Eitem Agenda

Perfformiad Chwarter 3 y Gwasanaethau Plant 2020-2021

Galluogi Aelodau i adolygu ac asesu perfformiad y Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd) a Deborah Driffield (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Plant) i’r cyfarfod er mwyn cyflwyno’r adroddiad. 

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Hinchey i wneud datganiad lle cadarnhaodd fod yr adroddiad yn cyfeirio at gyfnod o ddiwedd y cam ailgychwyn, drwy'r cyfnod atal byr a hyd at ddechrau'r ail gyfnod clo llawn ym mis Rhagfyr. 

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad yngl?n â'r gwahaniaeth rhwng y tîm helpu teuluoedd a'r tîm cymorth i deuluoedd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Gwasanaeth Cymorth Cynnar yn ymbarél ar gyfer nifer o wasanaethau; Y Porth a Chymorth i Deuluoedd.  Mae'r gwasanaethau hynny'n rhai cyn statudol ac nid ydynt yn dod dan y Gwasanaethau Plant a gall sefydliadau eraill wneud atgyfeiriadau.  Mae Cymorth i Deuluoedd yn wasanaethau sy’n dod o dan y Gwasanaethau Plant, ond mae hefyd yn gyn statudol a gall pobl gytuno o’u gwirfodd i gael cymorth gan y gwasanaeth hwnnw.

 

·          

Holodd yr Aelodau am y wybodaeth a ddarparwyd, sef canran y plant a leolir mewn lleoliadau a reoleiddir yng Nghaerdydd a gofynnwyd am wybodaeth yngl?n â'r targedau hynny a pham y gostyngwyd canran y rhai a leolir yng Nghaerdydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y targedau wedi gostwng ychydig oherwydd bod cymhelliad;  wrth ystyried lleoliadau rheoleiddiedig yng Nghaerdydd a'r tu allan iddi, roedd y niferoedd ar gyfer y rhai sy'n cael eu lleoli y tu allan i Gaerdydd yn cynyddu oherwydd bod mwy a mwy o blant yn cael eu lleoli gyda pherthnasau a theulu.  Ein nod yw newid y cydbwysedd fel bod mwy o blant yn byw gyda theulu a ffrindiau a hefyd sicrhau nad yw plant yn cael eu lleoli mewn lleoliadau preswyl y tu allan i'r ardal.

 

Gofynnodd yr Aelodau a ellid ychwanegu’r wybodaeth at y Siart a gynhwyswyd gyda'r adroddiad.

 

·          

Holodd yr Aelodau am y cyfeiriad at y targed swyddi gwag Gweithwyr Cymdeithasol o 24% a'r swyddi gwag Gweithwyr Cymdeithasol o 28.2 y cant gan ofyn am eglurhad o'r ffigurau hynny. Dywedwyd wrth yr Aelodau mai'r nod yw lleihau nifer y swyddi gwag, sy'n cael eu cyflenwi gan staff asiantaeth ar hyn o bryd.  Ar hyn o bryd y ffigur yw 27%, 24% yw'r nod.

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth o ran nodi achosion sy'n debygol o greu cynnydd mewn atgyfeiriadau Amddiffyn Plant pan fydd plant a phobl ifanc yn ôl yn y system ysgolion a pha drefniadau sydd ar waith i sicrhau bod y system yn gallu ymdopi â'r galw cynyddol hwnnw.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod cynnydd enfawr wedi bod yn y galw yn gyffredinol.  Mae'r ffigurau'n dangos hyn, mae hyn yn bennaf oherwydd nad ydym wedi gallu gweithio mewn partneriaeth yn ystod Covid, nid yw llawer o'r gwasanaethau wedi bod ar agor.  Ni fu unrhyw gyfle i gyflawni Cynlluniau Dilyniant yn ddiogel er mwyn dadgofrestru plant.  Mae pobl wedi bod yn ofalus, fel sy’n ddoeth.   Mae cyllid dros dro gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi i gyflogi Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol i gefnogi'r Gweithwyr Cymdeithasol.  Mae 4 tîm wedi'u creu yn yr ardaloedd gan fod y galw mor fawr.  Y gobaith oedd cyflogi rhai Gweithwyr Cymdeithasol Oedolion, Gweithwyr Camddefnyddio Sylweddau a Gweithwyr Cam-drin Domestig.  Byddant yn bwysig o ran gweithio gyda'r rhieni.  Bu newid mawr hefyd yng ngwaith y Llys; dylid peidio â mynd i'r Llys oni bai bod yr Awdurdod am i'r plentyn neu'r plant gael eu symud o'u teulu.  O ganlyniad, bydd newid yn y gweithlu gyda'r nod o ddatblygu timau amlddisgyblaethol ar gyfer gwaith cofleidiol o amgylch y teulu.

 

·          

Cyfeiriodd yr Aelodau at absenoldeb salwch staff a'r gwahaniaeth rhwng y rhai yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion, sydd wedi cynyddu'n uwch na 13% eto. Mae'r Gwasanaethau Oedolion tua 8 – 8.5%. Dywedodd y Cyfarwyddwr y bu cynnydd yn ystod y chwarter diwethaf, ond mae'r ffigwr bellach yn ôl o fewn y targed gyda golwg ar y chwarter nesaf.  Caiff absenoldeb salwch ei fonitro'n agos; nid oes llawer o bobl yn absennol oherwydd salwch hirdymor ond mae Covid a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol wedi effeithio arno.

  Dim llawer o bobl yn absennol oherwydd salwch hirdymor.  Mae cael Covid wedi cael effaith ond nid yw wedi helpu gyda chyflwr iechyd sylfaenol ychwaith. 

 

·          

Holodd yr Aelodau am y gyllideb gynyddol ar gyfer y Gwasanaethau Plant eleni a'r adnoddau cynyddol, ac a yw hynny'n ddigonol i ateb y galw.  Dywedwyd wrth yr Aelodau y bu mwy o alw dros y 9 mis diwethaf; y gobaith yw na fydd y galw'n parhau i godi.  Mae'r cynnydd mewn adnoddau yn golygu y gallwn gysylltu ag adrodd ar berfformiad a bydd y ffocws ar symud rhywfaint o'r gyllideb allan o’r maes preswyl a maethu a pherthnasau a allai helpu i roi rhywfaint o gymorth ariannol ychwanegol i deuluoedd gefnogi eu plant eu hunain.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu sylwadau’r pwyllgor yn ystod y drafodaeth o ran y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol: