Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig - 2

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Rhys Taylor

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Ashley Wood

 

Gweithredu ar Ddiogelwch Tân Adeiladau

 

Mae'r cyngor hwn yn pryderu'n fawr bod miloedd o bobl yn dal i fyw mewn adeiladau sydd â diffygion diogelwch tân a allai fod yn beryglus flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae'r cyngor hwn yn nodi bod Cronfa Diogelwch Adeiladau a Chynllun Pasbort Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru wedi'u cynllunio i nodi pa adeiladau sydd â methiannau diogelwch tân a chost adfer y rheini.


Mae'r cyngor hwn yn nodi â gofid nad yw lesddeiliaid yn agosach at ateb i'r broblem a'u bod yn wynebu biliau mawr er mwyn ariannu gwaith adfer a chynlluniau Gwyliadwriaeth.

Mae'r cyngor hwn o'r farn na ddylai unrhyw lesddeiliad ysgwyddo'r baich o unioni methiannau datblygwyr a'r system diogelwch adeiladau – boed yn landlordiaid neu fel arall.


Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i:

  • Gyflwyno adroddiad ar sefydlu Canolfan Cymorth Diogelwch Adeiladau i ddarparu cyngor ac arweiniad wyneb yn wyneb ac ar-lein ar faterion fel: cwblhau ceisiadau am gyllid ar gyfer gwahanol gronfeydd ariannu'r Llywodraeth; cyngor ar broses EWS1 a chynghori lesddeiliaid am eu hawliau.
  • Unwaith y caiff canlyniad y Gronfa Diogelwch Adeiladau ei gyhoeddi, cyflwyno adroddiad ar gost darparu eithriad treth gyngor i'r holl breswylwyr y mae'r argyfwng diogelwch tân yn effeithio'n uniongyrchol arnynt.

 

 

 

Dogfennau ategol: