Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynlluniau adfer o’r pandemig ar gyfer ysgolion.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau); Melanie Godfrey (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes); Mike Tate (Cyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol a Dysgu Gydol Oes), Neil Hardee (Pennaeth Gwasanaethau i Ysgolion); a Suzanne Scarlett (Rheolwr Gweithredol, Partneriaethau a Pherfformiad) i'r cyfarfod.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad pan gadarnhaodd fod ymrwymiad a rennir i sicrhau bod dychwelyd i'r ysgol yn rhywbeth cadarnhaol, mae'n seiliedig ar ail-ymgysylltu a lles gyda chymorth y gellir dibynnu arno. At hynny, er ein bod yn pryderu am effaith y flwyddyn ddiwethaf ar blant, mae'n bwysig nad ydym yn defnyddio iaith sy'n
awgrymu eu bod ar eu colled ac y bydd hynny'n aros gyda nhw. Ni ddylent fod yn genhedlaeth Covid.
Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.
· |
Gofynnodd yr Aelodau i gyfeiriadau at Looked After Children yn y ddogfennaeth Saesneg gael eu diwygio i Children Looked After.
|
· |
Roedd yr Aelodau'n falch o nodi bod dros 20,000 o ddyfeisiau digidol wedi'u dosbarthu a bod y rhai sy'n ymwneud ag addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) wedi cymryd mwy o ran. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol mai'r bwriad yw symud tuag at ddull un i un a arweinir gan ddyfeisiau i'r cyfnod sylfaen ac uwch. Bydd yn helpu gyda'r dull dysgu cyfunol a newid yn yr addysgeg a welwyd yn yr ail gyfnod clo. Mewn perthynas â disgyblion AHY, nid yn unig y bu ymgysylltiad gwirioneddol drwy ddefnyddio technoleg ond hefyd o ran ymgysylltu â gwasanaethau ieuenctid a darpariaeth y tu allan i'r ysgol. Maent i gyd yn gyfleoedd i adeiladu arnynt yn y dyfodol.
|
· |
Cyfeiriodd yr Aelodau at wasanaethau cymorth arbenigol estynedig a holodd a ydynt ar hyn o bryd yn gallu ymdopi â'r pwysau ar y gwasanaethau hynny a sut y cânt eu datblygu yn y dyfodol. Dywedwyd wrth yr Aelodau y gellir gwneud defnydd gwell o’r gwasanaethau cymorth arbenigol drwy ddefnyddio technoleg a'r gwahanol ffyrdd o weithio'n well. Rhaid canolbwyntio ar les a hyder plant a phobl ifanc wrth ddychwelyd i'r ysgol. Mae'n bwysig galluogi athrawon a phenaethiaid addysgu tra byddwn yn rhoi'r cymorth hwn ar waith er mwyn iddynt allu ei ddefnyddio ar gyfer iechyd meddwl, lles ac ati. Yn gysylltiedig â hynny mae'r darn ymgysylltu’r haf a fydd yn helpu i'n symud tuag at ymgysylltu yn llawn amser mis Medi.
|
· |
Cyfeiriodd yr Aelodau at grwpiau blwyddyn arholiadau sy'n dychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon a bod rhai ysgolion wedi cyhoeddi y bydd arholiadau ac asesiadau yn dechrau fis nesaf. Holodd yr Aelodau a yw pob ysgol yn fodlon ar y cynlluniau lles yn yr amgylchiadau sydd ohonynt. Dywedodd yr Aelod Cabinet ei bod yn gobeithio ac yn credu bod pob ysgol yn fodlon ar yr agenda llesiant, mae'n rhywbeth y dylent fod yn meddwl amdano nawr. Gall Llywodraethwyr Ysgol hefyd helpu i wthio'r agenda hwnnw. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, o ran arholiadau cyn y Nadolig, y byddent yn cael eu canslo ond mai dim ond yn ystod yr wythnosau diwethaf y mae'r broses o bennu graddau wedi bod ar gael i ysgolion. Bydd rhai arholiadau yn cael eu cynnal; mewn ystafelloedd dosbarth sy'n llawer gwell ar gyfer lles. Maent hefyd yn un rhan o'r graddau a bennir gan athrawon. Bydd darnau gwaith cwrs ac asesiadau blaenorol yn golygu y gellir cael darlun cyflawn ar gyfer dyfarnu’r radd.
|
· |
Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am nifer yr achosion o Covid ar hyn o bryd mewn ysgolion a nifer yr athrawon sydd wedi derbyn brechiadau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol fod hyd at 60 o achosion y dydd cyn y Nadolig yn sicr. Mae achosion yn parhau ac mae ysgolion ar agor ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed a gweithwyr allweddol. Mae pob ysgol gynradd ar agor o heddiw ymlaen. Bydd y niferoedd yn codi, heb os. Mae achosion yn cael eu cofnodi a’u hadrodd yn ddyddiol, byddwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth am ysgolion yn eich wardiau hefyd. Bydd brechiadau'n magu hyder; mae staff mewn ysgolion arbennig wedi cael blaenoriaeth. Dylid nodi, oherwydd proffil oedran staff ledled Caerdydd, o fewn ychydig wythnosau bydd bron i 60% wedi cael cynnig brechiad. Mae ysgolion hefyd yn cynnig profion dyfais llif unffordd i staff (PLlUau), ddwywaith yr wythnos yn wirfoddol. Mewn ychydig dros wythnos gwnaed 6,500 o brofion; cafwyd dau achos positif a 14 achos annilys, pan nad yw'r ddyfais wedi cofrestru darlleniad. Mae dau PLlu positif wedi arwain at achosion positif. Bydd PLlUau hefyd ar gael i ddisgyblion blwyddyn 10 ac uwch, gellir eu casglu o'r ysgol a mynd â nhw adref.
Byddwn yn eu cynnig i ddisgyblion blwyddyn 10 ac uwch - gallant eu casglu o'r ysgol a mynd â nhw adref. Defnyddir PLlUau pan fydd disgyblion yn asymptomatig. Anfonir yr holl fanylion cyswllt drwodd i Tracio ac Olrhain.
|
· |
Gofynnodd yr Aelodau pryd y bydd ymgysylltu'n digwydd gydag Arweinwyr Ysgolion mewn perthynas â chynllunio strategol hirdymor ac a fydd cynlluniau i ymateb i bryderon ynghylch presenoldeb pan fo’r rheiny’n codi. Dywedodd swyddogion fod y cwricwlwm newydd a'r bil diwygio ADY yn dal i fod ar y gorwel a bod yr ymateb mewn perthynas â lles yn cyd-fynd yn dda â'r cwricwlwm newydd, ymhellach, bydd partneriaid gwella yn parhau i ganolbwyntio ar hynny pan fyddant yn edrych ar y cynlluniau datblygu ysgolion. Mae sawl gr?p ffocws yn edrych ar ddull adfer hirdymor a sbardunir gan gymheiriaid. O ran presenoldeb, er nad oes angen rhoi gwybod amdano o hyd, mae'n hanfodol gweithio arno. Bu problemau gyda phresenoldeb ar-lein, problemau gyda'r anallu i ymgysylltu dros amser ac rydym wedi defnyddio'r panel dysgwyr sy'n agored i niwed i helpu i ail-ymgysylltu ac i gynnal gwiriadau lles. Mae'n bwysig hefyd monitro diffyg presenoldeb a diffyg ymgysylltu.
|
· |
Trafododd yr Aelodau bobl 17 – 18 oed yr adroddir eu bod yn teimlo’n bryderus y rhan fwyaf o'r amser ac yn dod yn NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant); a fydd darpariaeth ddigonol; a sut y gall dysgwyr a theuluoedd gael mynediad at y ddarpariaeth honno. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol at y ffocws ar gwnsela mewn ysgolion a'r gefnogaeth i'n plant ifanc a sut rydym yn parhau i adeiladu pecyn llawn o amgylch ysgolion. Un o'r cyfleoedd sydd wedi codi o ganlyniad i'r pandemig yw'r panel dysgwyr sy'n agored i niwed, pan fo’r dysgwyr hynny sy’n agored i niwed wedi'u nodi ledled y ddinas. Cafwyd ymatebion penodol i'r panel dysgwyr sy'n agored i niwed i ymwneud yn uniongyrchol â'r Gwasanaethau Plant a'n gwasanaethau ein hunain. Mae hynny wedi bod yn arbennig o lwyddiannus.
Mewn perthynas â phontio pobl 16 oed i addysg bellach, dywedodd Swyddogion fod y Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod yn gweithio’n rhithwir ac wedi ymgysylltu â'r rhai sydd wedi ymddieithrio o'r blaen. Mae lefel y NEETs eleni wedi bod yn un o'r isaf erioed ond mae'n rhaid ystyried lefel y cymorth wedyn. Cafwyd cyrsiau a darpariaeth ychwanegol i sicrhau bod hynny'n parhau. Yng Nghaerdydd, roedd ystod eang o gefnogaeth ar gael i bobl ifanc.
Mae pobl ifanc wedi dweud eu bod yn teimlo y gallent elwa o gwnsela mewn ysgolion, fodd bynnag, mae pobl ifanc yn teimlo y dylai hyn fod wyneb yn wyneb yn hytrach nag ar y sgrin. Bydd y rhai sydd angen ymgysylltu wyneb yn wyneb yn cael blaenoriaeth.
Mae angen ystyried bod ysgol yn rhan o’r gymuned hefyd, bydd yn bwysig annog cyfranogiad parhaus gan rieni; datblygu dysgu fel teulu; a datblygu cymorth teuluol a chymunedol parhaus.
|
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu sylwadau’r pwyllgor yn ystod y drafodaeth o ran y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: