Eitem Agenda

Cynnig 1

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Iona Gordon:

Eiliwyd gan y Cynghorydd Jane Henshaw:

 

 

Gadewch i ni wneud Caerdydd Fwy Gwyrdd, yn fwy Iach ac yn Fwy Gwyllt!

 

Nod y cynnig hwn yw gwella Strategaeth Un Blaned y Cyngor o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chynyddu bio-amrywiaeth yng Nghaerdydd.

 

Byddai camau gweithredu yn adeiladu ar y gwaith y mae Cyngor Caerdydd eisoes yn ei wneud o ran cadw ei barciau a'i fannau agored.

 

Gan weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol llawr gwlad, grwpiau Cyfeillion a sefydliadau amgylcheddol, bydd y Cyngor yn galluogi sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder hinsawdd y tu hwnt i'r gwasanaethau hanfodol y mae'r Cyngor yn eu darparu.

 

Mae perthynas y Cyngor â grwpiau cymunedol llawr gwlad wedi’i sefydlu ers tro ac mae’r Gwasanaeth Parciau yn gweithio mewn partneriaeth â tua hanner cant o sefydliadau partner, sydd dros amser wedi dylanwadu, ac yn parhau i ddylanwadu, ar bolisïau, strategaethau a materion gweithredol.

 

Yn benodol, mae partneriaeth strategol â'r RSPB wedi’i sefydlu ers tro ac mae tri phrosiect mawr sy'n cynnwys y ddau bartner yn bodoli, a'r rhain yw;

 

  • Prosiect Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd,a ddechreuodd yn 2016, hefyd mewn partneriaeth â Buglife Cymru ac a ariennir drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy'n ceisio ymgysylltu cymunedau a phlant lleol yng Nghaerdydd â natur, gan gynnwys cefnogi’r gwaith o ddatblygu cynefinoedd sy'n dda i bryfed peillio.
  • Prosiect Partneriaeth Tirwedd Gwastadeddau Gwent, a ddechreuodd yn 2018, Cynllun Partneriaeth a Ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n ceisio ailgysylltu pobl â Thirwedd Gwastadeddau Gwent.
  • Ynys Echni - Prosiect Cerdded Drwy Amser lle dyfarnwyd grant datblygu Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gwerth £150k i'r Cyngor yn 2018 tuag at gam cyntaf prosiect treftadaeth a chadwraeth mawr gwerth £1.3 miliwn, mewn partneriaeth â'r RSPB a Chymdeithas Ynys Echni.

 

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

1.    Ein datganiad o Argyfwng Hinsawdd yn 2019

 

2.    Yr ymateb i gr?p gorchwyl a gorffen Bio-amrywiaeth Pwyllgor Craffu Amgylcheddol y Cyngor

 

3.    Bod y Cyngor yn datblygu rhaglen uchelgeisiol a mawr sy'n ceisio cynyddu’r bargod coed ar draws y ddinas o 19% i 25% erbyn 2030. Mae nifer o geisiadau am arian allanol, sydd â'r potensial i ddenu buddsoddiad sylweddol, yn cael eu hystyried gan gyrff ariannu. Bydd cwmpas a graddfa'r cynlluniau sydd gennym ar waith yn fwy nag unrhyw Ddinas Graidd arall.

 

4.    Y cynigion cynaliadwyedd arbennig ynghylch ynni, tai a thrafnidiaeth y mae'r Cyngor wedi'u datblygu.

 

5.    Y pwysau ar ddinas sy'n tyfu'n gyflym i ddarparu tir ar gyfer defnyddiau fel tai, addysg a swyddi.

 

6.    Bod y cyngor wedi cytuno i ymgynghori ar adnewyddu ein Cynllun Datblygu Lleol, a fyddai'n creu cyfle i gryfhau amddiffyniadau amgylcheddol. 

 

7.    Ac yn canmol y gwaith rhagorol sydd wedi’i wneud gan drigolion, gwirfoddolwyr a grwpiau rhanddeiliaid i blannu coed a gwella natur a bioamrywiaeth leol. Mae staff y Gwasanaeth Parciau a'r Gwasanaethau Cymdogaeth yn hwyluso ac yn cefnogi gwaith gwirfoddolwyr ac mae'n rhaid rheoli hyn / sicrhau adnoddau ar ei gyfer. 

 

Felly mae'r cyngor hwn yn cynnig:

 

1.    Cyhoeddi cynllun ar gyfer plannu coed ar raddfa fawr yn y ddinas. Er mwyn i grwpiau lleol, ysgolion Caerdydd a phlant ysgol gael cyfleoedd i blannu o fewn yr parth cyhoeddus.

 

2.    Sefydlu Planhigfa Goed Gyhoeddus newydd yn Fferm y Fforest.  Mae'r Cyngor yn elwa ar dîm o Swyddogion Coedyddiaeth a Thyfwyr Coed cymwys a phrofiadol a fydd yn rhoi cyngor ac arweiniad i drigolion a grwpiau cymunedol. Bydd y blanhigfa’n canolbwyntio ar luosogi stoc o darddiad lleol.

 

3.    Nodi tir y gellir ei ddefnyddio gyda chymunedau lleol ar gyfer gerddi cymunedol, parciau poced, mannau tyfu, a mannau cyfarfod a gweithio gyda'r grwpiau hyn i feithrin ffyrdd iach o fyw a chynyddu bio-amrywiaeth lleol, yn enwedig yn ardaloedd mwy trefol y ddinas.

 

4.    Diogelu a gwella natur a mynediad cyhoeddus ar gyfer cerdded a beicio, ar hyd glannau ein hafonydd ac o amgylch ymyl Bae Caerdydd.

 

5.    Cefnogi mudiad y Dinas Parc Cenedlaethol yng Nghaerdydd gan sicrhau bod holl adnoddau'r Cyngor yn cefnogi'r mudiad hwn sy'n cael ei arwain gan bobl.

 

6.    Gofynnwn i'r cynigion hyn gael eu hystyried gan y Cabinet.

 

.  

 

 

 

Dogfennau ategol: