CYNIGIWYD GAN Y CYNGHORYDD ED STUBBS
EILIWYD GAN Y CYNGHORYDD KEITH JONES
Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod
Bod gan Gynghorwyr ddyletswydd i hyrwyddo trafodaethau caredig a gonest ar-lein ac all-lein.
Bod trafod a chraffu yn hanfodol i ddemocratiaeth ond bod yn rhaid eu cynnal heb gamdriniaeth.
Bod trafodaethau cadarn yn rhan hanfodol o'r broses graffu ac ni ddylid annog peidio â’u cael.
Bod y cyfryngau cymdeithasol yn lleoedd cynyddol ymosodol lle mae camdriniaeth yn gyffredin.
Mai gwybodaeth anghywir yn aml yw'r sbardun ar gyfer ymddygiad camdriniol o'r fath.
Mai cyfrifon dienw heb unrhyw lwybr atebolrwydd yw'r rhai sy’n ymddwyn yn ffordd hon yn aml.
Mai ffigurau cyhoeddus yw'r targedau ar gyfer ymddygiad camdriniol yn aml a bod yr ymddygiad hwnnw’n anochel yn cael effaith andwyol sylweddol ar eu lles.
Cynnig i:
Gyflwyno cod egwyddorion ar gyfer defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, sydd â phwyslais ar hyrwyddo trafodaethau cywir ac sy'n annog cynghorwyr i beidio ag ysgrifennu na rhannu negeseuon sy'n cynnwys gwallau amlwg neu ymddygiad ymosodol yn erbyn cydweithwyr.
Gofyn i Gynghorwyr ddatgan ar eu datganiad buddiant eu hymwneud ag unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Datblygu Cod Ymarfer ar gyfer grwpiau a sefydliadau y mae'r Cyngor yn gweithio gyda nhw, sy'n gosod disgwyliadau uchel tebyg o ran ymgysylltu parchus a gonest, ac sy'n gofyn iddynt ymddwyn mewn modd tryloyw yn hytrach na gweithredu cyfrifon dienw
Dogfennau ategol: