Eitem Agenda

Mynd i'r afael â’r Allgáu Cymdeithasol ac Unigrwydd a wynebir gan Drigolion Caerdydd yn dilyn Covid-19

Ystyried sut mae’r pandemig Covid-19 wedi cynyddu allgáu cymdeithasol ac unigrwydd i ddinasyddion Caerdydd 18+ oed. Asesu rôl Cyngor Caerdydd wrth fynd i'r afael â'r mater a sut mae'r cyngor yn gweithio gyda phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, elusennau a chymunedau crefyddol mewn ymateb i'r heriau. Yn ystod y cyfarfod bydd Aelodau'r Pwyllgor yn clywed gan amrywiaeth o gyfranogwyr allanol ar sut yr effeithiwyd ar ddemograffeg a'r heriau a wynebir. Bydd y gwaith craffu hwn yn cael ei rannu fel a ganlyn:

  • Trosolwg o sut mae'r Cyngor wedi Ymateb i Allgáu Cymdeithasol ac Unigrwydd yn dilyn y Pandemig  (4:40pm)

Yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles a'r Aelod Cabinet dros Gymunedau a Thai gyda chefnogaeth swyddogion o'r Gyfarwyddiaeth Pobl a Chymunedau i friffio'r Pwyllgor ar sut y mae'r cyngor yn mynd i'r afael â'r mater ac ateb unrhyw gwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor.

  • Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru (5:00pm)

Dylai Aelodau gael y wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru a deall sut mae Llywodraeth Cymru a'r Cyngor yn cydweithio ar y mater hwn.

  • Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Groes Goch Brydeinig (5:15pm)

Aelodau i gael gwybodaeth am sut yr effeithiwyd ar unigolion a'r heriau y mae'r sefydliad yn eu hwynebu a mewnbwn i'r ffordd y gall awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â sefydliadau o'r fath.

  • Sesiwn Dystiolaeth gyda Project Hope (5:30pm)

Aelodau i gael gwybodaeth am sut yr effeithiwyd ar oedolion ifanc (y rhai 18 oed a throsodd) a'r heriau y maent yn eu hwynebu.

  • Sesiwn Dystiolaeth gydag Age Connects Caerdydd a’r Fro (5:45pm)

Aelodau i gael gwybodaeth am sut yr effeithiwyd ar y ddemograffeg h?n a'r heriau y maent yn eu hwynebu a mewnbwn ar sut y gall awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â sefydliadau o'r fath.

  • Sesiwn Dystiolaeth gyda Chynrychiolwyr Cymunedau Crefyddol (6:00pm)

Aelodau i dderbyn gwybodaeth am sut yr effeithiwyd ar rai cymunedau crefyddol (yr Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys Gatholig) a'r heriau y maent yn eu hwynebu.

  • Sylwadau Clo/Myfyrio (6:15pm)

Rhoi cyfle i weithrediaeth ac aelodau pwyllgor y cyngor fyfyrio a gwneud unrhyw sylwadau pellach ar ôl clywed tystiolaeth gan y cyfranogwyr allanol

 

 

Dogfennau ategol: