Eitem Agenda

Cynigion Trefniadaeth Ysgolion: Darpariaeth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - Darpariaeth Anghenion Dysgu Cymhleth a Chyflyrau’r Sbectrwm Awtistig ar gyfer Disgyblion Oed Cynradd ac Uwchradd

Craffu cyn gwneud penderfyniad ar gynigion y Cabinet.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Melanie Godfrey (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Richard Portas (Cyfarwyddwr Rhaglen Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion), a Brett Andrewartha (Rheolwr Cynllunio Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion) i'r cyfarfod.

 

Rhoddodd Richard Portas (Cyfarwyddwr Rhaglen Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion) ddatganiad i'r Aelodau yn amlinellu cefndir y tri adroddiad/ papur sy'n cael eu hystyried.   Mae ymgynghoriadau wedi digwydd, mae'r canlyniadau wedi'u hadrodd yn ôl ac mae hysbysiadau statudol wedi'u cyhoeddi.   Daw'r adroddiad yn dilyn y cyfnod gwrthwynebu. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth ynghylch a fyddai’n iawn cymryd yn ganiataol, mewn termau strategol, mai’r ysgogwyr allweddol ar gyfer yr argymhellion yw’r twf a ragwelir mewn angen yn y dyfodol, digonolrwydd y lleoedd i ddiwallu angen, lleoliad y lleoedd hynny ledled y ddinas ac arbedion effeithlonrwydd, hynny yw, y potensial i wneud iawn am y costau ychwanegol o'r twf yn y ddarpariaeth drwy leihau gwariant ar Leoedd Allsirol ac mewn ysgolion annibynnol? Dywedodd y swyddogion, o ganlyniad i'r ymarfer mapio darpariaeth sydd wedi'i gynnal, fod y gost fesul disgybl, o fewn y sir ac yn allsirol, a thrafnidaieth yn debygol o ostwng.  Yn sicr mae cynnydd mewn angen.

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am rywfaint o fewnwelediad i sut y bydd y gwerthusiadau ariannol yn cael eu datblygu a'r amserlen ar gyfer hynny, ac a oes unrhyw fodelu wedi digwydd ar y graddau y gellir cyflawni arbedion Allsirol a'r goblygiadau os na chânt eu gwireddu.  Dywedodd y swyddogion fod asesiad wedi'i gynnal yn erbyn y lleoedd y tu allan i'r sir sydd yn bodoli; yn y pen draw nid oes lleoedd allan yna os nad ydym yn darparu ar gyfer y ddarpariaeth sy'n cael ei rhoi i mewn.  Bydd yr holl gynigion a gyflwynwyd yn eistedd yn y Rhaglen Asedau Addysg sy'n ymdrin â chyflwr, addasrwydd a digonolrwydd.   Wrth gyflwyno'r cynigion hyn ystyrir y llwybr caffael mwyaf priodol.  

 

 

Mae'n anodd darparu union ffigur o ran beth allai ddigwydd os oeddem yn ddibynnol iawn yn y dyfodol ar ddarpariaeth yn y sector annibynnol.  Y gwir amdani yw eu bod bron yn llawn ar hyn o bryd; gallwn feincnodi yn erbyn y costau maent yn eu codi ar yr Awdurdod Lleol ar hyn o bryd.  Os oeddem yn dibynnu ar y sector annibynnol, byddai'r costau tua £50,000 y flwyddyn fesul cynnydd disgybl.

 

Dywedodd swyddogion y byddem yn disgwyl i gostau fesul disgybl ostwng, ond yn fwyaf tebygol, bydd gostyngiad mewn costau uwch.

 

·          

Gofynnodd yr aelodau am ddiweddariad am safon y staff sydd ar gael gan gofio bod nifer o CAAu i fod i agor ym mis Medi ac er bod polisi Adnoddau Dynol yn nodi y gall staff gael eu hadleoli o ran lleoliad a swydd, siawns na fydd hynny'n digwydd gan ei fod yn faes mor arbenigol?  Cafodd yr aelodau wybod bod y cwestiwn yn ymwneud hefyd â'r adroddiad Iechyd a Lles Emosiynol; mae gwaith wedi bod yn digwydd ers bron 9 mis, mae nifer o dimau’n gweithio gyda phob un o'r ysgolion yn unigol.  Bu'n rhaid edrych arno fesul achos wrth edrych ar bob un o'r darpariaethau sydd wedi eu cyflwyno.  Mae nifer o'r cynigion eisoes mewn lle dros dro ac mae'r cynnydd yn cael eu ffurfioli nawr.  Roedd swyddogion yn cydnabod bod y ddarpariaeth ADY a'r pwysau ar ysgolion yn gyffredinol ac yn y dyfodol bydd ehangiadau pellach maes o law.  Er nad oes anawsterau a ragwelwyd ar gyfer mis Medi, mae angen i ddatblygu'r gweithlu barhau i sicrhau bod digon o staffio wrth symud ymlaen, mae hynny'n ymwneud nid yn unig â staff dysgu ond hefyd i staff cynorthwyol.  Mae'n rhaid cael strwythurau cymorth mewn lle hefyd.

 

·          

Holodd yr aelodau am y gwaith a wnaed gyda sefydliadau hyfforddiant athrawon i archwilio'r sgôp ar gyfer athrawon y dyfodol. Dywedodd swyddogion fod y Cyngor yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau ar Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon a’r CSCA.

 

·         Roedd aelodau'n holi am nifer yr athrawon ADY sydd eu hangen ac a oedd gofyn i athrawon ADY fod â sgiliau Cymraeg.  Dywedodd swyddogion fod y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion fesul achos.  Mae'r Cyngor eisoes yn edrych i'r dyfodol o ran sut y gall ddarparu fesul cam o amgylch Band B ac ati, a bydd yn parhau i ystyried hyn wrth iddo weithio drwy'r broses. O ran addysg cyfrwng Cymraeg, bydd gweithgorau a chynlluniau gweithredu cyfrwng Cymraeg yn cael eu sefydlu yn y 6 mis nesaf o gwmpas y CSCA. Mae canlyniadau datblygu'r gweithlu yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y CSCA. Bydd cynlluniau gweithredu clir er mwyn cefnogi ysgolion a chyrraedd y targedau sydd wedi'u gosod yn y strategaeth. 

 

·         Gofynnodd yr aelodau pam y rhagamcanwyd y byddai cost trafnidiaeth yn codi'n sylweddol fwy na chyfran y disgyblion.  Dywedodd swyddogion bod cynnydd sylweddol yng nghostau tanwydd a oedd yn gyrru’r pwysau ar y system. Yn ogystal mae nifer ychwanegol o ddisgyblion, sydd hefyd yn cynyddu'r pwysau ar gostau.

 

·         Gofynnodd yr aelodau at ba gymhareb car i ddisgybl y mae'r Cyngor yn anelu ati, gan ystyried cynlluniau Teithio Llesol, neu a fyddai lle ar gael ar gyfer un maes parcio fesul disgybl ym mhob un o'r ysgolion a ystyriwyd. Dywedodd swyddogion fod rhai disgyblion yn cael eu cludo i ysgolion arbennig mewn tacsis a thrafnidiaeth â chymorth.  Mae hyn yn cael ei gynnwys o fewn y modelu. Mae disgwyl i staff ac ysgolion gael cynlluniau Teithio Llesol.  Mae gwaith yn cael ei wneud ar wella ymwybyddiaeth o amcanion Caerdydd Un Blaned a'u cynnwys yn y cwricwlwm. Mae angen llawer o waith ar amcanion Caerdydd Un Blaned ond mae'r Cyngor yn dechrau llunio'r llif gwaith i wella ymddygiadau, sy'n helpu i leihau'r ddibyniaeth ar ddulliau teithio nad ydynt yn rhai teithio llesol. Mae'n rhywbeth fydd yn parhau i esblygu dros y blynyddoedd nesaf.

 

·         Gofynnodd yr aelodau a oedd gwaith wedi'i wneud o ran materion teithio i ddisgyblion T? Gwyn, a faint o effaith mae disgwyl i'r 40 lle ychwanegol eu cael.  Dywedodd swyddogion y byddai'r disgyblion ychwanegol yn cael eu cyflwyno'n raddol dros nifer o flynyddoedd, gyda'r nifer gyntaf yn cael eu derbyn ym mis Medi.  Mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar amseroedd parcio ceir ac amseroedd gollwng a chasglu, a gwella llwybrau i mewn ac allan.

 

·         Tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith bod cost lleoliadau annibynnol yn rhannol oherwydd eu timau amlddisgyblaethol mewnol, a gofynnwyd pa mor hyderus oedd y Cyngor y gallai'r timau Anabledd Dysgu presennol ddiwallu'r anghenion, gan eu bod eisoes wedi cyrraedd capasiti. Dywedodd swyddogion fod y llefydd wedi'u nodi yn y system yn gynnar iawn, ac mae cyfarfodydd strategol rheolaidd gydag Iechyd i sicrhau bod cymorth yn cael ei gynnwys.

 

·         Gofynnodd yr aelodau a fyddai modd rheoli'r rhaglen o ystyried nifer y cynlluniau.  Dywedodd swyddogion fod y cynlluniau mwy ar y gweill.  Mae cynlluniau wedi cael eu dylunio a'u caffael ochr yn ochr â phapurau sy'n mynd drwodd oherwydd brys y cynigion.  Mae mesurau wrth gefn ar waith gyda phob un o'r ysgolion.  Mae nifer o ehangiadau eisoes wedi digwydd. 

 

·         Gofynnodd yr aelodau sut y byddai'r gofyniad i ysgolion ddyfeisio’u cynlluniau Teithio Llesol eu hunain yn cydfynd ag anghenion plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a beth fyddai disgwyl i ysgolion ei wneud i hwyluso Teithio Llesol i ddisgyblion o'r fath, gan gydnabod nad yw Teithio Llesol i lawer o'r disgyblion hyn yn opsiwn ymarferol. A fyddai hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cynlluniau ar gyfer isadeiledd fel llefydd parcio?  Dywedodd swyddogion fod cymhareb uwch o lefydd parcio i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig nag ysgolion prif ffrwd.  Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr Priffyrdd ac yn edrych ar fynd i'r afael â materion priffyrdd trwy'r rhaglen asedau.  Mae'r cynigion presennol yn ategu gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo.  Nid yw'n briodol ystyried Teithio Llesol i nifer o ddisgyblion, ac mae ffyrdd yn cael eu hystyried i leihau trafnidiaeth ledled y ddinas drwy gynyddu'r ddarpariaeth leol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a'u harsylwadau a gasglwyd yn ystod y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol: