CYNIGYDD: Y Cynghorydd JACKIE JONES
EILYDD: Y Cynghorydd ED STUBBS
Noda’r Cyngor hwn y canlynol:
Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn un o gonglfeini ein cymdeithas. Ochr yn ochr â dyletswyddau cydraddoldeb eraill, mae’n sicrhau bod ein holl ddinasyddion yng Nghaerdydd yn cael eu gwasanaethu'n dda gan y Cyngor.
Er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn yng Nghaerdydd, mae angen adnewyddu'r rhaglenni, y polisïau a'r golygon a rhagor o bwyslais. Mae'r tasglu cydraddoldeb hiliol, ei gasgliadau a'i gynllun gweithredu yn enghreifftiau o'r fath. Mae dyletswydd cydraddoldeb rhywiol y sector cyhoeddus yn un arall. Mae'r rhain i gyd yn croestorri i greu Caerdydd y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni ac eisiau byw ynddi.
Arwyddwyd a chadarnhawyd y CEDAW (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu pob Math o Wahaniaethu) dan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher. Mae'n darparu rhestr o hawliau a rhyddid i fenywod a merched yn y DU, gan gynnwys i fenywod a merched yng Nghaerdydd. Mae angen newid diwylliant er mwyn i'r hawliau hyn gael eu cyflawni'n llawn.
I fwrw 'mlaen â'r hawliau i fenywod a merched fe addawodd Maniffesto Llafur Caerdydd wneud Caerdydd yn ddinas CEDAW o fewn dwy flynedd i'r etholiad.
Mae CEDAW yn darparu fframwaith, gweithredoedd ac egwyddorion y gall Cyngor Caerdydd eu cymryd sy'n cyd-fynd â nodau Deddf VAWDASV (Cymru) 2015, Rhaglen Llywodraethu Llywodraeth Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, Caerdydd - Dinas sy'n Dda i Blant, dinas wrth-hiliol.
Mae trais yn erbyn menywod a merched yn dreiddiol ac mae wedi cael ei ystyried gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i fod y math o dorri hawliau dynol mwyaf eang heddiw. Mae un fenyw yn cael ei lladd gan ei phartner neu gyn-bartner bob tri diwrnod. Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Caerdydd, Arolwg Holi Caerdydd 2021 ac ymchwil Cymorth i Fenywod yng Nghymru i gyd yn amlygu bod menywod yn teimlo'n llawer llai diogel na dynion mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys cerdded ar y strydoedd, yn enwedig ar ôl iddi dywyllu, boed yn eu cymdogaeth neu yng nghanol y ddinas, bod aflonyddu rhywiol yn bryder mawr a bod merched yn cael eu targedu gan ddynion i'w hecsbloetio.
I newid diwylliant rhywiaeth a chasineb at fenywod mae angen i Gyngor Caerdydd gymryd camau effeithiol.
Mae'r argyfwng costau byw sy'n cael eu hachosi gan y Torïaid unwaith eto wedi tynnu sylw at y ffaith bod menywod yn cael eu heffeithio'n negyddol yn wahanol i ddynion gan fod eu grym economaidd a chymdeithasol cymharol yn llai na'r rhan fwyaf o ddynion. Er enghraifft, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2021, er bod mwy o fenywod na dynion yn byw yng Nghaerdydd (pob oedran), mae llai o fenywod yn gyflogedig, mae menywod yn cael eu talu llai, mae mwy o fenywod yn rhai sy'n rhoi gofal (di-dâl) ac yn gweithredu llai o gwmnïau neu fusnesau bach a chanolig. Mae'r anghyfartaledd yn tyfu.
Mae hyn hefyd yn plethu ag anabledd, hil, oedran a chyfeiriadedd a hunaniaeth rhywiol. Er enghraifft, gofynnodd canlyniad arolwg y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol am fwy o amrywiaeth yn y sector cyhoeddus. Roedd Adroddiad Locked-Out 2021 yn disgrifio sut yr oedd gan bobl anabl 'lai o fynediad at wasanaethau cyhoeddus a chymorth cymdeithasol'.
Mae'r strategaeth ddrafft Trais yn erbyn Menywod Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gyrraedd gerbron y Cabinet ym mis Mai.
Mae’r Cyngor yn penderfynu:
I ddarparu cyngor a gwybodaeth trwy'r Hybiau a Llyfrgelloedd cymunedol ledled Caerdydd i helpu menywod a merched gael mynediad at yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, gan gynnwys llyfryn hawliau.
I greu rhaglen o weithgareddau, wedi'i llywio gan fenywod a merched, i rymuso ac ennyn diddordeb menywod a merched, gan gynnwys 'G?yl hawliau', 'Hyrwyddwyr Cydraddoldeb' a phrosiectau effaith gymdeithasol yng Nghaerdydd.
I sicrhau bod mwy o Fannau Diogel ledled Caerdydd, gan gynnwys menywod a merched wrth eu creu.
I gyflawni strategaeth a chanlyniadau VAWDASV cryf i gynyddu diogelwch pob menyw a merch yng Nghaerdydd.
I sicrhau bod strategaeth VAWDASV Caerdydd yn adlewyrchu CEDAW ac yn cynnig uchelgais glir a chyflawniadau tuag at roi diwedd ar bob math o drais yn erbyn menywod a merched.
I adolygu ein rhaglen o hyfforddiant cydraddoldeb/cynhwysiant i sicrhau bod egwyddorion CEDAW yn cael eu hamlygu eu prif ffrydio a’u darparu drwy hyfforddiant o’r fath ar gyfer staff a swyddogion y Cyngor, gan gynnwys staff rheng flaen.
I roi mesurau ar waith sy'n sicrhau bod gweithlu'r Cyngor yn fesuradwy yn fwy cynrychioliadol a chynhwysol o'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys cryfhau a dathlu gwaith ein rhwydwaith cydraddoldeb.
I sicrhau bod egwyddorion CEDAW wedi'u gwreiddio ym mhob penderfyniad, gydag asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau craffu, gan gyflawni dyletswydd y sector cyhoeddus ar rywedd.
I fyw drwy esiampl: parhau i osod atebolrwydd am gam-drin ar y rhai sy'n achosi niwed, drwy herio a newid diwylliant rhywiaeth a chasineb at fenywod, trwy weithgareddau ac ymyriadau sy'n mynd i'r afael ag ymddygiadau niweidiol a hyrwyddo dileu gwahaniaethu yn erbyn menywod i bobl o bob rhyw.
I ddatgan bod Caerdydd yn 'Ddinas CEDAW'.
Galw ar y Cabinet i gyflwyno adroddiad gyda chynigion amserlen pendant er mwyn cyflawni'r materion a godwyd yn y cynnig hwn.
Dogfennau ategol: