Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig 1

Cynigiwyd gan: Joel Williams


Eiliwyd gan: Catriona Brown-Reckless

 

 

Mae gan Gyngor Caerdydd bwerau statudol i gymryd camau gorfodi yn erbyn datblygwyr sy'n torri amodau cynllunio. Mae nifer fach o ddatblygwyr bach a mawr yn methu â chydymffurfio â'u hamodau cynllunio ac mae rhai yn torri eu hamodau cynllunio’n ddybryd. Mae Cyngor Caerdydd yn methu â chymryd camau gorfodi yn erbyn y toriadau parhaus hyn.

 

Mae'r Cynnig hwn yn galw ar Gyngor Caerdydd, wrth gyflawni ei gyfrifoldebau statudol fel Awdurdod Cynllunio Lleol, i sicrhau bod camau cadarn yn cael eu cymryd yn erbyn datblygwyr sy'n torri eu hamodau cynllunio yn gyson, gan gynnwys defnyddio gorchmynion gwahardd, yn atal datblygwyr rhag parhau â'u datblygiadau nes eu bod yn cydymffurfio â'u hamodau cynllunio.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: