Cynigiwyd gan Sean Driscoll:
Eiliwyd gan Joel Williams:
Mae’r Cyngor hwn yn nodi:
1) Mae datblygiadau tai mawr newydd yng Nghaerdydd naill ai wedi'u hadeiladu'n ddiweddar, yn cael eu hadeiladu neu'n barod i ddechrau ar y gwaith adeiladu.
2) Mae gan lawer o'r rhain ganiatâd cynllunio gyda chytundebau cynllunio adran 106 ar gyfer amrywiaeth o amwynderau, gan gynnwys o bosibl gyfleusterau cymunedol fel ysgolion, meddygfeydd, neuaddau, siopau, adeiladau cymunedol eraill neu welliannau o ran trafnidiaeth.
3) Mae'r rhwymedigaethau cynllunio ar y safleoedd hyn yn aml yn cynnwys pwynt sbardun, neu derfyn amser meddiannaeth, ar gyfer cychwyn neu gwblhau'r rhwymedigaeth, fel ysgol.
Mae'r Cyngor hwn hefyd yn nodi y bu achosion pan nad yw cyfleusterau cymunedol ar ddatblygiadau newydd yng Nghaerdydd wedi'u cychwyn neu eu cwblhau ar y pwynt sbardun y cytunwyd arno. Mae hyn yn effeithio ar y gwasanaethau sydd ar gael i breswylwyr newydd, yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau presennol oddi ar y safle a gall arafu'r broses o ffurfio cysylltiadau cymdeithasol yn y gymuned newydd. Gall hefyd gyfyngu ar y modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus gan y Cyngor hwn, yn ogystal ag effeithio ar y gwaith o gyflawni’r CDLl ac effeithio ar gymunedau a seilwaith cyfagos eraill sy'n bodoli eisoes.
Mae'r Cyngor hwn yn galw ar:
1) Ddatblygwyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag amodau a rhwymedigaethau adran 106 o fewn caniatadau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd mawr.
2) Y Cabinet i gyflwyno adroddiad yn amlinellu sut y caiff trefn gorfodi cynllunio'r Cyngor ei chryfhau o ran adeiladu darpariaethau, yn enwedig cyfleusterau cymunedol, y mae rhwymedigaethau adran 106 yn berthnasol iddynt, ar ddatblygiadau newydd. Dylai hyn gynnwys sut y cyflawnir hyn yng nghyd-destun y Cynllun Datblygu Lleol presennol ac unrhyw gynllun newydd.
Dogfennau ategol: