Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu opsiynau llety i blant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghaerdydd.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Sarah McGill (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau), Deborah Driffield (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Plant), a Kate Hustler (Rheolwr Gweithredol, Gofal Dirprwy Deuluoedd) i'r cyfarfod.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Hinchey i wneud datganiad, pan gyfeiriodd at hanes opsiynau llety agosach i'r cartref/datblygu ar gyfer plant a phobl ifanc a chyfeiriodd at y llety o ansawdd uchel a ddarperir yn Falconwood.
Rhoddwyd cyflwyniad i'r Aelodau amlinellu datblygiad opsiynau llety ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.
Gofynnwyd i’r Aelodau wneud sylwadau neu ofyn cwestiynau am y wybodaeth a roddwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
· Nododd yr Aelodau fod lleoliadau y tu allan i'r sir yn cynyddu a bod ganddynt ddiddordeb yn y targed ar gyfer lleoliadau y tu allan i'r sir dros y 2 flynedd nesaf. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y cysyniad y tu allan i'r sir yn gamarweiniol oherwydd maint a chynllun Caerdydd. Mae mwy na 70% o leoliadau y tu allan i'r sir o fewn awr o amser teithio i Gaerdydd. Mae'r cysyniad Agosach at y cartref yn gwneud mwy o synnwyr. Mae'r hyn sy'n angenrheidiol i letya a chefnogi pobl ifanc yng Nghaerdydd yn bwysicach.
· Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd yn ddymunol lleoli plant a phobl ifanc ymhell o Gaerdydd pan nad yw er eu lles gorau, ond weithiau mae angen gwneud hynny pan nad yw'r adnoddau ar gael yn lleol. Nid yw'n synhwyrol gosod targedau ar gyfer nifer y plant a leolir yn lleol, ond y bwriad bob amser fyddai i blant gadw eu cysylltiadau â'u hysgolion, eu teuluoedd a'u cymunedau cyn belled â'u bod yn gallu, a chael mynediad at gyfleoedd gyrfa lleol wrth adael gofal.
· Dywedwyd wrth yr Aelodau ymhellach fod canran uchel o blant a phobl ifanc yn byw gyda theulu neu ffrindiau y tu allan i Gaerdydd neu Gymru, ond roedd o fudd iddynt wneud hynny. Y nod yw i blant Caerdydd fod yng nghartrefi Caerdydd. Pan fydd darparwr a ffefrir yng Nghaerdydd, nodir plant sy'n barod ac yn gallu symud yn ôl i Gaerdydd. Mae'n angenrheidiol o hyd lleoli rhai plant y tu allan i Gaerdydd oherwydd y risgiau iddynt yn y gymuned leol. Nid yw rhai plant a leolir y tu allan yn dymuno dychwelyd am eu bod wedi setlo ac yn gwneud yn dda lle y maent. Nid yw'n bosibl darparu digon o lety yn fewnol o hyd ac mae’n rhaid dibynnu o hyd ar ddarparwyr allanol yn y sector preifat, er bod y cydbwysedd yn symud.
· Dywedwyd wrth yr Aelodau fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn erbyn yr hyn a oedd yn ddarpariaeth gyfyngedig iawn ar y dechrau yng Nghaerdydd. P'un a yw'r Cyngor yn darparu'r gwasanaeth cymorth yn uniongyrchol, mae'n ddymunol mai'r Cyngor sy'n berchen ar y cyfleuster. Mae hyn yn sicrhau bod gan y Cyngor rôl wrth benderfynu ar leoliadau o fewn y cyfleuster, ac mae'n caniatáu darpariaeth hyblyg os bydd anghenion yn newid. Mae bwrdd rhaglen wedi'i sefydlu ac ychwanegir cynlluniau newydd. Mae rhai yn benodol ar gyfer plant. Mae angen cynyddol am y Porth Pobl Ifanc. Mae disgwyl tendrau ar gyfer The Citadel a fydd yn darparu llety hunangynhwysol ar gyfer pobl 16 oed ac yn h?n sydd ag anghenion cymhleth. Mae’r cydweithio ac alinio'r gwasanaeth sy'n amlwg yn glodwiw.
· Trafododd yr Aelodau gyswllt cymunedol. Weithiau mae'n rhaid i gynghorwyr ddelio ag aelodau o'r gymuned nad ydynt yn cydymdeimlo ag anghenion a phrofiadau plant a phobl ifanc mewn cartrefi. Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am y broses o ymgysylltu'n gadarnhaol â'r gymuned lle mae llety newydd yn cael ei gynllunio neu ar y gweill. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y Cyngor, yn achos Falconwood, wedi dechrau ymgysylltu â chymdogion tra bod y gwaith datblygu'n mynd rhagddo, ac mae'r cymdogion wedi bod yn gefnogol. Gwahoddwyd yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol i Falconwood ac maent yn gyfarwydd â'r staff a'r preswylwyr. Mae'r plant yn cymryd rhan mewn timau chwaraeon lleol ac mae ymdrech yn cael ei wneud i ymgorffori'r datblygiad yn y gymuned. Mae'r datblygiad wedi cael derbyniad da, rhywbeth nad yw'n wir am yr holl ddatblygiadau. Byddai'r Cyngor yn ceisio dilyn yr un broses â datblygiadau mewnol yn y dyfodol.
· Dywedwyd wrth yr Aelodau ymhellach mai'r allwedd oedd cael yr eiddo cywir yn y lle cywir. Mae angen mynd i'r afael â materion gofodol sy'n effeithio ar y gymuned leol. Roedd yn bwysig cofio mai cyfrifoldeb corfforaethol y Cyngor oedd y plant ac roedd agen i’r Cyngor eu hamddiffyn. Roedd rhaid i gynghorwyr ymgysylltu'n gadarnhaol â chymunedau lleol i gefnogi datblygiadau o'r fath. Mae'n bwysig na ddylai'r plant gael eu hynysu ond y dylid eu hymgorffori yn y gymuned. Fel arweinwyr a chynrychiolwyr cymunedol, mae angen i gynghorwy fod ar flaen y gad yn hynny o beth. Mae'n sgwrs anodd weithiau ond yn un sydd angen digwydd.
· Atgoffwyd yr Aelodau bod gwahaniaeth rhwng darpariaeth y Cyngor a darpariaeth annibynnol a dywedwyd bod y Cyngor yn adolygu ac yn gwella prosesau, yn meithrin cysylltiadau ac yn trafod cynlluniau gyda darparwyr a ffefrir a chymunedau lleol. Roedd hyn yn y camau cynnar o hyd. Bydd y Cyngor yn dibynnu ar y sector annibynnol am beth amser. Mae'r Cyngor yn mynd ati i sicrhau, pan fydd darparwyr yn dod i Gaerdydd, bod y lleoedd yn cael eu llenwi â phlant o Gaerdydd ac nid plant o fannau eraill. Mae hefyd yn mynd ati i sicrhau bod darparwyr annibynnol a phobl ifanc yn cymryd rhan yn y gymuned.
· Dywedwyd wrth yr Aelodau fod cost uchel eiddo yng Nghaerdydd hefyd wedi arwain at ddibyniaeth ar ddarparwyr y tu allan i'r ddinas. Roedd Llywodraeth Cymru bellach yn cefnogi'r Cyngor i gynyddu'r ddarpariaeth yn y ddinas.
· Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch a fyddai gan y Cyngor y gallu i ddarparu lleoliadau preswyl parhaol i blant nad oeddent yn gallu mynd i ofal maeth ar ôl cael eu hasesu, dychwelyd i'r teulu neu fynd i leoliad perthynas. Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai'n glir ar ôl asesu bod angen i rai plant fod mewn uned breswyl fach. Y gobaith yw y byddai'r Cyngor yn gallu eu cefnogi mewn uned leol fach lle byddent yn gallu mynd i ysgol a chael cysylltiadau â theulu lle bo hynny'n bosibl.
· Dywedwyd wrth yr Aelodau fod adborth yn dangos bod llawer o ddarparwyr yn ailystyried buddsoddi yng Nghymru rhag ofn na allant gadw eu helw. Nid yw elw o reidrwydd yn beth drwg yn dibynnu ar yr hyn a wneir gydag ef. Bydd y Cyngor yn parhau i ddibynnu ar y sector annibynnol ers peth amser oherwydd na fydd yn gallu gwneud darpariaeth fewnol ddigonol am o leiaf 18 mis.
· Canmolodd yr Aelodau'r staff yng nghanolfan asesu Falconwood ar eu hymrwymiad i'r plant yn eu gofal. Gwahoddodd yr Aelodau Swyddogion i ddychwelyd i'r Pwyllgor gyda'r straeon llwyddiant o'r ganolfan ymhen 6 mis.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: