Eitem Agenda

Penodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant

I gyfweld ymgeiswyr a dod I’r casgliad o’r broses ar gyfer penodi swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ei ymgynnull i gyfweld â'r ymgeisydd ar y rhestr fer a gyflwynwyd gan y Pwyllgor ar 14 Ionawr 2021 ar ôl ystyried canlyniadau'r Ganolfan Asesu.

 

Fel rhan o'r broses gyfweld, gwnaeth yr ymgeisydd gyflwyniad 10 munud a rhoddwyd cyfle i'r Aelodau holi a chwestiynu cynnwys y cyflwyniad.   Dilynwyd hyn gan gyfres ffurfiol o gwestiynau a dau gwestiwn gorfodol.

 

Ar ddiwedd y broses gyfweld, trafododd y Pwyllgor berfformiad yr ymgeisydd yn erbyn y cymwyseddau a’r ymatebion enghreifftiol.

 

Cytunodd y Pwyllgor eu bod yn gallu penodi i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant.

 

PENDERFYNWYD -

 

1.    Penodi Ms Deborah Driffield yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Plant ar y cyflog sy'n gysylltiedig â'r swydd a'r dyddiad cychwyn i'w gytuno gyda'r ymgeisydd yn unol â'r cyfnod ymddiswyddo a chwblhau'r broses benodi gan y Cyngor; a

Bod y broses ddethol wedi’i chynnal yn unol â'r broses benodi ac roedd pob ymgeisydd wedi cael ei drin yn gyfartal ac yn deg.   Penodwyd yr ymgeisydd llwyddiannus ar sail teilyngdod.

Dogfennau ategol: