(papurau i ddilyn)
Craffu cyn penderfynu ar gynigion y Cabinet ynghylch y Ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion lechyd a Lles Emosiynol
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Melanie Godfrey (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Richard Portas (Cyfarwyddwr Rhaglen, Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion), Brett Andrewartha (Rheolwr Cynllunio Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion) a Jennie Hughes (Uwch Arweinydd Cyflawniad, Cynhwysiant) i'r cyfarfod.
Darparwyd datganiadau gan yr Aelod Cabinet a’r Cyfarwyddwr Rhaglen; yn gyntaf yn nodi fod yr adroddiadau yn dangos bod yr Awdurdod Lleol wedi cymryd sylw o'r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnodau ymgynghori; ac yn ail mai'r argymhelliad yw bwrw ymlaen â'r cynnig craidd. O ran cynnig Greenhill, bydd rhagor o ystyriaeth ar rai o'r sylwadau a wnaed, a bydd adroddiad pellach yn dod yn ôl i'r Pwyllgor yn ddiweddarach. Yn bennaf, roedd y sylwadau hynny’n cyfeirio at safle’r Dutch Garden Centre ac yn enwedig o ran agosrwydd y gyffordd. Mae yna atebion dylunio, ond mae angen cael y cydbwysedd yn gywir gan mai ysgol yw e’, ac i beidio ag edrych fel carchar. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud yn gysylltiedig â’r safle a'r ddarpariaeth sydd yno.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i ofyn cwestiynau:
· |
Cyfeiriodd yr aelodau at y cyfleusterau oedd yn cael eu datblygu ar Safle’r Dutch Garden Centre a safle T? Glas yn Llanisien, a nodwyd bod y cyfleusterau'n wahanol iawn. Holodd yr aelodau sut y byddai myfyrwyr ar safle T? Glas yn cael mynediad i gyfleusterau safle’r Dutch Garden Centre. Eglurwyd y byddai ymarfer gweledigaeth a fyddai'n mapio beth fyddai'r cysylltiadau; a fyddai disgyblion ar un safle neu'r llall ar gyfer eu haddysg gyfan neu ran ohoni; a sut y byddai hynny'n ystyried darpariaeth oddi ar y safle. Nid yw'r broses honno wedi dechrau eto, roedd angen yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn y lle cyntaf. Byddai hynny'n digwydd mewn unrhyw brosiect Band B.
Holodd yr Aelodau am ymateb Estyn mewn perthynas â darpariaeth CAA Ysgol Uwchradd y Dwyrain a Choleg Cymunedol Gorllewin Caerdydd; roedden nhw'n ymddangos yn wyliadwrus ynghylch galwadau ar Orllewin Caerdydd ar yr adeg hon. A yw'r ddarpariaeth yn mynd i gael ei datblygu dros gyfnod o amser i ganiatáu i'r coleg ddarparu ar ei chyfer a sefydlu'r ddarpariaeth mewn ffordd gynlluniedig? Dywedodd Karen Del'Armi, Cadeirydd Llywodraethwyr Gorllewin Caerdydd wrth yr aelodau fod y Corff Llywodraethu’n cefnogi’r gwaith o sefydlu'r CAA ac yn ei ystyried yn faes ar gyfer twf, er y gallai gofod ffisegol fod yn broblem, sydd wedi'i drafod gyda swyddogion, staff a myfyrwyr. Mae'n bwysig sicrhau bod yr elfennau diogelu ac iechyd a diogelwch yn iawn. |
PENDERFYNWYD:
Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a'u harsylwadau a gasglwyd yn ystod y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: