Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig 3

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Rhys Taylor

Eiliwyd gan y Cynghorydd Joseph Carter

Noda’r cyngor y canlynol:

  • mae digartrefedd yn ddinistriol, yn beryglus ac yn ynysu.
  • y cyfartaledd oedran marwolaeth pobl sy’n profi digartrefedd yw 46 i ddynion a 42 i fenywod.
  • Mae pobl sy'n cysgu ar y stryd bron i 17 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef trais. Mae mwy nag un o bob tri pherson sy'n cysgu ar y stryd wedi cael ei daro neu ei gicio neu brofi rhyw fath arall o drais tra'n ddigartref.
  • Mae pobl sy'n profi digartrefedd dros naw gwaith yn fwy tebygol o gymryd eu bywyd eu hunain na'r boblogaeth yn gyffredinol. 
  • Mae pobl LHDTC+ yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc gyda 24% o'r boblogaeth ddigartref ymhlith pobl ifanc ar draws y DU wedi’i nodi fel LHDT.
  • Mae Cyngor Newcastle wedi ymrwymo i gynlluniau i ddod â digartrefedd i ben yn eu hardaloedd lleol, gan edrych ar gyflenwad, atal, ail-gartrefu, y sector rhentu preifat, a chymorth lles.

 

Mae'r cyngor hwn o'r farn nad yw digartrefedd yn anochel ac mae modd rhoi diwedd arno, ac mae'n galw ar y weinyddiaeth i sefydlu Tasglu Digartrefedd sydd â'r dasg o ddatblygu cynllun i ddod â digartrefedd i ben yng Nghaerdydd sy'n cynnwys:

·        Rhoi diwedd ar y defnydd o bensaernïaeth gas yn yr amgylchedd adeiledig

·        Gosod ymgysylltiad â Heddlu De Cymru i roi diwedd ar yr holl ddefnydd o’r Ddeddf Crwydraeth a mesurau gwrth-ddigartrefedd cysylltiedig

·        Gwella llety dros dro, gan gynnwys i grwpiau bregus fel LHD a phobl traws

·        Cynyddu'r gyfran gyffredinol o dai cymdeithasol yn y ddinas

·        Gosod opsiynau'n ymwneud â chynyddu premiymau'r dreth gyngor ar gartrefi gwag ac ail gartrefi i 300% i gefnogi gweithgarwch tai a digartrefedd.

 

 

 

Dogfennau ategol: