Eitem Agenda

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Ehangu ac ailddatblygu Ysgol Gynradd Pentyrch

(papurau i ddilyn)

 

Craffu cyn penderfynu ar gynigion y Cabinet mewn perthynas ag ehangu ac ailddatblygu Ysgol Gynradd Pentyrch.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Melanie Godfrey (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Richard Portas (Cyfarwyddwr Rhaglen, Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion), Brett Andrewartha (Rheolwr Cynllunio Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion) a Jennie Hughes (Uwch Arweinydd Cyflawniad, Cynhwysiant) i'r cyfarfod.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet a’r Cyfarwyddwr Rhaglen ddatganiadau.   Er bod yr ymatebion yn gefnogol ar y cyfan, codwyd mater gan feithrinfa nas cynhelir.   Cafwyd trafodaethau yngl?n â sut y gallai'r ddwy feithrinfa gydweithio.

 

Nid oedd gan yr Aelodau unrhyw gwestiynau.

 

Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a'u harsylwadau a gasglwyd yn ystod y ffordd ymlaen. 

 

Dogfennau ategol: