Eitem Agenda

Model Cyflawni Amgen - Canolfannau Hamdden

Penderfyniad:

RESOLVED; that

 

1.            the appointment of Greenwich Leisure Limited (GLL) as the Preferred Bidder for the operation and management of the Leisure Facilities referred to in the report, while ensuring that the Council retains ownership of the facilities be approved;

 

2.            authority be delegated to the Director of City Operations, in consultation with the Cabinet Member for Community Development, Co-operatives and Social Enterprise, the Section 151 Officer and the Monitoring Officer, to finalise the procurement to contract close (including conclusion of the proposed Leisure Operating contract with Greenwich Leisure Limited (GLL) in respect of Eastern Leisure Centre, Fairwater Leisure Centre, Llanishen Leisure Centre, Maindy Centre, Pentwyn Leisure Centre, STAR Centre (Splott), Western Leisure Centre and Penylan Library & Community Centre and to deal with any ancillary documentation and matters);

 

3.            the decision to remove the Channel View Centre from the Council’s wider procurement process due to its improved financial performance and strategic access to the waterfront in Cardiff Bay which is being developed as part of a new Cardiff Bay masterplan (see paragraph 42)be noted; and

 

4.            ongoing discussions with the Trade Unions and consultation with employees, will take place in accordance with the requirements of TUPE legislation, up to and beyond the date of transfer.

 

Cofnodion:

Gwnaeth yr Arweinydd, fel Cadeirydd, ar ôl derbyn cyngor gan Aelodau Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, Cwmnïau Cydweithredol a Menter Gymdeithasol a Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad benderfynu y dylid trafod yr eitem hon yn y cyfarfod fel mater brys oherwydd amgylchiadau eithriadol. Er bod yr eitem hon wedi’i chyhoeddi ar yr Agenda, cwblhawyd yr adroddiad ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2016 ac mae angen penderfynu arno yn y cyfarfod hwn ar frys. Mae ar frys am y rhesymau canlynol: -

 

·         Mae’r adroddiad hwn yn deillio o’r penderfyniad cyllidebol ar ymchwilio i Fodel Darparu Amgen er mwyn sicrhau arbedion sylweddol o ran cynnal Gwasanaethau Hamdden y Cyngor tra bod yr holl gyfleusterau'n parhau ar agor a darparu gwasanaeth cyffelyb i'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd.

 

·         Fel rhan o’r broses benderfynu, roedd yr argymhellion yn yr adroddiad yn destun Craffu cyn gwneud penderfyniad.  Cynhaliwyd cyfarfod o'r Pwyllgor Economi a Diwylliant ddydd Iau, 21 Gorffennaf 2016. Cyflwynwyd llythyrau’r Pwyllgor i'r Aelodau Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, Cwmnïau Cydweithredol a Mentrau Cymdeithasol a Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y diwrnod wedyn, ac er mwyn i'r sylwadau yn y llythyrau hynny ffurfio rhan o'r adroddiad ynghyd ag adborth arall a dderbyniwyd o'r ymgynghoriad gydag Undebau Llafur, cwblhawyd yr adroddiad ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf.

 

·         Adroddwyd y mater hwn i’r Cabinet o’r blaen (gyda’r Cabinet yn awdurdodi dechrau ar y broses gaffael (penderfyniad Cabinet 15 Mai 2014). Ymhellach at hyn, o ystyried pwysigrwydd posib y trefniant cytundebol arfaethedig, gan gynnwys yr arbedion ariannol sylweddol ddylai gael eu cyflawni) felly, caiff ei ystyried yn briodol bod y mater hwn yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cabinet 27 Gorffennaf 2016.

Ystyriodd y Cabinet adroddiad oedd yn manylu ar gynnig i benodi cynigydd a ffefrir ar gyfer gweithredu a rheoli canolfannau hamdden y Cyngor.  Cynigwyd y dylid penodi Greenwich Leisure Limited (GLL) GLL yn gynigydd a ffefrir wrth sicrhau ymgynghoriad cyson ag undebau llafur a staff a effeithir.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            y dylid cymeradwy penodiad Greenwich Leisure Limited (GLL) yn Gynigydd a Ffefrir er mwyn gweithredu a rheoli'r Cyfleusterau Hamdden y sonnir amdanynt yn yr adroddiad, tra'n sicrhau mai'r Cyngor sy'n berchen ar y cyfleusterau;

 

2.            y dylid dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Gweithrediadau’r Ddinas, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, Cwmnïau Cydweithredol a Mentrau Cymdeithasol, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i gloi y gwaith caffael ar y broses o gwblhau’r contract (gan gynnwys cwblhau’r contract Gweithredu Hamdden arfaethedig gyda Greenwich Leisure Limited (GLL) mewn perthynas â Chanolfan Hamdden y Dwyrain, Canolfan Hamdden Y Tyllgoed, Canolfan Hamdden Llanisien, Canolfan Maendy, Canolfan Hamdden Pentwyn, Canolfan STAR (Sblot), Canolfan Hamdden Y Gorllewin a Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan, ac i ymdrin ag unrhyw ddogfennaeth a materion ategol);

 

3.            y dylid nodi’r penderfyniad i ddileu Canolfan Trem-y-Môr o broses gaffael ehangach y Cyngor oherwydd ei pherfformiad ariannol gwell a mynediad strategol i lannau'r d?r ym Mae Caerdydd sy'n cael ei ddatblygu fel rhan o uwchgynllun newydd ar gyfer Bae Caerdydd (gweler paragraff 42); a

 

4.            bydd trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ag Undebau Llafur ac ymgysylltu â chyflogeion yn digwydd yn unol â gofynion deddfwriaeth TUPE, hyd at a thu hwnt i'r dyddiad trosglwyddo.

 

Dogfennau ategol: