Mae’r Cyngor hwn yn nodi:
Ansawdd a gwerth gweithwyr ieuenctid a gwaith ieuenctid sy'n cefnogi pobl ifanc yng Nghaerdydd
Bod gweithwyr ieuenctid yn fodelau rôl gwerthfawr i bobl ifanc
Y rôl allweddol sydd gan waith ieuenctid wrth gefnogi pobl ifanc i wireddu eu potensial llawn
Y gall canolfannau ieuenctid fod yn rhan bwysig o gymunedau
Gwaith caled ac ymroddiad y gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda phobl ifanc ledled Caerdydd
Y partneriaid sy'n gweithio gyda'r Cyngor i gyflawni gwaith ieuenctid o ansawdd yng Nghaerdydd
Nid yw anghenion pobl ifanc wedi'u cyfyngu i un arc benodol yng Nghaerdydd ac er bod amddifadedd yn arwain at fwy o angen, mae angen ym mhob ward
Mae'r cysyniad Cymdogaeth 15 munud yn cynnwys pobl ifanc, eu hanghenion a mynediad i gyfleusterau
Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i:
Sicrhau bod gweithwyr ieuenctid cymwysedig yn gallu cwmpasu Caerdydd gyfan gan eu galluogi i gyrraedd pobl ifanc lle bynnag y maent a phryd bynnag y bo'u hangen
Ymchwilio i'r cydlynu rhwng gweithwyr ieuenctid a'r heddlu a sicrhau bod arferion gorau ar waith ledled Caerdydd gyfan mewn materion sy'n ymwneud â phobl ifanc.
Sicrhau bod gan bobl ifanc, waeth ble yn y ddinas y maent yn byw, fynediad i gyfleusterau ieuenctid a gallant gael gafael ar gymorth yn seiliedig ar waith ieuenctid pan fydd ei angen arnynt
Dod ag adroddiad sy’n amlinellu sut y gellir gwella'r gefnogaeth ar draws y ddinas o fewn 3 mis
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Mia Rees
Eiliwyd gan y Cynghorydd Mike Jones-Pritchard
Dogfennau ategol: