Mae’r adroddiad hwn yn galluogi'r Pwyllgor i adolygu'r ddau Gynllun Busnes i sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor a gwella canlyniadau disgyblion Caerdydd.
(a) Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) yn bresennol ac efallai y bydd hi am wneud datganiad.
(b) Bydd Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes a Robert Hopkins (Pennaeth Gwella Ysgolion y Consortiwm) yn cyflwyno’r adroddiadau ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan Aelodau;
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;
(d) Ystyrir y ffordd ymlaen ar gyfer yr eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Angela Kent, Pennaeth Cyflawniad a Chynhwysiant, Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Robert Hopkins, Pennaeth Gwella Ysgolion, Consortiwm Canolbarth y De a Neil Hardee, Pennaeth Adnoddau a Gwasanaethau Perfformiad i’r cyfarfod.
Cyflwynodd Nick Batchelar Gynllun Cyflawni y Cyfarwyddiaeth dros Addysg i’r Pwyllgor.
Gofynnodd y Cadeirydd am gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau:
Dywedodd y swyddogion y cafodd hyn ei gynnwys fel ymrwymiad corfforaethol, roedd yn ddyddiau cynnar, roedd y cyfnod ymgynghori wedi gorffen yn ddiweddar ac roeddent yn ystyried yr opsiynau. O ran cyfuno cyllidebau, dywedodd y swyddogion y byddent yn cael trafodaethau gyda’r partneriaid, fodd bynnag ni fyddai hyn yn cael ei ddiystyru; roedd swyddogion yn edrych ar cydweithio rhwng ysgolion a rhwng awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill oherwydd bod heriau a phwysau ariannol sylweddol ar faes Anghenion Dysgu Ychwanegol y darpariaethau.
Dywedodd y Swyddogion y byddai alinio agosach yn y dyfodol; sylwyd bod cyllidebau'n lleihau ond roedd gwaith mwy effeithlon ac effeithiol ar waith gyda'r strwythurau newydd a oedd ar waith; byddai pwyslais ar ddeilliannau strwythurau a'u heffaith ar les a chyrhaeddiad achrededig. Cyfeiriodd swyddogion at grant o Gronfa Gymdeithasol Ewrop a fyddai’n galluogi mwy o adnoddau i gael eu targedu tuag at gydgysylltu ysgolion a’r gwasanaeth ieuenctid a rhoi cymorth ehangach. Ychwanegwyd bod angen i ddarpariaeth fod yn briodol ac yn gytbwys a bod angen agweddau hamdden iddi yn hytrach na rhoi darpariaeth a fyddai’n ymestyn y diwrnod ysgol.
Deallodd y swyddogion y rhwystredigaethau hyn ac esboniant mai cynllun drafft oedd a gâi ei gwblhau, terfynu a’i roi yn ôl i’r pwyllgor.
Esboniodd yr Swyddogion fod cyllideb a ddelir yn ganolog ar gyfer ysgolion ar gyfer projectau fel Wi-Fi neu gynlluniau ynni, lle y gellid bod yn fwy effeithlon trwy fenthyca a rhoi cynlluniau o’r fath i mewn i ysgolion drwyddi draw yn hytrach na wneud hynny bob yn dipyn; felly, roedd cyllidebau ar gadw ar gyfer projectau o'r fath.
Cyflwynodd Robert Hopkins Cynllun Cyflawni y Gyfarwyddiaeth ar gyfer y Consortia i’r Pwyllgor. Dywedwyd wrth yr aelodau bod blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r broses hunanarfarnu.
Gofynnodd y Cadeirydd am gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau:
Dywedwyd yr aelodau bod hyn yn ymrwymiad, y bu mathemateg yn broblem felly roedd yn fater presennol i fyd i'r afael ag ef; mae ganddo broffil uwch ac mae recriwtio'n fwy deniadol i’r rhanbarth. Bu digwyddiad recriwtio yn ddiweddar a oedd wedi hyrwyddo arweinyddiaeth a gweithio yn yr ardal ac roedd dros 100 bobl yn bresennol gan gynnwys penaethiaid a fu'n siarad am eu profiadau o weithio yn y rhanbarth.
Trafododd yr aelodau trochi’r Iaith Gymraeg y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Theithwyr a gwnaethant ystyried bod arnynt angen rhagor o wybodaeth am y cyllidebau priodol.
Diolchodd y Cadeirydd i Robert Hopkins am y cyfraniad hwn i’r Pwyllgor a dymunodd yn dda iddo ar ei ymddeoliad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet, cynrychiolydd o'r Consortia a swyddogion am fynychu'r cyfarfod, rhoi eu cyflwyniadau a'u datganiadau ac am ateb cwestiynau'r Aelodau.
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a'u harsylwadau.
Dogfennau ategol: