Ystyried rhestr fer ymgeiswyr ar gyfer swydd Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn dilyn y ganolfan asesu.
Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor Penodiadau ei ailgynnull i dderbyn ac ystyried canfyddiadau’r Ganolfan Asesu. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Ymgeiswyr 4 a 18 wedi tynnu'n ôl cyn y Broses Asesu. Roedd gan y Pwyllgor 6 Adroddiad Asesu i'w hadolygu.
Wrth wneud ei benderfyniad, ystyriodd y Pwyllgor gais gwreiddiol pob ymgeisydd, sut sgoriodd pob ymgeisydd yn erbyn cymwyseddau gofynnol y swydd a’r asesiad ysgrifenedig ar bob un o’r tasgau oedd yn trafod cryfderau a sgiliau’r ymgeisydd. Ystyriodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno dau ymgeisydd am gyfweliad.
Ystyriodd y Pwyllgor yr opsiynau pwnc cyflwyno gan osod cwestiynau ar gyfer y broses gyfweld.
PENDERFYNWYD:
1. Gwahodd ymgeiswyr 13, 16 a 17 i gyfweliad.
2. I roi gwybod i’r ymgeiswyr beth fydd testun y cyflwyniad ac y caiff uchafswm o 10 munud ar gyfer hwnnw; a
llunio’r cwestiynau terfynol ar gyfer y pwyllgor cyfweld.
Dogfennau ategol: