(Papurau I ddilyn)
Ystyried rhestr fer ymgeiswyr ar gyfer swydd Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Plant yn dilyn y ganolfan asesu.
Cofnodion:
Ailymgynnull y Pwyllgor Penodi ar gyfer swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Plant i dderbyn ac ystyried canfyddiadau'r Ganolfan Asesu.
Cyflwynodd Nick Clark, yr Asesydd Arweiniol Allanol, y canfyddiadau ar gyfer pob un o'r 5 ymgeisydd yn dilyn ymarferion y ganolfan asesu, a'r sgorau yn erbyn y cymwyseddau ymddygiadol ar gyfer y rôl. Ystyriodd y pwyllgor, ar sail y meini prawf hanfodol, y canlyniadau asesu a ffurflenni cais gwreiddiol yr ymgeiswyr, ba ymgeiswyr y dylid eu gwahodd i gyfweliad ffurfiol.
PENDERFYNWYD -
1. Bod ymgeisydd 15082 yn cael ei wahodd i gyfweliad.
2. Bod yr ymgeiswyr yn cael gwybod am y pwnc cyflwyno a ddewiswyd ac y dyrennir uchafswm o 10 munud ar gyfer y cyflwyniad; a
3. Bod y cwestiynau a ddewiswyd yn cael eu cwblhau ar gyfer y Pwyllgor cyfweld
Dogfennau ategol: