efallai’n cwestiynu capasiti/ Nifer Derbyn Ysgol Plasmawr byddwn yn gofyn i'r Pwyllgor gofio bod Corff Llywodraethu Ysgol Plasmawr yn ymgynghori yn flynyddol ar ei Nifer Derbyn Cyhoeddedig ac nid yw wedi gwneud unrhyw sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad hwn i gynyddu ei Nifer Derbyn.

 

Tra bod yr ysgol wedi derbyn buddsoddiad dros gyfnod estynedig o amser, roedd hyn i wella llety ac i ganiatáu i'r ysgol ddarparu ar gyfer cynnydd o tua 5 dosbarth y flwyddyn yn yr 1990au i 6 dosbarth y flwyddyn o 2012. Mae’r asesiadau capasiti yn cael eu hadolygu ar sail dreigl ac mae'r asesiad cyfredol ar gyfer Ysgol Plasmawr yn dangos bod yr ysgol yn gallu cynnal cymeriant 6 dosbarth mynediad y flwyddyn a chweched dosbarth cymesur, ond yn methu â chynnal 7 dosbarth mynediad y flwyddyn yn seiliedig ar ei drefniadaeth ar hyn o bryd.

 

Yr olaf o'r materion a godwyd drwy'r broses hon yw’r un yn ymwneud â'r broses ymgynghori a'r cwestiynau ynghylch ystyriaeth briodol o’r ymatebion a dderbyniwyd.

 

O ran yr ymgynghoriad dalgylch uwchradd cyfrwng Cymraeg, cydnabyddir y cafwyd nifer fawr o ymatebion gan ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Ysgolion, staff yr ysgol, disgyblion sydd ar hyn o bryd yn mynychu Ysgol Plasmawr a rhieni plant a fyddai'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y newid arfaethedig.

 

Fel sy'n safonol, ceisiodd yr ymgynghoriad farn a materion gan randdeiliaid allweddol, ac ystyriwyd, arfarnwyd a gwerthuswyd yr holl faterion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn ofalus. Er bod y Cyngor yn rhoi ystyriaeth briodol i nifer o ymatebion a dderbyniwyd, roedd yr argymhelliad a wnaed yn Adroddiad Cabinet yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng y materion a godwyd yn erbyn yr effaith wahaniaethol ar ddysgwyr, ac ar y cymunedau ysgol a allai ddod yn sgil gweithredu neu beidio gweithredu newid.

 

Rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r materion sylweddol a godwyd yn yr ymgynghoriad drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â hynny, a'r penderfyniad a wnaethpwyd i argymell symud ymlaen i weithredu'r newid yr ymgynghorwyd arno.

 

Roedd y penderfyniad i beidio â symud ymlaen â’r newidiadau cyfrwng Saesneg arfaethedig yn cydnabod yr angen i aros tan y ceir tystiolaeth o welliant yn Ysgol Uwchradd Cantonian drwy’r canlyniadau perfformiad blynyddol a hyd nes y ceir mwy o sicrwydd ynghylch y strategaeth buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian ac Ysgol Uwchradd Fitzalan.

 

Petai’r newidiadau i'r dalgylchoedd cyfrwng Cymraeg ddim yn cael eu gweithredu ar gyfer mis Medi 2017, ystyrir y ceir effaith bosibl ar nifer y dysgwyr a gedwir yn y sector cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol. Wrth weinyddu'r cymeriant diweddaraf i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer mis Medi 2015, roedd yn amlwg bod cyfran sylweddol o'r disgyblion hynny yn apelio am leoedd yn Ysgol Plasmawr, ar ôl peidio gwneud cais am leoedd yn y rownd gyntaf o dderbyniadau, yn preswylio yn y dalgylchoedd ysgolion cynradd mwyaf amddifad - Ysgol Coed Y Gof ac Ysgol Nant Caerau. Gwnaeth y rhieni sylwadau oherwydd gan nad oes bws ysgol i Ysgol Glantaf o'r ardaloedd hyn, na fyddent yn barod i'w plentyn gymudo i Ysgol Glantaf.

 

Wrth ystyried y ddeiseb a gyflwynwyd gan blant a phobl ifanc, roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion yn dod oddi wrth ddisgyblion Plasmawr – ni chafwyd unrhyw ymateb gwrthwynebus gan y disgyblion ym Mhencae neu o fewn dalgylch Pencae, na chan ddisgyblion Glantaf.

 

I grynhoi, gan gymryd yr holl ffactorau i ystyriaeth ochr yn ochr â’r dystiolaeth ac ystyriaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad i'r Cabinet ynghyd â'r eglurhad a gyflwynwyd gennyf i fy hun ac eraill yma heddiw, byddwn yn annog y Pwyllgor i wneud ei argymhelliad yn un pragmataidd. Un sy'n seiliedig ar y sbectrwm llawn o wybodaeth a gyda'r wybodaeth sy’n benodol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y ddinas gyfan ac sy’n cymryd i ystyriaeth eich dealltwriaeth ehangach o ran datblygiadau yn y dyfodol a gynlluniwyd ar gyfer yr Awdurdod.  Byddai hyn hefyd gyda chydnabyddiaeth lawn y Swyddogion sy’n ymgymryd â'r cynllunio strategol ar gyfer lleoedd yng Nghaerdydd y bydd angen  ehangu'r ddarpariaeth ar draws y sector uwchradd yn y dyfodol, sy'n cael ei flaenoriaethu yn unol â'r angen a thystiolaeth ar yr adeg berthnasol, yn unol â deddfwriaeth, a chan ystyried anghenion pob plentyn mewn addysg waeth beth fo’i iaith neu gr?p economaidd gymdeithasol.

Cafwyd newid yng ngwneuthuriad cymdeithasol plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg.  Nid wyf yn gweld hyn fel problem ond fel rhywbeth cadarnhaol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Merry am ei datganiad a gwahoddodd gwestiynau a sylwadau gan Aelodau:

 

  • Gofynnodd yr Aelodau a oedd yna berygl bod rhieni sydd angen addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant ddim yn manteisio arni oherwydd teithio i'r ysgolion o ardaloedd mwy amddifad.  Dywedodd yr Aelod Cabinet eu bod yn paru dalgylch yn ôl cyflenwad o leoedd, yna’r pellter i'r ysgol.  Yn yr achos hwn byddai Pencae yn cael blaenoriaeth dros y gweddill sydd mewn ardaloedd mwy amddifad.

 

  • Cyfeiriodd yr Aelodau at ysgol Hamadryad a gofynnwyd a oedd hyn yn ateb tymor byr gydag adolygiad tymor hwy i gael ei wneud.  Dywedodd y swyddogion fod y niferoedd yn newid yn gyson o ganlyniad i bethau fel ffigyrau poblogaeth a datblygiadau tai; roedd yr ysgol newydd yn Hamadryad yn ddarpariaeth newydd gyda’r niferoedd a nodwyd, a fyddai'n tyfu dros amser ac felly roedd yn fynediad 2 ddosbarth y flwyddyn ond yn debygol o dyfu.  Roedd trosglwyddiad Pencae heb ystyriaeth o unrhyw ddarpariaeth arall na mwy o alw gan Hamadryad.

 

  • Gofynnodd yr aelodau a fyddai hwn yn newid parhaol gan y byddai unrhyw newidiadau pellach ymhen ychydig flynyddoedd yn aflonyddgar iawn i deuluoedd.  Dywedodd y swyddogion mai dyna’r bwriad; fodd bynnag, roedd yn amhosibl dweud i sicrwydd; barnwyd ei bod yn fwyaf priodol oherwydd agosrwydd.

 

  • Nododd yr aelodau ffigyrau 2019 fel rhai wedi’u gordanysgrifio a gofynnwyd beth allai cymunedau ddisgwyl ei weld mewn dwy flynedd. Dywedodd swyddogion fod opsiwn i gynyddu niferoedd derbyn dros dro am dair blynedd i ymdopi â chyfnodau brig yn y galw.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr John Hayes Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr; Mrs Sara Williams Aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr; Gruff McVeigh Aelod o Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr i wneud eu cyflwyniadau i’r Pwyllgor fel a ganlyn:

 

John Hayes – Pennaeth - Wrth i'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg barhau i dyfu yng Nghaerdydd ac i Gynlluniau Datblygu Lleol i Gaerdydd ddod yn realiti, mae'n hanfodol bod y dalgylchoedd ar gyfer y tair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg presennol yn cael eu hystyried yn y tymor canolig i'r tymor hir yn hytrach na cheisio datrysiad tymor byr ac annoeth i ymdrin â'r anghydbwysedd bach presennol yn niferoedd y disgyblion rhwng Plasmawr a Glantaf a allai fod yn hynod niweidiol i Ysgol Plasmawr, ac a allai gael etifeddiaeth negyddol hirhoedlog i’r cyfan o Gaerdydd.

 

Dengys yr amcanestyniadau yn yr Adroddiad Cabinet yn glir (gweler Tabl 6, 9 a 10 o’r Adroddiad Cabinet) y bydd y galw a'r cyflenwad am leoedd yn Ysgol Glantaf yn cael eu cydbwyso yn naturiol heb unrhyw newid mewn dalgylchoedd erbyn 2019/20.  Bydd angen ymdrin eto â’r galw am leoedd cyfrwng Cymraeg cyn 2019 pan fydd y galw yn fwy na'r cyflenwad, gan ddangos natur tymor byr y cynnig hwn.  Mae mabwysiadu strategaeth tymor hwy yn ffordd fwy effeithlon, teg ac effeithiol o ymdrin â’r cyflenwad a'r galw am leoedd yn hytrach na pharhau gyda chynllun gwallus sydd ond yn symud problem gor-gapasiti o un ysgol i un arall. 

 

 (Sara Williams, Rhiant Lywodraethwr)

Mae'r penderfyniad diweddar a gymerwyd gan y Cabinet i ohirio ystyried newidiadau i'r dalgylchoedd yn ymwneud ag Ysgol Uwchradd Cantonian ac Ysgol Uwchradd Fitzalan yn seiliedig yn bennaf ar safonau addysgol yn ôl tystiolaeth Adroddiadau Estyn a oedd ar gael ar adeg yr ymgynghoriad.  Fodd bynnag, ni roddwyd ystyriaeth i'r effaith ar safonau addysgol y bydd tynnu disgyblion Ysgol Pencae o Blasmawr yn ddi-os yn ei chael. Yn amlwg, mae dull yr Awdurdod yn yr achos hwn yn anghyson.  Roedd y penderfyniad o ran Pencae yn seiliedig yn unig ar y 'cyflenwad a'r galw am leoedd yn 2017/18'.  Mae'r Awdurdod wedi methu â chymryd i ystyriaeth yr effaith debygol o symud ysgol gynradd sy'n perfformio'n dda o ysgol sydd ar hyn o bryd yn cael ei monitro gan Estyn ac yn cael ei labelu fel 'ambr' dan y system Gategoreiddio Genedlaethol bresennol i ysgol sy'n cael ei hystyried yn 'Dda' gan Estyn, ac sy’n ysgol categori ‘melyn’ yn y system Gategoreiddio Genedlaethol.

Pencae yw un o'r ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n perfformio orau yn CA2 yng Nghaerdydd (Dangosydd Perfformiad Allweddol 2015: 96%). Mae'r tair uchaf arall; Ysgol y Wern, Melin Gruffudd a Mynydd Bychan eisoes yn bwydo Glantaf. Yn dilyn y penderfyniad hwn, ni fydd yr un o'r 4 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sy’n perfformio orau yn bwydo Plasmawr, a fydd yn llwyr danseilio ei strategaeth codi safonau.

Awgryma data tracio presennol Plasmawr ar gyfer y garfan Blwyddyn 11 gyfredol y gallai ei pherfformiad Lefel 2+ yr haf hwn fod cyn uched â 79%.  Mae cyn-ddisgyblion Pencae yn y garfan Blwyddyn 11 gyfredol ar y trywydd iawn i gyflawni perfformiad Lefel 2+ o 89%. 

Yn 2015, roedd perfformiad Lefel 2+ Blwyddyn 11 yn 78%.  Cyflawnodd cyn-ddisgyblion Pencae yn y garfan 88%.

Mae'r penderfyniad i symud dalgylch Pencae hefyd yn effeithio ar y chweched dosbarth yn Ysgol Plasmawr.  Mae cyn-ddisgyblion Pencae yn flynyddol yn cyfrif am dros 20% o'n carfanau Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13.  Gallai golli disgyblion Pencae effeithio ar hyfywedd chweched dosbarth Plasmawr sydd wedi bod y Chweched Dosbarth sy’n perfformio orau yng Nghaerdydd am y tair blynedd diwethaf.  Pam fyddai'r Awdurdod lleol eisiau tanseilio chweched dosbarth sy'n perfformio mor dda?

Y nifer o ddisgyblion Blwyddyn 11 o Bencae fel % o’r flwyddyn = 17%;        Y nifer o ddisgyblion Blwyddyn 12 o Bencae fel % o’r flwyddyn = 21%;        Y nifer o ddisgyblion Blwyddyn 13 o Bencae fel % o’r flwyddyn = 21%

(Gruff McVeigh, cyn ddisgybl Pencae a disgybl presennol Chweched Dosbarth Plasmawr)

Hoffwn rannu gyda chi fy mhrofiad o fod yn rhan o Blasmawr fel cyn ddisgybl Pencae, a'r manteision o fod mewn ysgol gydag amgylchedd mor gyfoethog.  Mae Ysgol Plasmawr yn ysgol gynhwysol ac rwyf wedi gwerthfawrogi bod yn rhan o ysgol sy'n gwasanaethu y cyfan o orllewin Caerdydd, ac sydd â’r dalgylch mwyaf amrywiol o'r holl ysgolion uwchradd Caerdydd, yn ôl pob tebyg.  Bu dysgu ochr yn ochr â disgyblion eraill o gefndiroedd hollol wahanol i mi fy hun yn werthfawr wrth fy mharatoi ar gyfer bywyd tu hwnt i'r ysgol.  Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gan bob ysgol ddalgylch mor eang a chyfoethog â Phlasmawr.

 

Yr ydych eisoes wedi clywed am gyfraniad cyn-ddisgyblion Pencae i'r chweched dosbarth llwyddiannus yr wyf yn rhan ohono ar hyn o bryd, sydd â'r canlyniadau Safon Uwch gorau ar draws Caerdydd (cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg) am y tair blynedd diwethaf.  Yr wyf yn bendant o'r farn y byddai colli disgyblion Pencae o Blasmawr yn andwyol i chweched dosbarth Plasmawr.

 

Fy ngobaith yw y bydd fy chwaer iau yn gallu cael yr un profiad gwych o Blasmawr â mi fy hun, gan gynnwys mynd i'r chweched dosbarth.

 

Mae gennyf bryderon difrifol am lesiant fy chwaer os rhennir Pencae yn ei hanner, gyda hanner y dosbarth o bosibl yn mynychu Glantaf.  Byddai hyn o bosibl yn arwain at golli cyfeillgarwch allweddol a adeiladwyd o oedran ifanc, mewn dosbarth clós o ddisgyblion o ddim ond 30. Credaf yn gryf nad ystyriwyd y pryder a’r straen a achosir gan ymwahanu posibl grwpiau cyfeillgarwch yn ystod y broses ymgynghori, a bydd yn niweidiol i’m chwaer iau a'i ffrindiau.  Mae fy ffrindiau ysgol gynradd yn parhau i fod yn rhai o’m ffrindiau agosaf.

 

Yn olaf, ni allaf gredu bod mewn penderfyniad cynllunio mor bwysig, sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yn fwy nag unrhyw gr?p arall o randdeiliaid, nad ystyriwyd gr?p Llais y Dysgwr yn naill ai Pencae na Phlasmawr a bod y diffyg ymgysylltu hwn gyda phlant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan y broses ymgynghori yn llwyr danseilio ac yn dibrisio’r cynnig cyfan.

 

I grynhoi (John Hayes, Pennaeth)

 

I’r Tîm Trefniant Ysgolion o gynllunwyr, mae’r cynnig hwn yn ateb hawdd, tymor byr, ymarferol yn seiliedig yn unig ar agosrwydd daearyddol ardal dalgylch Pencae i ddalgylch Glantaf. Yn nhermau cynllunio yn unig mae’n ateb rhesymegol; fodd bynnag, mae gan y cynnig ddiffygion sylweddol o ran egwyddorion addysgol a byddai'n cael effaith barhaol ar addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y ddinas.  Fel y gwyddom, ar hyn o bryd mae'r Awdurdod Lleol yn buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd yn adeiladu ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg newydd yn Nwyrain a Gorllewin y ddinas, yn rhannol mewn ymgais i ymdrin â materion etifeddiaeth hirhoedlog yn y sector ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg, lle ceir gwahaniaethu enfawr rhwng ysgolion uwchradd sy'n perfformio'n dda a rhai sy’n perfformio ar lefel is.  A ydym wir eisiau ailadrodd hyn yn y sector cyfrwng Cymraeg?  Os yw’r cynnig hwn yn mynd yn ei flaen, bydd safonau cyrhaeddiad Plasmawr yn dioddef a bydd ein cyfraddau cadw ein chweched dosbarth yn lleihau.  Mae'r cynnig difeddwl hwn yn gosod Plasmawr mewn sefyllfa i fethu.  Dylid osgoi polareiddio ysgolion cyfrwng Cymraeg ar bob cyfrif, a dylai chwilio’n weithredol am atebion tymor byr llawer mwy cadarnhaol eraill fod yn flaenoriaeth.

 

Fy nghynnig i fy hun fyddai gofyn am ail-gyfrifo brys o gapasiti a nifer derbyn Plasmawr gan nad yw hyn wedi newid ers i'r ysgol agor yn 1998.  Ers hynny, mae'r ysgol wedi gweld sawl cam newydd o ddatblygiad nad ydynt wedi eu cynnwys yn ei data capasiti a nifer derbyn. Byddwn yn y tymor byr yn cynnal y ddarpariaeth dalgylch gyfredol, a dros dro yn newid nifer derbyn Plasmawr i 210 (7 dosbarth y flwyddyn).  Yn y cyfamser, dylai'r tîm SOP gael y dasg o gynllunio strategaeth tymor canolig i hir ar gyfer addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg gan ystyried y CDLl newydd a ragwelir, a'r ymchwydd disgyblion ysgol gynradd presennol.

 

Dylid cael un cynllun strategol tymor canolig i hir gydag ymgynghoriad eang arno i ymdrin â’r galw am dwf mewn addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y ddinas yn hytrach na chyfres o atebion tymor byr difeddwl a fydd ond yn creu dryswch pellach i bawb dan sylw ac yn dod ag ysgolion partner i wrthdaro dianghenraid â'i gilydd.

 

Rwy'n mawr obeithio y byddwch yn cymryd yr holl bwyntiau hyn i ystyriaeth wrth i chi ystyried y cynnig hwn.

 

Peidiwch â chytuno i gynnig tymor byr a fydd yn newid yn sylweddol y cydbwysedd addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg er gwaeth ar draws y ddinas am y dyfodol rhagweladwy, ond yn hytrach galwch am  strategaeth tymor canolig i hir gydag ymgynhgoriad eang arni ar gyfer darpariaeth sector uwchradd cyfrwng Cymraeg cynaliadwy a theg ar draws y ddinas.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r tystion am eu cyflwyniadau a gwahoddodd gwestiynau a sylwadau gan Aelodau:

 

  • Gofynnodd yr Aelodau faint o ddisgyblion Ysgol Pencae a oedd yn mynychu’r chweched dosbarth a dywedwyd wrthynt ei fod oddeutu 120.
  • Gofynnodd yr Aelodau a fyddai ymestyn y nifer derbyn i 210 o ddisgyblion angen buddsoddiad sylweddol neu a oedd hyn yn bosibl gyda’r ystafelloedd dosbarth sydd ar gael ar hyn o bryd.  Dywedodd Mr Hayes fod canolfan Waterhall yn cael ei datblygu ar gyfer defnydd y chweched dosbarth ac roedd ystafell staff wedi cael eu symud felly roedd tair ystafell y gellid eu defnyddio.  Dywedodd Mr Hayes ymhellach y byddai canolfan Waterhall yn addas i'w defnyddio erbyn yr ail wythnos ym mis Medi.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Alun Davies Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf a Mrs Elinor Patchell Aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, a Chadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern i wneud eu cyflwyniadau.

 

Dywedodd Mrs Patchell ei bod yn ystyried y cyd-destun hanesyddol yn bwysig iawn, Ysgol Glantaf oedd y drydedd ysgol uwchradd yng Nghymru i gael ei datblygu yn 2012; roedd yr ysgol wedi colli pedwar dosbarth y flwyddyn heb gwyno.  Roedd dalgylchoedd wedi cael ei newid ers hynny i gynnwys Pwll Coch, fodd bynnag, cafodd hyn ei ohirio tan 2013.  Dim ond un ffrwd aeth o Bwll Coch i Lan Taf yn hytrach na'r ddwy a addawyd yn wreiddiol; roedd Glan Taf i fod yn wyth ffrwd ond mae llai o ddisgyblion ym mhob blwyddyn nag ym Mhlasmawr, sydd â chwech.

Ychwanegodd Mrs Patchell bod angen edrych ar ddalgylchoedd gan ei bod yn debygol y byddai ddatblygiad mawr yng Ngorllewin y ddinas a datblygiadau tai yn y Dwyrain; roedd Glan Taf yn y canol; nid oedd lle yn y dalgylch presennol ar gyfer unrhyw ddatblygiadau tai, felly ni allent gynnwys unrhyw gynnydd o'r dalgylch presennol.

 

Dywedodd Mr Davies bod yr ysgolion yno i wasanaethu'r gymuned, er gwaethaf lefelau amddifadedd a nifer y plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ac unrhyw effeithiau ar safonau. Ychwanegodd Mr Davies ei bod yn bwysig peidio â gwneud penderfyniadau difeddwl er mwyn effaith tymor byr.  O ran cyllid, dywedodd Mr Davies eu bod wedi bod yn gweithio fel petaent mewn dyled er nad oeddent; mae ffigyrau o gyllid yr awdurdod lleol wedi lleihau lefelau staffio a disgyblion Glan Taf sydd wedi dioddef. Gyda lleoedd gwag, bydd rhaid i'r ysgol brofi i Estyn ar beth y mae'n gwario ei harian; petai’r trosglwyddiad llawn o Bwll Coch wedi digwydd, ni fyddai hyn wedi bod yn broblem.

Ychwanegodd Mr Davies bod rhieni yn dangos dymuniad i gael addysg cyfrwng Cymraeg, fodd bynnag, nid oedd y niferoedd yn dod i mewn ac o’r herwydd y flwyddyn nesaf byddai un dosbarth nad oedd yn gynaliadwy; mae blynyddoedd 7,8 a 9 i gyd yn llai na Phlasmawr, mae gan Glan Taf 300 o ddisgyblion yn ei chweched dosbarth, byddai hyn yn gostwng i 199 erbyn 2019 yn seiliedig ar batrymau hanesyddol, roedd hyn yn fwy i ymdopi ag ef yn ariannol. Mae 23 o athrawon yn rhan-amser, ac ni all hyn gael ei dorri ymhellach, felly roedd angen cymorth ynghylch nifer disgyblion, roedd angen cydnabod bod gan yr ysgol le ar gyfer 8 dosbarth; roedd y cynnig ynghylch Pencae yn gwneud synnwyr ac mae mor ddaearyddol agos.

Dywedodd Mr Davies ei fod wedi bod yn ymdopi gyda llai o niferoedd ers amser hir erbyn hyn, roedd wedi rhoi ei ffydd yn yr awdurdod lleol i ddod i gytundeb ac nid oedd wedi digwydd fel yr oedd wedi dymuno; felly, yr oedd yn awr yn gofyn am ystyriaeth ofalus i'r cynnig hwn fynd yn ei flaen, gan fod lle yng Nglan Taf ac roedd Plasmawr eisoes yn llawn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r tystion am eu cyflwyniad a gwahoddodd gwestiynau a sylwadau gan Aelodau:

 

  • Gofynnodd yr aelodau i ble mae disgyblion eraill Pwll Coch yn mynd a dywedwyd wrthynt eu bod yn mynd i Blasmawr.
  • Gofynnodd yr aelodau os oedd Mr Davies yn hapus â'r cynigion a dywedodd ei fod yn hapus iawn, gan ei bod wedi bod yn enbyd bod â chwe dosbarth y flwyddyn pan oedd lle i wyth.

 

Nododd yr aelodau fod y tystion wedi gosod y cyd-destun eang yn hanesyddol ac i’r dyfodol; ymddengys fod dalgylch Pencae yn cael effaith ar addysg cyfrwng Cymraeg yn y cyfan o'r ddinas; nododd yr Aelodau mai’r Cabinet sy’n gwneud y penderfyniad a gofynnwyd i’r tystion os oeddent yn credu fod y Cabinet wedi ystyried yr holl faterion a godwyd yn y cyfarfod hwn.  Dywedodd Mr Davies o ran ymgynghori, bod pob parti wedi mynegi barn, roedd y cynnwys yn bwysig, fodd bynnag gallai'r nifer o ymatebion fod wedi cael eu hwyluso’n well; ychwanegodd fod y data yno, ac erys y ffaith bod Plasmawr yn llawn a bod gan Glan Taf gapasiti.

 

Dogfennau ategol: