Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Patricia Arlotte (Cynrychiolydd yr Eglwys Gatholig) Dywedodd Carol Cobert (cynrychiolydd Eglwys yng Nghymru) y byddai'n rhaid iddi adael am 6.00 oherwydd ymrwymiad arall.
Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad mewn perthynas ag erthygl WalesOnline yn cyfeirio at sylwadau a wnaed mewn cyfarfod blaenorol ynghylch polisi Llywodraeth Cymru o gael gwared ar elw o'r sector gofal plant. Dywedodd y Cadeirydd fod sylwadau a wnaed ganddo ef a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant wedi'u tynnu allan o'u cyd-destun ac nad oeddent ychwaith yn erbyn y cynnig, fodd bynnag, mae'n fater cymhleth a sensitif sy'n gofyn am gynllunio gofalus.
Anfonodd y Cadeirydd a'r Aelodau eu meddyliau a'u gweddïau at bobl a chenedl yr Wcráin.