Eitem Agenda

Eitemau Agenda'r Cabinet i'w hystyried (i ddilyn)

Cofnodion:

Darpariaeth Ysgol Gynradd newydd i wasanaethu rhannau o Greigiau/Sain Ffagan, Radur/Pentre-poeth a’r Tyllgoed.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd, Richard Portas, Cyfarwyddwr Rhaglen Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion, Brett Andrewartha, Rheolwr Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion a Liz Weale, Rheolwr Gweithredol Caffael a Phartneriaethau a’r Gwasanaethau Cyfreithiol i’r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad ac ynddo dywedodd, er bod yr amgylchiadau sydd ohonynt yn anarferol iawn, fod cam arall yn y gwaith o ddatblygu’r ysgol newydd ac ychwanegodd ei bod yn ysgol CDLl newydd arall, a fyddai’n ysgol ddwy ffrwd â dau ddosbarth mynediad ynghyd â dosbarth meithrin.   Gan esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'r ddwy ffrwd, cyfeiriodd y Cynghorydd Merry at gyflenwad cyffredinol o amgylch y safle ac nad oedd eisiau tanseilio'r ysgolion presennol, wrth roi dewis i rieni ar yr un pryd.  Amlinellwyd yr hyblygrwydd a'r cyfle i newid cydbwysedd y ddarpariaeth Gymraeg/Saesneg mewn ymateb i'r galw hefyd.

Ychwanegodd Richard Portas fod yr adroddiad wedi bod trwy ddau o gyfarfodydd y Cabinet ac ymgynghori manwl; dyma oedd diwedd y broses a rhoddwyd sylw i bob ymholiad a godwyd yn sgil adroddiadau blaenorol yn yr adroddiad hwn.  Nodwyd bod Caerdydd yn cofnodi cyfranogiad o 17% yn y ddarpariaeth Gymraeg a bod yr ysgol newydd hon yn rhoi cyfle i godi’r ganran honno’n fawr.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau fel a ganlyn:

 

Nododd yr Aelodau fod y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc wedi bod yn craffu ar hyn yn ei gyfarfodydd yn y gorffennol a bod llythyr wedi’i anfon i’r Cynghorydd Merry yn gofyn am adroddiad arall am recriwtio Staff a Llywodraethwyr ar gyfer yr ysgol. Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd dyddiad agor yn yr adroddiad oherwydd pandemig COVID-19, ond y gellid cyflwyno adroddiad arall am recriwtio i’r Pwyllgor. Fodd bynnag, nodwyd y byddai rhiant-lywodraethwyr yn bendant, ond y dylid recriwtio Llywodraethwyr eraill ym mhob maes ar sail sgiliau a bylchau sgiliau.  Pwysleisiwyd bod angen i'r cydbwysedd fod yn iawn heb fod y naill gyfrwng yn fwy blaenllaw na'r llall.

 

Trafododd yr Aelodau a’r Swyddogion bwysigrwydd recriwtio pennaeth gan y byddai angen i'r pennaeth ddeall model a gweledigaeth yr ysgol yn llawn, a chan fod hon yn enghraifft newydd o'r math hwn o ysgol yng Nghaerdydd, byddai angen ei fonitro’n gyson a byddai angen iddo lwyddo pe bai'n dod yn fodel ar gyfer y dyfodol.

 

Nododd yr Aelodau fod y gwaith o ddarparu’r ysgol yn seiliedig ar gytundeb A106 a gofynwyd am y risgiau pe bai'r ymgeisydd yn penderfynu amrywio'r cytundeb A106 oherwydd y pandemig a'r dirywiad yn y farchnad dai.  Eglurodd y Swyddogion fod trafodaethau ar y gweill i ddeall gwir effaith y pandemig, ond roedd sawl ffordd o liniaru oedi drwy'r broses a rhaglennu o safbwynt technegol ac ymarferol. Amrywio'r A106 yw'r hyn yr oedd y datblygwr wedi'i gynnig, mae'n anochel y bydd rhywfaint o effaith ond mae'r datblygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw gynigion cytunedig ar gyfer amrywiad am y tro.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd cynllun wrth gefn pe bai angen oedi agor am flwyddyn.  Esboniodd y Swyddogion y rhagwelir lleoedd mewn ysgolion ar sail anghenion y datblygiadau tai sy’n cael eu datblygu. Mae cartrefi a adeiladwyd yn creu’r angen am yr ysgol; fodd bynnag, gellid lleoli’r disgyblion yn rhywle arall os oes angen. Nodwyd bod disgwyl i nifer y disgyblion ar gyfer 2021/22 yn y ddinas gyfan fod yn is na'r blynyddoedd diwethaf, felly gellid lleoli disgyblion mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg os byddai angen. Pan fydd yr ysgol newydd yn agor bydd ar gyfer disgyblion meithrin, dosbarth derbyn a blynyddoedd 1 a 2.

 

Trafododd yr Aelodau a'r Swyddogion fodel Gwlad y Basg yn Sbaen sy’n llywio ethos yr ysgol a nodwyd ganddynt hanes gwleidyddol gwahanol iawn y ddwy wlad.  Eglurodd yr Aelod Cabinet na allwch ddibynnu'n llwyr ar ysgolion Cymraeg i adfywio'r Gymraeg o ddifrif.  Ychwanegodd fod y Gymraeg yn hanesyddol wedi'i haddysgu mewn ysgolion Saesneg yn yr un modd ag ieithoedd modern, ac nad oedd hynny'n ddelfrydol; bydd hyn yn rhoi dewis arall i rieni i'w plant ddysgu iaith fyw ac nid yn unig basio arholiad ynddi.

 

Gofynnodd yr Aelodau am unrhyw wledydd eraill sydd â'r model hwn.  Dywedodd yr Aelod Cabinet eu bod wedi cael cyngor gan arbenigwr ymchwil ar hyn ac, o ganlyniad, dewiswyd model Gwlad y Basg yn Sbaen.  Ychwanegodd y Swyddogion fod y model wedi cael ei ddatblygu ers y 1980au ac er ei fod yn cydnabod y gwahanol dirweddau gwleidyddol rhwng y ddwy wlad, yr un oedd y weledigaeth hirdymor.  Ar hyn o bryd mae tua 20% o bobl yng Nghaerdydd yn siarad Cymraeg a, thros amser, cafwyd cynnydd 90% yn nifer y siaradwyr Basgeg yng Ngwlad y Basg yn Sbaen.  Nodwyd hefyd fod Saesneg, gyda defnydd sylweddol o'r model Cymraeg, yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o Gymru ac mae modelau tebyg hefyd yn India.

 

Roedd yr Aelodau o'r farn y dylid bod wedi cynnwys y tri gwrthwynebiad a ddaeth i law yn yr adroddiad er mwyn sicrhau tryloywder.

 

Nododd yr Aelodau fod rhai plant yn ei chael yn anodd dysgu ieithoedd ac y dylid ystyried hyn.

 

Gofynnodd yr Aelodau beth fyddai'n digwydd pe bai'r galw am un ffrwd yn fwy na'r galw am y llall.  Dywedodd yr Aelod Cabinet nad ydynt yn bwriadu darparu un ysgol yn unig ar gyfer y datblygiad tai yn gyffredinol; wrth i safleoedd eraill gael eu datblygu, byddant yn adlewyrchu'r galw ac yn ceisio creu galw hefyd.  Nodwyd bod ymgynghori wedi bod yn anodd gan nad oedd y tai wedi'u hadeiladu ac nad oedd unrhyw wybodaeth am bwy fyddai'n prynu'r tai ac roedd rhagfynegi lleoedd mewn ysgolion a’r galw amdanynt yn heriol iawn. O ran nifer y lleoedd, nid oedd yr Aelod Cabinet yn gweld problem ar hyn o bryd. Mae cyfraddau genedigaethau wedi gostwng ac mae lleoedd ar gael mewn ysgolion eraill; mae’n dibynnu ar ddewis y rhieni. Byddai'r ysgol hon yn cael ei hyrwyddo fel dewis cadarnhaol/gwahanol a byddai'r gallu i ehangu yn y dyfodol yn cael ei ymgorffori.

 

Nododd yr Aelodau ei bod yn anodd i rieni ddewis pa ysgol i anfon eu plant iddi ac roedd hyn yn aml yn seiliedig ar ble maent yn byw a'r ysgol leol, ond mae eraill yn dewis ysgolion yn seiliedig ar berfformiad ac nid o reidrwydd iaith.  Dywedodd yr Aelod Cabinet mai rhagfynegi faint o galw y bydd gan rieni oedd yr hyn y maent yn ceisio ei wneud.  Cyfeiriodd y Swyddogion at Cymru 2050 ac fel rhan o hynny fe wnaethant arolygu rhieni mewn perthynas â darpariaeth Gymraeg ac roedd hyn wedi bod yn arwydd da i helpu yn y cynllunio.

 

CYTUNWYD: i ysgrifennu at Aelodau unigol y Cabinet gyda sylwadau ac argymhellion y Panel ynghyd ag unrhyw argymhellion y maent yn dymuno'u gwneud.