Eitem Agenda

Diweddariad y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet, Plant a Theuluoedd), Paul Orders (Prif Weithredwr), Graham Robb (Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid), Deborah Driffield (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Plant) ac Angharad Thomas (Rheolwr Gweithredol, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid) i'r cyfarfod.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Hinchey a Graham Robb ddatganiadau i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r Diweddariad a ddarparwyd cyn y cyfarfod ynghylch y newidiadau a gyhoeddwyd ddoe ac a fydd yn gymwys o ganol mis Gorffennaf ac yn cynnwys cyfnod rhybudd neu gyfnod arolygu hirach a threfniadau sgorio.  Bydd mwy o bwyslais ar bersonoli; sut rydym yn dangos bod unrhyw gynnig ar gyfer plentyn yn iawn iddynt yn unigol.  Rhagwelir y bydd arolygiad 3 wythnos yn cael ei gynnal rywbryd o'r Hydref ymlaen

 

Gofynnwyd i’r Aelodau wneud sylwadau neu ofyn cwestiynau am y wybodaeth a roddwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·          

Nododd y Pwyllgor y teimlad cadarnhaol a ddaeth drosodd o'r gweithdy gynharach gyda phobl ifanc mewn perthynas â'u profiadau.

 

·          

Trafododd yr Aelodau nifer yr asesiadau sy'n aros i gael eu cymeradwyo a'r drifft.  Esboniodd swyddogion nad oedd yn golygu nad oedd gwaith wedi'i wneud gyda phobl ifanc, nid oedd yr achosion wedi'u cau'n swyddogol a oedd yn golygu ei bod yn ymddangos bod 200 o achosion agored pan mai dim ond 140 oedd mewn gwirionedd.  Roedd problemau gweinyddol hefyd gyda'r asesiadau'n cael eu cymeradwyo, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig, o ganlyniad i salwch, a staff asiantaeth yn gadael.  Mae'r fframwaith Sicrwydd Ansawdd wedi'i ddiwygio ac mae bellach yn cael ei oruchwylio gan reolwr asiantaeth ychwanegol.   Bydd cydymffurfiaeth yn cael ei monitro'n agos. 

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am y dystiolaeth sydd ei hangen i ddangos bod y ddarpariaeth a wneir ar gyfer y person ifanc yn cael yr effaith a ddymunir.  Dywedwyd wrth yr Aelodau fod hyfforddiant pellach, yn enwedig mewn perthynas â chynllunio ac adolygu, wedi digwydd sydd wedi arwain at welliannau mewn hunanasesiadau.  Gan gyfeirio at y dystiolaeth, dywedwyd wrth yr Aelodau ei fod yn ymwneud â barnu risg.  Yn flaenorol, nid oedd lefelau risg wedi'u hasesu'n gywir a'u haddasu'n ddiweddarach.  Nawr mae risg yn cael ei thrafod yn amlach, yn enwedig gyda'r Fforwm Cynllunio Rheoli Risg a chyfarfodydd yn cael eu cynnal sydd wedi golygu eu bod yn fwy hyderus na fydd angen addasiadau ar lefelau risg.  Mae'r holl gyfarfodydd hynny bellach yn cael eu cofnodi yn y System Cofnodi Adolygu Plant.

 

·          

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod tri maes risg yn cael eu hasesu: aildroseddu; niwed difrifol; a diogelwch a lles y plentyn.  Caiff pob achos ei adolygu ar sail 3 mis, yn dibynnu ar ba mor uchel y gellir eu hasesu bob pythefnos neu bob mis.  Cydnabyddir bod cryn ffordd i fynd o hyd cyn mesur canlyniadau ac effaith, ac nid allbynnau yn unig.

 

·          

Eglurodd Graham Robb fod ganddynt fwy o ddiddordeb yn y mesurau dilyniant a chyflawniad hirdymor sy'n cael eu sefydlu ar hyn o bryd – ond mae'n mynd i gymryd peth amser.  Y gobaith yw y bydd dilyniant mewn perthynas â hynny wedi'i wneud erbyn adeg yr Arolygiad. 

 

·          

Nododd y Prif Weithredwr y bu newid sylweddol yn ansawdd y llywodraethu ac mae'n amlwg ar sail y trafodaethau cadarnhaol yn y cyfarfod fod hynny'n tystio i hynny.  Mae darn mawr o reoli newid i'w yrru drwodd o hyd i'w gasgliad ac ni ddylid tanbrisio maint y newid; mae ailstrwythuro yn rhan o'r ymarfer hwnnw ynghyd ag ymarfer a sicrhau ansawdd.

 

·          

Trafododd yr Aelodau effeithiolrwydd partneriaethau strategol.  Nodwyd bod gan y ffordd y mae'r Pwyllgor wedi ei ailgyfansoddi i fod yn dîm datrys problemau partneriaeth y potensial i fod yn effeithiol iawn.  Gall adnabod grwpiau sydd â materion penodol, cael y bobl iawn yn yr ystafell i ddadansoddi'r broblem, gwneud rhywbeth yn ei gylch a mesur yr effaith. 

 

·          

Cyn bo hir, bydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cyhoeddi'r gwaith a wneir ar lwybrau iechyd a lles a fydd yn darparu data ac yn ein meincnodi yn erbyn yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yng Nghymru a Lloegr.  Rhagwelir y bydd effaith hynny i'w gweld erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. 

 

·          

Roedd yr Aelodau'n pryderu bod cyfeiriadau at fylchau yn y ddarpariaeth a'r gwasanaethau yn golygu bod lefelau sylweddol o danfuddsoddi mewn gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid.  Dywedwyd wrthynt y dylai’r gwaith Anghenion Strategol ar y Cyd allu, maes o law, dynnu sylw at a oes bwlch yn y gwasanaeth neu a oes bwlch o ran helpu plant i gyrraedd y gwasanaeth hwnnw. 

 

·          

Trafododd y Pwyllgor y modd y gellir adrodd yn well am ganlyniadau yn gyffredinol a dangos tystiolaeth ohonynt. Nodwyd y bu newid diwylliant enfawr; mae llawer o wahanol fodelau.  Mae angen sgwrs a dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i bobl ifanc a nodi'r newidiadau y maent am eu gwneud ac yn barod i'w gwneud. Bu cysylltiadau ag addysg a'r model hyfforddi.  Derbynnir bod angen llawer o hyfforddiant.  Mae'n bwysig dod yn llawer mwy ymwybodol o ymgysylltu â theuluoedd; mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn tueddu i fod yn ymwneud â'r plentyn yn y system yn unig ond mae'n rhaid ehangu hynny i'r teulu.

 

Roedd cyfarfodydd partneriaeth yn cael eu cynnal yn fisol i drafod setiau data, ac mae hynny bellach wedi dod yn gyfarfod chwarterol gydag astudiaethau achos gwirioneddol yn cael eu hadolygu a'u trafod i weld sut yn union y mae'r gwasanaeth hwn wedi bod yn rhan o'r newidiadau yn eu bywydau. Gellir darparu diweddariadau mewn perthynas â hynny.

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad mewn perthynas â'r 8 achos ers mis Chwefror sydd wedi bod yn destun asesiad Sicrwydd Ansawdd a dywedwyd wrth bob rheolwr fod gan bob rheolwr ddau achos i sicrhau ansawdd; sy'n golygu y bydd pob mis 6 – 8 yn cael eu cynnal yn dibynnu ar nifer y Rheolwyr Tîm ar y pryd. Bydd y ffigurau hynny'n cynyddu. 

 

·          

Trafododd yr Aelodau feincnodi a sut mae'r gwaith Sicrwydd Ansawdd yn cael ei wneud gan Reolwyr Tîm, ac a yw Rheolwyr Tîm yn ystyried gwirio'r broses honno'n allanol, er enghraifft gydag Awdurdodau Lleol eraill. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Rheolwr Gweithredol profiadol o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid arall wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r broses feincnodi, ond mae hynny wedi'i adolygu ers hynny a bod newidiadau wedi'u gwneud.  Cafwyd goruchwyliaeth yn yr adroddiad, mae bellach yn cael ei adrodd mewn Cyfarfodydd Tîm; ar sail 'un wrth un' a ddygir i'r Gwasanaethau Plant ac yna'r Bwrdd.  Mae'n rhaid ei weld fel rhan o'r swydd, sy'n newid diwylliant i staff. 

 

·          

Cyfeiriodd yr Aelodau at y newid diwylliant sy'n digwydd ac holodd beth oedd y farn mewn perthynas â staffio.  Dywedodd y Cyfarwyddwr eu bod yng nghanol proses ffurfiol o ran ymgynghori â'r tîm rheoli presennol.  Gwnaed cynnig newydd mewn perthynas â Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid wrth symud ymlaen; mae'n fodel da ond nid yw wedi'i rannu'n eang eto.  Mae'n gynnig clir iawn; mae'n rhaid cael newidiadau i yrru pethau ymlaen.

 

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol: