Eitem Agenda

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Cymhleth a Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth

(papurau i ddilyn)

 

Craffu cyn penderfynu ar gynigion y Cabinet ynghylch y Ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Melanie Godfrey (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Richard Portas (Cyfarwyddwr Rhaglen, Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion), Brett Andrewartha (Rheolwr Cynllunio Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion) a Jennie Hughes (Uwch Arweinydd Cyflawniad, Cynhwysiant) i'r cyfarfod.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet a'r Cyfarwyddwr Rhaglen ddatganiadau yn cadarnhau bod canlyniad yr ymgynghoriad wedi bod yn gymharol gadarnhaol ar y cyfan gyda chydnabyddiaeth glir bod angen cyflwyno'r cynigion.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch cyllid ac a fydd y cynigion yn cael eu cyflwyno.   Esboniodd swyddogion o ran y cynigion adeiladu a amlinellwyd, fod pob un ohonynt un ai ar safle sy’n bodoli neu’n rhan o brosiect sefydledig.  Mae ardaloedd wedi'u nodi er mwyn i'r ddarpariaeth gael ei chyflwyno.  Mae wedi'i chynnwys fel rhan o'r rhaglen asedau ehangach.  Ni fydd rhai yn eu lle ar gyfer Medi 22 ond byddant yn eu lle heb fod yn hir ar ôl hynny.  Nid oes unrhyw risg sylweddol â'r prosiectau.

 

 

Holodd yr aelodau faint o leoedd fyddai ar gael ym mis Medi 22.   Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod cytundebau dros dro ar waith lle'r oedd angen hynny, ond mae rhai o'r rhain a gynlluniwyd ar gyfer Medi 2023 wedi'u hystyried ochr yn ochr â gwaith cynllunio y tu allan i'r sir.   Doedd dim cynlluniau i’r holl leoedd fod wedi eu hariannu a'u llenwi erbyn Medi 22.

 

·          

O ran cyllid a thrafnidiaeth, nid yw'r gwaith modelu o ran y tu allan i'r sir a'r sefyllfa drafnidiaeth wedi'i threfnu'n llawn hyd yn hyn.  Mae'n fforddiadwy o fewn y gyllideb ddirprwyedig ar hyn o bryd ond nid yw’r gwaith modelu wedi'i gwblhau'n llawn.   Bydd angen gweld a fydd yr holl brosiectau’n cael eu datblygu.   Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi helpu gyda'r wybodaeth hon.   Y gobaith yw y bydd lledaeniad o ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar draws y ddinas.  Yna byddai disgwyl i’r costau trafnidiaeth ar draws y ddinas fesul disgybl leihau.  Nid dyma’r sefyllfa derfynol. 

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad mewn perthynas â chynnwys rhieni wrth leoli plant ag ADY i helpu i sicrhau nad oedd ysgolion yn trosglwyddo cyfrifoldeb dros y plant hynny yn hytrach na'u cadw mewn addysg prif ffrwd. Dywedodd swyddogion nad yw plant ag ADY yn cael eu rhoi mewn lle arbenigol yn ddiofyn.  Caiff lleoliadau arbenigol eu hystyried dim ond os na ellir darparu ar gyfer y plant yn yr ysgol.   Ymgynghorir yn agos â’r rhieni;

mae ganddynt yr hawl i wneud sylwadau ar leoliad.  Gallai nifer o blant gael eu lleoli yn y naill neu'r llall a byddai barn y rhieni’n cael ei flaenoriaethu. 

 

·          

Cyfeiriodd yr Aelodau at nifer o'r ymatebion a gododd rai cwestiynau am gapasiti staffio a lefelau sgiliau a'r angen am hyfforddiant gan holi pa waith blaengynllunio sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod gan staff y lefel gywir o sgiliau ac y byddant yno mewn modd amserol. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod cyfarfodydd wedi cael eu cynnal gyda phenaethiaid ysgolion arbennig; bydd gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion yn unigol gan y bydd gan ysgolion heriau gwahanol.  Mae angen dull wedi'i deilwra ar gyfer pob un o'r cynigion.   Ni fydd pob lle yn cael ei lenwi ar yr un pryd, felly bydd staff yn cael eu lleoli fesul cam hefyd.  Bydd angen i ysgolion fod yn cyflogi ac yn datblygu mwy o staff arbenigol dros y blynyddoedd nesaf.  

 

·          

Cyfeiriodd yr aelodau hefyd at yr ymatebion gan y sector cyfrwng Cymraeg; yn gyffredinol, roedd yr ymatebion yn gadarnhaol ac yn ffafriol ond roedd llawer o ymatebion yn codi'r mater nad yw’r ddarpariaeth Gymraeg wedi cael ei datblygu i’r un graddau, a'r diffyg llwybr clir i rieni o'r cyfnod sylfaen i'r ysgol uwchradd.  Gall hyn arwain at lawer yn dewis gadael addysg cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd.  Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod cynnig Glantaf yn allweddol.   Mae'n uchelgeisiol iawn a bydd yn gwthio'r ddinas ymlaen yn sylweddol.   Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gwybodaeth am gyllid mewn perthynas â hynny.   Nid yw hyn yn gyfystyr â chyfres derfynol o gynigion, ond yn hytrach sicrhau bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. Mae angen adeiladu darpariaeth CAA cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd hefyd.   Mae opsiynau’n cael eu hystyried ar hyn o bryd.   Pan gyflwynwyd y CSCA roedd ymrwymiad i hanner yr ysgolion fod yn rhai Cymraeg; disgwylir y bydd yna ddarpariaeth CAA yn yr ysgolion hynny hefyd.  Bydd yn tyfu dros amser wrth i'r CSCA ddatblygu. 

 

·          

Dywedodd yr aelodau y soniwyd sawl gwaith nad dyma oedd cam olaf y broses; mae cyfeiriad at bapur opsiynau terfynol a gwerthusiad ariannol.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau nad oes graddfeydd amser penodol ar hyn o bryd ond byddant yn cael eu rhoi at ei gilydd dros y misoedd nesaf. 

 

·          

Holodd yr Aelodau sut y byddai'r broses bontio’n cael ei rheoli pan fyddai darpariaeth CAA yn cael ei rhoi mewn ysgolion nad oes ganddynt y math hwnnw o ddarpariaeth ar hyn o bryd.   O ran diffyg CAA yn yr ysgolion sydd wrthi’n ystyried rhoi darpariaeth, sut mae hynny'n mynd i gael ei reoli a sut ydych chi'n mynd i reoli'r broses bontio honno?  Dywedodd swyddogion na fydd datblygiad Ysgol y Court yn y Tyllgoed yn rhan o’r adeilad ysgol presennol, bydd yn adeilad newydd ar yr un safle ac ni fyddai'r ysgol na'r plant yn trosglwyddo tan yr oedd yr ysgol yn barod ar eu cyfer.   Yna byddai lleoedd ychwanegol a fyddai'n tyfu dros amser.   Ni ddisgwylir i’r prosiect hwnnw gael ei gyflawni am ychydig flynyddoedd eto gan ei fod yn brosiect adeiladu mawr.  Mae Ysgol y Court yn rhan o Fand B, y cynhelir ymarfer gweledigaeth lawn arno, nid gwaith ehangu’n unig yw e’. 

 

·          

Holodd yr Aelodau am sylw ynghylch bod y ddarpariaeth ADY yn cael ei rhoi mewn ardaloedd yng Nghaerdydd lle mae'r boblogaeth yn wyn yn bennaf; mae'r sylw yn haeddu ychydig o feddwl am anghenion y gymuned BAME ac a yw hynny'n ychwanegu lefel arall o faterion adnoddau i'w hystyried cyn bod y lleoedd yn cael eu cynnig.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau nad dyma'r gyfres derfynol o gynigion, mae cynlluniau mewn rhai ardaloedd yn dal i gael eu hystyried, yn enwedig yn nalgylch Fitzalan.  Mae swyddogion yn credu eu bod wedi cyflwyno cymysgedd da.   Mae rhai ardaloedd difreintiedig ac ardaloedd eraill hefyd.   Mae'n bwysig cael y lledaeniad ar draws y ddinas; dyma'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno ar unwaith ond bydd eraill yn cael eu cyflwyno maes o law.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a'u harsylwadau a gasglwyd yn ystod y ffordd ymlaen. 

 

Dogfennau ategol: