Mae’r adroddiad hwn yn galluogi'r Pwyllgor i adolygu'r Cynllun Busnes i sicrhau ei fod yn mynd i'r afael â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor a gwella canlyniadau Plant sy’n Derbyn Gofal.
(a) Bydd y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet, y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a Dirprwy Arweinydd) yn bresennol ac efallai y bydd am wneud datganiad;
(b) Bydd Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb cwestiynau'r Pwyllgor;
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;
(d) Ystyrir y ffordd ymlaen ar gyfer yr eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sue Lent, Aelod Cabinet ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd, Tony Young, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Irfan Alam, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant i’r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno Cynllun Cyflawni'r Gyfarwyddiaeth. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y cynllun yn amlinellu busnes Craidd, deilliannau allweddol, dyheadau a chyflawniadau a bod perfformiad wedi gwella’n sylweddol yn y gyfarwyddiaeth yn ystod y flwyddyn diwethaf.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau:
Ychwanegwyd, yn y dyfodol y byddai’n rhaid gweithio gyda phartneriaid er mwyn deall y prosesau, ac y byddai gweithio gyda MASH a JAF yn gweithio; byddai angen i’r berthynas gydag ysgolion gael ei had-drefnu er mwyn bod yn fwy o ymagwedd partneriaeth.
Esboniodd y Swyddogion nad oeddent yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau, roedd y strategaeth yn rhagnodedig iawn a byddai’r sefyllfa bresennol yn parhau. Ychwanegwyd y câi’r strategaeth ei halinio gyda’r Strategaeth Cymorth Cynnar. Croesawodd y swyddogion y trosglwyddo i Wasanaethau Plant ac esboniasant y byddent yn gweithio gyda phartneriaid a sefydliadau'r Trydydd Sector er mwyn sicrhau bod y cynnig am Gymorth Cynnar cystal ag y gallai fod. Ychwanegwyd y câi gwybodaeth ei rhannu gyda'r Pwyllgor mewn modd agored a thryloyw er mwyn sicrhau y caiff y swyddogion eu dal yn ymatebol.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet, cynrychiolwyr o'r Consortia a swyddogion am fynychu’r cyfarfod, rhoi eu cyflwyniadau a'r datganiadau ac am ateb cwestiynau'r Aelodau.
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.
Dogfennau ategol: