Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig 3

Argyfwng Ynni Cenedlaethol

 

Mae'r cyngor hwn yn cydnabod yr argyfwng ynni digynsail sy'n wynebu llawer o aelwydydd ledled Caerdydd, Cymru a'r DU. Yn ystod y misoedd i ddod bydd mwy a mwy o aelwydydd yn gweld cynnydd o faint na welwyd erioed o'r blaen wrth i'r cap ar brisiau ynni gael ei ddileu neu fod cytundebau ynni'n dod i ben.

 

Daw hyn ar ben argyfwng costau byw a grëwyd gan effeithiau Brexit a'r Pandemig Covid sydd eisoes wedi gweld gwasgfa ddigynsail ar incwm pobl.

 

Mae chwyddiant yn parhau'n uchel iawn sy'n rhoi pwysau enfawr ar gyllidebau cartrefi gan nad yw enillion wedi cynyddu ar yr un raddfa â phrisiau, gan arwain at dynhau cyllidebau teuluol a phobl yn waeth eu byd.

 

Mae costau ychwanegol byw o ddydd i ddydd eisoes yn effeithio'n negyddol ar bob cartref ledled Caerdydd ond hyd yn oed yn fwy felly ar deuluoedd sy'n byw'n agos at dlodi – llawer ohonynt yn deuluoedd sy'n gweithio sydd, serch hynny, yn dal i fod angen ymweld â banciau bwyd ac a fydd bellach yn wynebu'r dewis ofnadwy o wresogi eu cartref neu roi bwyd ar y bwrdd.  Dyma Brydain y Torïaid.

 

Fel Cyngor, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i liniaru costau ynni. Mae hyn yn cynnwys y cymorth targedig sydd ar gael i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi a helpu'r rhai sydd mewn tlodi tanwydd, gwaith ein Gwasanaeth Cyngor Ariannol i wneud y mwyaf o hawlio budd-daliadau cymwys, a chyfeirio preswylwyr at yr opsiynau cymorth ariannol sydd ar gael a'n buddsoddiad sylweddol yng nghartrefi presennol y Cyngor, i'w gwneud yn rhatach i'w gwresogi a byw ynddynt.

·         Ein rhaglen adeiladu Cartrefi Cyngor, sy’n darparu niferoedd cynyddol o gartrefi carbon isel/di-garbon, sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ar gyfer rhent cymdeithasol.

 

Fodd bynnag, dim ond drwy gamau pendant gan Lywodraeth y DU y gellir pennu'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd i ddelio â’r argyfwng costau byw

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Norma Mackie

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Ashley Lister

 

 

 

Dogfennau ategol: