Eitem Agenda

Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2022-2023

Craffu cyn penderfynu ar y cynigion i bennu'r Trefniadau Derbyn i Ysgolion ar gyfer 2022 - 2023.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem hon yn galluogi Aelodau i graffu cyn penderfynu ar y trefniadau Derbyn i Ysgolion cyn iddi gael ei hystyried gan y Cabinet ar 18 Mawrth 2021.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau); Melanie Godfrey (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes); Michelle Dudridge-Friedl (Rheolwr Gweithredol, Cynllunio a Darpariaeth); a Richard Portas (Cyfarwyddwr Rhaglen, Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion) i'r cyfarfod.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau fel a ganlyn:

 

·          

Trafododd yr Aelodau y data derbyn i ysgolion uwchradd a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos ddiwethaf a'r data tebygol ar gyfer derbyn i ysgolion cynradd.  Codwyd pryderon mewn perthynas â'r lefelau gordanysgrifio; hyd y breswylfa a'r risg o wahaniaethu anuniongyrchol o gofio'r cartrefi ychwanegol sy'n cael eu hadeiladu mewn gwahanol ardaloedd; a'r pellter y mae'n rhaid i blant deithio i ysgolion eraill sydd, i bob golwg, yn tanseilio'r polisi Teithio Llesol. Nodwyd bod trosolwg sylweddol o'r polisi derbyn a thros feini prawf gordanysgrifio wedi'u cynnal gan ragweld y pwysau ychwanegol ar leoedd mewn ysgolion uwchradd gan WIZERD.  Hyd y breswylfa, ysgolion dalgylch; a materion yn ymwneud â thlodi, er enghraifft, rhoddwyd ystyriaeth i’r holl blant a gafodd brydau ysgol am ddim.  Teimlwyd y gallai hyd y breswylfa wahaniaethu yn erbyn grwpiau penodol, yn enwedig y rhai sy'n fwy symudol.  Un o ddyletswyddau'r Awdurdod yw dileu neu leihau dioddefaint gan bobl sydd â nodweddion prin neu warchodedig; enghreifftiau o'r rhain fyddai plant sipsiwn-teithwyr; ceiswyr lloches; a ffoaduriaid. 

 

Rhagwelir y bydd niferoedd mewn ysgolion uwchradd yn parhau i godi am nifer o flynyddoedd, ond mae'r niferoedd cynradd bellach yn gostwng yn sylweddol ond bydd ardaloedd penodol y bydd galw mawr amdanynt bob amser o fewn y dalgylch neu'r tu allan. Disgwylir y bydd y boblogaeth gyffredinol yn lleihau dros y blynyddoedd nesaf.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod nifer y lleoedd yn cael ei fonitro'n gyson.  Ni ddisgwylid na ragwelwyd maint y gostyngiad o ran  lleoedd mewn ysgolion cynradd ac nid yw'r effaith a gaiff y pan demig ar y ffigurau hynny yn hysbys eto.  Bydd newidiadau i ddalgylchoedd yn cael eu hystyried ar ôl Band B.

 

·          

Holodd Aelod, yn seiliedig ar y ffigurau gordanysgrifio, pam nad oedd Ysgol Uwchradd Caerdydd yn cael lle mwy amlwg ym Mand B y rhaglen adeiladu ysgolion, yn enwedig o ystyried lles plant a theithio llesol pan fydd plant yn teithio pellteroedd.  Nid yw'r Aelod Cabinet yn cytuno mai Ysgol Uwchradd Caerdydd yw'r prif fater wrth drafod y meini prawf gordanysgrifio; nid yw'n ymwneud â grwpiau o blant, mae'n ymwneud â phob plentyn ledled y ddinas. Mewn perthynas ag ysgolion fel Fitzalan, Willows a Cantonian roeddent i gyd yn ysgolion cyflwr categori D.  O ran Cathays, mae plant eisoes mewn adeiladau dros dro oherwydd y niferoedd yn yr ysgol. 

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth yngl?n â sut y caiff rhagfynegiadau o’r ffigurau ar gyfer y dyfodol eu cyfrifo a  chyfeiriwyd at y gordanysgrifio yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain, yr ystâd newydd sy'n cael ei chynllunio ar gyfer safle Llanrhymni yn 2024 a'r datblygiad sydd bellach ar waith ar hen safle Ysgol Uwchradd Tredelerch.   Dywedwyd wrth yr Aelodau, o ran amcanestyniadau, fod swyddogion yn ystyried y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion sy'n rhoi manylion plant ar y gofrestr yng Nghaerdydd.  Cyflwynir y data ar gyfer hynny ym mis Ionawr ac fel arfer fe'i dilysir ym mis Mehefin.  Ceir hefyd y wybodaeth sy'n cael ei darparu ar y niferoedd ar y gofrestr, sy'n amrywio.  Maent yn galluogi’r gwaith o ystyried nifer y plant, y mathau o ysgolion a sut y gwnaed dewisiadau yn hanesyddol. Mae cyfartaledd pwysedig o 3 blynedd sy'n rhoi syniad i chi o ble yr aiff y plant i'r system uwchradd.  Wrth edrych ar y rhai sy'n mynd i mewn i'r system gynradd ystyrir data cofrestriadau meddygon teulu hefyd sy'n rhoi manylion faint o blant sydd wedi'u geni.  Ystyrir hefyd cyfartaleddau derbyniadau pwysedig o 3 blynedd. 

 

O ran safleoedd adeiladu newydd, ystyrir y dalgylch ynghyd â'r lleoliad cyfagos, y tueddiadau o ran addysg cyfrwng Cymraeg/Saesneg a ffydd, pan fo’n debygol y bydd angen lleoedd ychwanegol a ph’un ai a oes lleoedd ar gael eisoes.  Pan wneir cais am ganiatâd cynllunio, rhaid i'r ymgeisydd nodi cyfansoddiad y tai y maent yn disgwyl eu darparu; ceir canllawiau cynllunio atodol sy'n cyd-fynd â'r CDLl; mae hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ond bydd yn dweud wrthych faint o ddisgyblion y byddai angen eu cynhyrchu o ystâd a nifer y lleoedd i’w darparu ar eu cyfer.

 

Mae'n ddarlun cymhleth. Yr ymateb strategol i'r sefyllfa yn Llanrhymni, y penderfyniad oedd buddsoddi mewn un ysgol, Ysgol Uwchradd y Dwyrain, a oedd yn fwy nag un o'r ysgolion ond nid mor fawr â'r ddwy ysgol a ddisodlwyd ganddi.  Llwyddodd i sicrhau cydbwysedd pan gafodd ei hagor.  Mae wedi bod yn llwyddiannus, ond mae lleoedd ar gael yn yr ardal honno. 

 

·          

Trafododd yr Aelodau ddarpariaeth ysgol i’r dyfodol a mynegodd bryder bod yn rhaid i ysgol gynradd ofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer codi dosbarthiadau dros dro.  Mae'n ysgol sydd â wedi’i gordanysgrifio ar raddfa fawr.  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod modiwlau'n cael eu hystyried yn llety parhaol, mae T? Gwyn yn enghraifft wych o hyn.  Mae'n bwysig cael hyblygrwydd ar draws y system ysgolion.  Mae llety ychwanegol wedi'i roi yn Ysgol Uwchradd Cathays sy'n gam da tuag at eu hadeilad newydd.  Ychwanegodd swyddogion nad oedden nhw'n ymwybodol bod unrhyw ysgol sydd wedi gorfod gwneud cais am ei  chaniatâd cynllunio ei hun; byddai rhywun wedi sylw ar hynny. 

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am gadarnhad bod gofynion mewn perthynas â theithio llesol a llwybrau diogel yn cael eu bodloni cyn gofyn i blant newid ysgolion neu ddefnyddio llwybrau gwahanol i'r ysgol. 

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu sylwadau’r pwyllgor yn ystod y drafodaeth o ran y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol: