Derbyn proffil gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar droseddau treisgar difrifol yng Nghaerdydd. Rhoi cipolwg ar y cyd-destun lleol, proffil problemau ac asesiad anghenion strategol.
Mae'r eitem hon yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor asesu'r cyd-destun presennol, y mesurau sydd ar waith a rôl y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol o ran mynd i'r afael â throseddau treisgar difrifol a'u hatal a dysgu am unrhyw heriau cysylltiedig.
Bydd hefyd yn gyfle i'r Pwyllgor gael trosolwg o'r Strategaeth Atal Trais sydd ar ddod a chyfrannu at ei datblygiad.
Wrth ystyried y pwnc hwn, bydd y gwaith craffu hwn yn cael ei rannu fel a ganlyn:
Bydd Cyd-Gadeiryddion y Bwrdd Arweinyddiaeth Diogelwch Cymunedol a'r Gr?p Cyflawni yn cael eu cefnogi gan swyddogion o'r Bwrdd i friffio'r Pwyllgor ar gyd-destun lleol troseddau treisgar difrifol yng Nghaerdydd. Bydd y briffio’n cynnwys proffil problemau Caerdydd, gan gynnwys ystadegau a ffigurau diweddar a'r asesiad anghenion strategol sy'n gysylltiedig â'r mater. Dilynir hyn gan Sesiwn Holi ac Ateb i Aelodau'r Pwyllgor i archwilio'r cyd-destun lleol yn fanwl.
I Aelodau'r Pwyllgor gael eu briffio ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i fynd i'r afael â throseddau treisgar yng Nghaerdydd a’u hatal. Bydd y briffio hefyd yn cynnwys cipolwg ar y Strategaeth Atal Trais sydd ar ddod. Dilynir hyn gan Sesiwn Holi ac Ateb i Aelodau'r Pwyllgor archwilio'r gwaith i fynd i’r afael â’r mater hwn yn fanwl.
I'r Aelodau ymgysylltu â chynrychiolaeth berthnasol i drafod effaith troseddau treisgar ar drigolion Caerdydd a chlywed eu safbwynt ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'r mater.
Rhoi cyfle i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac Aelodau o’r Pwyllgor fyfyrio a gwneud unrhyw sylwadau pellach cyn i’r cyfarfod gloi.
Dogfennau ategol: