Eitem Agenda

Cylch Gorchwyl

Nodi bod y Cyngor, yn ei Gyfarfod Blynyddol ar 26 Mai 2022 wedi cytuno ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor:

 

1

Mae'r Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol yn gyfrifol am gynghori'r Cyngor ac am eirioli ar ran gyfunol y bobl sy'n gadael gofal a’r plant sy'n derbyn gofal gan Gyngor Caerdydd, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl.

 

2

Er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i blant sy'n derbyn gofal a'r bobl sy'n gadael gofal, bydd y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol yn:

 

Mynd ati i Hyrwyddo:

 

 

a

a gweithredu cyfrifoldeb ar y cyd rhwng y Cyngor, Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Addysg ac asiantaethau statudol eraill i sicrhau rhianta da i bob plentyn yng ngofal Cyngor Caerdydd ac i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n briodol i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd.

 

 

b

gwelliannau gwirioneddol a pharhaus drwy sicrhau bod y mecanweithiau sydd ar waith yn ystyried yn llawn:

 

 

.

bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas plant a phobl ifanc.

 

.

nodweddion, diwylliant a chredau'r plentyn neu'r person ifanc.

 

.

pwysigrwydd hyrwyddo bod y ffordd y mae teulu’r plentyn yn magu’r plentyn yn gyson o ran hyrwyddo lles y plentyn.

 

.

Pan fo’r plentyn yn iau na 16 oed, barn, dymuniadau a theimladau’r rheiny sydd â chyfrifoldeb rhieniol am y plentyn i’r graddau y mae’n gyson â lles Pan fo’r plentyn yn iau na 16 oed, barn, dymuniadau a theimladau’r rheiny sydd â chyfrifoldeb rhieniol am y plentyn i’r graddau y mae’n gyson â lles

 

Nodi blaenoriaethau allweddol drwy:

 

 

c

ymgysylltu â fforymau plant sy'n derbyn gofal perthnasol, fel y pennir gan y bobl ifanc, i yrru blaenoriaethau'r pwyllgor.

 

 

d

sicrhau bod agenda’r pwyllgor yn canolbwyntio ar yr hyn y mae plant sy'n derbyn gofal yn eu nodi yn berthnasol i'w twf a'u datblygiad.

 

Cydlynu a chydweithio er mwyn:

 

 

 

 

e

ceisio sicrhau bod gwasanaethau a gydlynir yn cael eu darparu ar draws pob sefydliad statudol a phob sefydliad y sector gwirfoddol.

 

 

f

ymgysylltu a datblygu deialog a rennir gyda'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc er mwyn osgoi dyblygu ar yr agenda, tra'n gweithio gyda'i gilydd i fanteisio ar ddadansoddiad manwl o ddata perfformiad allweddol.

 

 

g

ymgysylltu â chynlluniau a disgwyliadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i ehangu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus, a’u croesawu.

 

Monitro Canlyniadau a Pherfformiad er mwyn:

 

 

h

sicrhau bod systemau monitro perfformiad ar waith, ac adolygu data perfformiad yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod canlyniadau da i blant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal yn cael eu cyflawni'n gyson.

 

 

i

adolygu ansawdd ac effeithiolrwydd:

 

 

.

Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal

 

.

Gwasanaethau Addysg

 

.

Gwasanaethau Iechyd

 

3

Rhoi Adroddiad Blynyddol i Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor, y Cabinet a'r Cyngor llawn.

 

4

Sicrhau bod y strategaeth rhianta corfforaethol yn cael ei gweithredu'n effeithiol, ei hadolygu a'i diwygio yn ôl yr angen, er mwyn bodloni anghenion plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal.

 

5

Argymell penodi aelodau cyfetholedig i’r Pwyllgor i’w cymeradwyo gan y Cyngor.

 

6

Gwneud argymhellion i'r Cabinet a'r Cyngor mewn perthynas ag unrhyw faterion sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.

 

7

Bydd gofyn i bob Aelod o’r Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol ddilyn hyfforddiant perthnasol i’w galluogi nhw i gyflawni eu dyletswyddau’n iawn.