Eitem Agenda

Penodi Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes

I gyfweld ymgeiswyr a dod I’r casgliad o’r broses ar gyfer penodi swydd Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes.

Cofnodion:

Cynullwyd y Pwyllgor i gyfweld â'r tri ymgeisydd ar y rhestr fer a gyflwynwyd gan y Pwyllgor ar 13 Gorffennaf 2020 ar ôl ystyried canlyniadau'r Ganolfan Asesu.

 

Fel rhan o'r broses gyfweld, gwnaeth pob ymgeisydd gyflwyniad 10 munud a rhoddwyd cyfle i'r Aelodau holi a chwestiynu cynnwys y cyflwyniad.    Dilynwyd hyn gan gyfres ffurfiol o gwestiynau a dau gwestiwn gorfodol.

 

Ar ddiwedd y broses gyfweld, trafododd y pwyllgor berfformiad pob ymgeisydd yn erbyn y cymwyseddau a’r ymatebion enghreifftiol.

 

Cytunodd y Pwyllgor eu bod yn gallu penodi i swydd Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes.

 

PENDERFYNWYD -

 

1.    Penodi Ms Melanie Godfrey yn Gyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y cyflog sy'n gysylltiedig â'r swydd a'r dyddiad cychwyn i'w gytuno gyda'r ymgeisydd yn unol â'r cyfnod ymddiswyddo a chwblhau'r broses benodi gan y Cyngor; a

 

Bod y broses ddethol wedi’i chynnal yn unol â'r broses benodi ac roedd pob ymgeisydd wedi cael ei drin yn gyfartal ac yn deg.   Penodwyd yr ymgeisydd llwyddiannus ar sail teilyngdod.

Dogfennau ategol: