Cynigiwyd gan y Cynghorydd Derbyshire
Eiliwyd gan y Cynghorydd Henshaw
Mae'r Cyngor hwn yn nodi
Bod y Byd eisoes yn cynhesu ar gyfradd frawychus sy'n arwain at dywydd mwy eithafol.
'Adroddiad Arbennig ar Gynhesu Byd-eang mewn byd cynhesach o 1.5ºC, byddai 6% o bryfed, 8% o blanhigion ac 8% o fertebratau yn cael eu colli; yn cynyddu i 18%, 16% ac 8% yn y drefn honno os oedd y byd yn 2ºC yn gynhesach.
• Rhagwelir y bydd ecosystemau tua 4% o'r arwynebedd tir daearol byd-eang yn trawsnewid o un math i'r llall yn dilyn 1°C o gynhesu byd-eang, ac 13% yn dilyn 2°C o gynhesu.
• Hefyd, mae angen ystyried ffactorau sy'n gysylltiedig â bioamrywiaeth fel tanau coedwig, digwyddiadau tywydd eithafol a lledaeniad rhywogaethau goresgynnol, plâu a chlefydau. Mae llawer o'r rheini eisoes yn digwydd.
Darganfu’r Adroddiad Cyflwr Natur diweddaraf a gyhoeddwyd gan yr RSPB a phartneriaid eraill yn 2019:
• O'r 3,902 o rywogaethau a aseswyd yng Nghymru, mae 666 (17%) dan fygythiad o ddiflannu o Gymru, ac mae 73 (2%) arall wedi diflannu eisoes.
• Mae'r llu o loÿnnod byw (33 rhywogaeth) ar gyfartaledd wedi gostwng 52% yng Nghymru ers 1976.
Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach:
Codwyd bioamrywiaeth fel mater o fewn penderfyniad y Cyngor i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac mae'n rhan allweddol o'n strategaeth Un Blaned.
Arweiniodd argymhellion y Pwyllgorau Craffu Amgylcheddol 'Rheoli Bioamrywiaeth yng Nghaerdydd', at y Cyngor yn derbyn ystod eang o argymhellion gyda'r nod o ddiogelu, gwella a hyrwyddo bioamrywiaeth.
Yr ystod eang o gamau sy'n cael eu cymryd fel rhan o Flaengynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau’r cyngor, a fydd yn cael ei ddiweddaru yn 2022.
Gall y camau mentrus hynny i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth Caerdydd sicrhau manteision o ran lles, mewn swyddi newydd, arbedion economaidd a chyfleoedd yn y farchnad.
Prosiect cyffrous newydd Coed Caerdydd a bod Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i fod yn Ddinas Parc Cenedlaethol.
Mae’r Cyngor hwn felly yn penderfynu’r canlynol:
1. Datgan Argyfwng Natur yng Nghaerdydd.
2. Gosod bioamrywiaeth gyda'r un amlygrwydd i newid yn yr hinsawdd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yng Nghyngor Caerdydd.
3. Cyflwyno sylwadau yn ôl yr angen i Lywodraethau Cymru a'r DU i ddarparu'r pwerau, yr adnoddau a'r cymorth technegol angenrheidiol i awdurdodau lleol yng Nghymru i'w helpu i gyflawni'r nod hwn yn llwyddiannus.
4. Parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y sir, y rhanbarth ac yn genedlaethol i ddatblygu a gweithredu dulliau arfer gorau a all ddiogelu bioamrywiaeth Cymru. Gan gynnwys ceisio dull gweithredu ar y cyd ag awdurdodau cyfagos.
5. Gweithio gyda rhanddeiliaid lleol gan gynnwys Cynghorwyr, trigolion, pobl ifanc, busnesau a phartïon perthnasol eraill, i ddatblygu strategaeth sy'n cyd-fynd ag Un Blaned a Choed Caerdydd gyda tharged o sero net o ran colled bioamrywiaeth. Bydd hyn hefyd yn archwilio ffyrdd o fanteisio i'r eithaf ar fanteision lleol y camau gweithredu hyn mewn sectorau eraill fel cyflogaeth, iechyd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a'r economi.
Dogfennau ategol: