CYNIGIWYD GAN: CYNG MARGARET LEWIS
EILIWYD GAN: Y CYNGHORYDD JACKIE JONES
1. Ers dyfodiad SS Empire Windrush yn Nociau Tilbury ar 22 Mehefin 1948, y bobl, sydd bellach yn cael eu hadnabod yn annwyl fel Cenhedlaeth Windrush, yw'r rhai a atebodd alwad y DU i helpu i ailadeiladu gwlad flinedig a chwalwyd gan ryfel.
2. Ymgartrefodd nifer o'r Genhedlaeth Windrush a chael croeso yng Nghaerdydd, gyda'r disgwyl o fod yng Nghaerdydd am genedlaethau. Er iddyn nhw ymgartrefu ers degawdau, mae nifer wedi cael eu heffeithio'n negyddol gan Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau newydd 2022.
3. Mae'r Cyngor yn nodi cynnig y Cynghorydd Ebrahim a basiwyd gan Gyngor Caerdydd ym mis Hydref 2018 yn galw ar Gabinet y Cyngor i archwilio'r ffordd orau y gall y Cyngor ddarparu cyngor, cymorth a chefnogaeth i'r unigolion hynny a'u teuluoedd yr effeithir arnynt gan effaith negyddol Deddf Mewnfudo 2014, a'u hannog i ddod ymlaen fel y gall y Cyngor helpu i sicrhau eu hawl i aros yn y DU a'u galluogi i fyw yma yng Nghaerdydd, yn hyderus o'u statws mewnfudo.
4. Mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi pasio Deddf Windrush yn San Steffan sydd:
a. Yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i leihau anghyfartaledd hil ar gyfer canlyniadau yn eu gwaith fel yr amlygwyd gan
b. Archwiliad Anghyfartaledd Hiliol Llywodraeth y DU ac adroddiad Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd.
c. Sefydlu cronfa cydlyniant cymunedol y Gymanwlad, a fydd yn dod o gyllidebau sy'n bodoli eisoes, ar gyfer datblygu prosiectau i drigolion y DU a'r Gymanwlad er mwyn mynd i'r afael â gwahaniaethau ac ailadeiladu cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd o gymunedau a ddifrodwyd gan sgandal Windrush fel y cymunedau hynny yng Nghaerdydd.
5. Gan fod Adroddiad Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd yn nodi 'dechrau ymdrechion ein dinas i roi diwedd ar anghyfiawnderau hiliol hirsefydlog er lles' ac mae'n darparu map ffordd i weithredu'r nod o (ymhlith pethau eraill) 'creu prifddinas fwy cyfartal ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus, y sector gwirfoddol ac o fewn ein cymunedau', yn unol â pholisi Cenedl Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru erbyn 2030:
Mae’r Cyngor yn PENDERFYNU:
1. Cefnogi pasio Deddf Windrush y DU sy'n cefnogi trigolion Caerdydd.
2. I benodi Aelod Arweiniol Windrush ar y Cyngor a fydd:
a. Yn eiriolwr dros deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan Windrush a'r ddeddfwriaeth bresennol.
b. Bod yn bwynt cyntaf o gefnogaeth i ddioddefwyr sgandal Windrush o Gaerdydd a'r rhai yr effeithiwyd yn negyddol arnynt gan Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022.
c. Hyrwyddo a chefnogi rhwydwaith o sefydliadau sector cyfreithiol, cymdeithasol a gwirfoddol i ddarparu gwasanaeth effeithiol i drigolion Caerdydd sydd wedi eu heffeithio gan Sgandal Windrush a’r Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau.
3. Codi ein hymwybyddiaeth o effaith Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau newydd 2022 ar gymunedau.