Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig - 1

CYNIGIWYD GAN:  Y CYNGHORYDD LEONORA THOMSON

EILIWYD GAN:        Y CYNGHORYDD JESS MOULTRIE

 

Mae'r Cyngor hwn yn gresynu'r anhrefn economaidd a ddygwyd gan 'gyllideb fach' mis Medi'r Canghellor a arweiniodd at

 

·         Sterling yn chwalu i'w werth isaf erioed yn erbyn y doler, gan wthio cost mewnforion i fyny

·         Cyfradd llog yn codi a thynnu cannoedd o gynhyrchion morgais yn ôl

·         Bygythiadau hylifedd i nifer o gynlluniau pensiwn mawr, gan arwain at Fanc Lloegr yn prynu gwerth biliynau o fondiau drwy arian trethdalwyr i “adfer gweithrediad y farchnad”

 

a'r cyfan wedi gwaethygu effaith sylweddol eisoes yr Argyfwng Costau Byw yn uniongyrchol ar drigolion Caerdydd.

 

Mae'r Cyngor yn nodi pryder na ddarparodd y 'gyllideb fechan' unrhyw gymorth newydd i wasanaethau cyhoeddus, ac mae'n nodi ymhellach y bydd y penderfyniad dilynol i ohirio'r Adolygiad Gwariant yn arwain at doriad sylweddol mewn termau real i gyllidebau'r Cyngor, ar adeg pan rydym yn delio â phwysau chwyddiant digynsail ac ymchwydd yn y galw am wasanaethau,  gan nodi hefyd bod £300 miliwn eisoes wedi ei dorri o gyllideb y Cyngor hwn o ganlyniad i ddegawd o lymder.

 

Yn benodol, mae'r Cyngor yn mynegi pryder eithriadol bod y bwlch yn y gyllideb sy'n wynebu'r Cyngor yn y flwyddyn ariannol nesaf bellach yn £53 miliwn, gan arwain at doriadau dwfn oni bai bod Llywodraeth y DU yn ymrwymo i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn ym mhob un o'r 4 gwlad.

 

Mae'r Cyngor yn croesawu'r gwaith y mae Cyngor Caerdydd yn ei wneud i gefnogi preswylwyr orau ar yr adeg heriol hon - gan gynnwys sefydlu mannau cynnes yn ein hybiau, cryfhau cyngor ariannol ac i wasanaethau gwaith, ehangu cefnogaeth i helpu digartrefedd, a sefydlu Tasglu Costau Byw i gydlynu cymorth gyda phartneriaid eraill - ond mae hefyd yn cydnabod y bydd angen mwy fyth o help os yw Llywodraeth y DU yn methu (fel sydd dan fygythiad) i gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant.

 

Mae’r Cyngor yn penderfynu:

 

·         Datgan argyfwng Costau Byw fel cydnabyddiaeth o'r pwysau ariannol digynsail sy'n wynebu trigolion a gwasanaethau'r Cyngor

·         Hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r gefnogaeth mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn ei gynnig mewn ymateb i'r argyfwng

·         I gondemnio cam-drafod diweddar y Llywodraeth o economi'r DU, ac i alw ar y Prif Weinidog a'r Canghellor i ariannu Gwasanaethau Cyhoeddus yn iawn gan gynnwys Cynghorau

·         Cefnogi'r egwyddor mai'r rhai sydd fwyaf abl i dalu – boed yn unigolion neu gorfforaethau - ddylai ysgwyddo'r baich mwyaf wrth ymateb i'r Argyfwng Costau Byw a chydbwyso cyllid y cenhedloedd

·         I ofyn i'r Cabinet roi diweddariadau rheolaidd i'r Cyngor ynghylch effaith yr argyfwng Costau Byw ar ddarparu gwasanaethau'r Cyngor, ac ar ein gwaith i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein Dinas

 

 

 

Dogfennau ategol: