Eitem Agenda

Cynnig 1

Cynigiwydgan:        Y Cynghorydd Mia Rees

 

Eiliwyd gan:              Y Cynghorydd Oliver Owen

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

1)        Y bydd y Coronafeirws yn effeithio arnon ni am beth amser.  Mae wedi effeithio ar agweddau allweddol ar fywydau pobl, gan gynnwys eu bywydau cymdeithasol. Mae wedi atal pobl rhag gweld eu grwpiau cyfoedion a’u ffrindiau.

2)        Bod grwpiau, gan gynnwys clybiau, cymdeithasau, grwpiau crefyddol a sefydliadau cymunedol sy’n cynnig gweithgareddau a chyfle i gwrdd yn gymdeithasol wedi gorfod stopio cwrdd yn gorfforol a bod rhai mewn perygl go iawn o orfod cau’n barhaol oherwydd hynny.

3)        Bod mwy o allgau cymdeithasol ymhlith trigolion unigol yn arwain o bosibl at salwch, yn enwedig problemau iechyd meddwl.

4)        Bod nifer o grwpiau ledled y ddinas yn cael eu rhedeg gan bobl nad oes ganddynt gyfrifiadur o bosibl neu nad ydynt yn gwybod sut i ddefnyddio cyfrifiadur.

5)        Y gallai fod angen i grwpiau talu mwy o gostau wrth ddefnyddio technoleg cyfarfod yn rhithwir.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:

 

1)        Parhau i fynd i'r afael â phroblemau unigrwydd a achosir gan y Coronafeirws ym mhob gr?p oedran ond yn enwedig yr henoeda phobl sy’n agored i niwed.

2)        Cyflwyno pecyn o fesurau i gynorthwyo grwpiau lleol ledled Caerdydd a allai gynnwys y mesurau canlynol:

·         Grantiau bach wedi'u clustnodi i alluogi grwpiau lleol i fforddio tanysgrifiadau i ddefnyddio cyfleusterau cyfarfod yn rhithwir.

·         Hyfforddiant i'r rhai nad oes ganddynt brofiad o ddefnyddio cyfarfodydd rhithwir er mwyn iddynt gael y budd mwyaf ohonynt.

·         Ystyried pa gymorth effeithiol a graddfa fach arall sydd wedi'i dargedu y gellir ei gynnig i grwpiau lleol ledled Caerdydd.

3)        Rhoi cyngor a chymorth i grwpiau sy'n cwrdd wyneb yn wyneb eto pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

4)        Sicrhau y bydd y Cyngor yn cynnig sesiynau ar-lein i grwpiau ar negeseuon allweddol i helpu trigolion fel gostyngiadau’r dreth gyngor, gwasanaethau larwm cymunedol, sut i ddysgu ar-lein a sut i gael gafael ar wasanaethau i gefnogi pobl sy'n byw gyda demensia

 

Dogfennau ategol: