Craffu cyn penderfynu ar gynigion y Cabinet o ran y trefniadau cynnal ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Sarah McGill (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau) a Deborah Driffield (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Plant) i'r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Hinchey i wneud datganiad, pan amlinellodd rywfaint o'r wybodaeth yn yr adroddiad.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y cynigir bod Caerdydd yn parhau gyda threfniadau cynnal, ac mae pob un o'r 21 Awdurdod Lleol arall wedi cadarnhau eu bod yn cefnogi Caerdydd i barhau yn y rôl gynnal. Gofynnwyd i bob un o'r 22 awdurdod ystyried a ydynt am gymryd rhan yn y cyd-bwyllgor, er efallai na fydd yn cael ei greu tan ar ôl yr Etholiadau Llywodraeth Leol.
Mae Caerdydd wedi cyflawni'r rôl cynnal ers 2014 ond oherwydd y trefniadau cyd-bwyllgor mae'n bwysig ei bod yn fwy ffurfiol. Bydd gan y Swyddog Monitro rôl ac mae'n bwysig bod yr holl ofynion angenrheidiol yn cael eu cwblhau.
Gofynnwyd i’r Aelodau wneud sylwadau neu ofyn cwestiynau am y wybodaeth a roddwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi’u crynhoi isod:
|
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar gost y trefniadau cynnal. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod model adennill costau yn cael ei ddefnyddio. Yr egwyddor yw na fydd Caerdydd yn ysgwyddo'r gost nac yn cael unrhyw elw o ddarparu'r gwasanaeth. Mae proses adolygu flynyddol wedi'i gweithredu, yn enwedig o ran cyllid, a bydd Caerdydd yn gallu mynd ag unrhyw orwariant neu danwariant i'r Cyd-bwyllgor. |
|
|
PENDERFYNWYD:
Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a'u harsylwadau a gasglwyd yn ystod y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: