Eitem Agenda

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion - Adroddiad Blynyddol ar Fuddsoddi yn yr Ystâd Addysg

Cynnal craffu cyn penderfyniad ar Adroddiad Blynyddol CTY, sy'n diweddaru Aelodau ar gynnydd yn erbyn Trefniadaeth Ysgolion y cytunwyd arni a blaenoriaethau buddsoddi cyfalaf a gwariant; cynnydd a wnaed a gwersi a ddysgwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; nodi unrhyw newidiadau nodedig posibl yn seiliedig ar gyfleoedd/risgiau/materion yn cyflwyno a allai effeithio ar y rhaglen yn y tymor byr, canolig, hirdymor; a chadarnhau cynlluniau (gan gynnwys cynigion a phrosiectau) ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Mae Atodiadau 3 a 4 i ddilyn

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod yr eitem wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd mewn perthynas â chynllunio trefniadaeth ysgolion.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg; Melanie Godfrey, y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes; Richard Portas, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion; Michelle Duddridge-Friedl, Rheolwr Gweithredol, Strategaeth y Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion; Brett Andrewartha, Rheolwr Cynllunio’r Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion; a Jennie Hughes, Uwch Arweinydd Cyflawni, Cynhwysiant.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad, lle rhoddodd gyflwyniad byr i'r adroddiad a gwahodd adborth ar ei fformat.

 

Rhoddodd Richard Godfrey gyflwyniad, lle rhoddodd drosolwg o gynnydd yn y strategaeth CTY, gan gynnwys y cyd-destun strategol ehangach; ffrydiau ariannu; cyd-destun Band B; newidiadau yn y rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu; cynnydd Band B a CDLl; gwariant Band A a Band B 2022/23; adnewyddu asedau; cynllunio lleoedd ADY; lleoliadau annibynnol/y tu allan i'r sir; Cynnydd Caerdydd Un Blaned; ystyriaethau cynllunio strategol; twf mewn lleoliadau arbenigol; amcanion buddsoddi disgwyliedig Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu; cyflwr asedau; a'r camau nesaf ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau, ac mae’r drafodaeth wedi’i chrynhoi isod:

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar y rhesymau dros y gwaith ar do Ysgol y Court, a dywedodd swyddogion ei fod oherwydd ei fod yn anniogel.

 

Awgrymodd yr aelodau y byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth fanylach am ardaloedd o’r ddinas lle'r oedd poblogaeth yn tyfu neu'n gostwng. Dywedodd swyddogion fod hyn yn cael ei ystyried a'i gydberthyn â'r ysgolion sy'n cael eu hystyried yn fwy poblogaidd mewn rhai ardaloedd. Bydd gan ysgolion newydd niferoedd isel yn y lle cyntaf wrth i bobl fynd i ysgolion dibynadwy sydd ag enw da sefydledig. Mae'r Cyngor yn edrych ar faint o lefydd fydd eu hangen mewn ardal a faint o blant mewn ardal sy'n dewis ysgolion lleol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad am y rheswm dros y cynnydd yn nifer y plant ADY. Dywedodd swyddogion nad oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â thwf yn y boblogaeth, ond bod cynnydd cenedlaethol mnewn poblogaethau ADY, i raddau oherwydd bod nifer uwch o blant ag anableddau penodol yn goroesi’n ddigon hen i fynychu'r ysgol. Bu cynnydd hefyd mewn cymhlethdod anghenion a'r galw am ddarpariaeth arbenigol. Mae presenoldeb Ysbyty Plant Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn denu teuluoedd o blant ag anghenion sylweddol. Yn ogystal, bu cynnydd yn nifer y plant ag anawsterau iechyd meddwl ac emosiynol oherwydd amgylchiadau arbennig y blynyddoedd diwethaf.

 

Roedd yr Aelodau am wybod a oedd unrhyw ragfynegiadau ar sut y byddai'r Cyngor yn diwallu anghenion clinigol plant ag ADY. Dywedodd swyddogion fod y bwrdd iechyd yn penodi Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg. Mae'r Cyngor yn trafod gydag ysgolion arbennig a gwasanaethau therapi ynghylch cydweithio i wella gwasanaethau mewn ysgolion ymhellach.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a'u harsylwadau a gasglwyd yn ystod y ffordd ymlaen. 

Dogfennau ategol: